Rhybudd Preifatrwydd Parcio
Y dibenion yr ydym yn defnyddio'ch data personol ar eu cyfer
Bydd y wybodaeth a gasglwn amdanoch yn cael ei defnyddio at ddiben(ion):
- Monitro a Gorfodi Atal Parcio
- Gweinyddu Tocyn Tymor, Trwydded Parcio a Hepgor / Gollyngiad
- Atal a chanfod trosedd
Y sail gyfreithlon dros brosesu eich gwybodaeth yw:
· Mae angen prosesu i gyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i freinio yn y cyngor.
· Deddf Rheoli Traffig 2004
· Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2013
· Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Sylwadau ac Apelau) (Cymru) 2013
Pa fath o wybodaeth ydyn ni'n ei defnyddio?
Gallwn gasglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi i ddarparu'r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
- Enw
- Cyfeiriadau cyfredol a blaenorol
- Dyddiad Geni
- Rhif(au) ffôn
- Cyfeiriad e-bost
- Manylion banc /talu
- Manylion cerbyd gan gynnwys rhif cofrestru, gwneuthuriad a model y cerbyd
- Manylion contract prydlesu /llogi'r car
- Ffotograffau o'ch cerbyd
- Gwybodaeth am eich iechyd
- Gwybodaeth am eich cyllid
- Gwybodaeth am y Bathodyn Glas
- Ffilmiau teledu cylch cyfyng
Ydyn ni'n defnyddio gwybodaeth a dderbynnir o ffynonellau eraill?
I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol gennych chi ond rydym hefyd yn derbyn gwybodaeth o'r ffynonellau canlynol:
- DVLA
- Adrannau Refeniw a Budd-daliadau (o fewn Cyngor Sir Powys ac Awdurdodau Lleol eraill)
- Adrannau Cofrestru Etholiadol (o fewn Cyngor Sir Powys ac Awdurdodau Lleol eraill)
- Adran Ystadau Cyngor Sir Powys
- Adrannau'r Bathodyn Glas (o fewn Cyngor Sir Powys ac Awdurdodau Lleol eraill)
- Heddlu Dyfed Powys ac Awdurdodau Heddlu eraill
- Cyngor ar Bopeth
- Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru
- Asiantau Gorfodi
- Tribiwnlys Cosbau Traffig
- Canolfan Gorfodi Traffig
- Cwmnïau Llogi Ceir
- Motability
- European Parking Collection Ltd
Gellir cael y mathau canlynol o ddata personol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
- Enw
- Cyfeiriadau cyfredol a blaenorol
- Dyddiad Geni
- Rhif(au) ffôn
- Cyfeiriad e-bost
- Manylion banc /talu
- Gwybodaeth am eich iechyd
- Gwybodaeth am eich cyllid
- Gwybodaeth am y Bathodyn Glas
- Manylion contract prydlesu /llogi'r car
Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor
Trosglwyddir eich gwybodaeth dramor gan gontractwr preifat i aelod-wladwriaethau perthnasol yr UE os yw'ch cerbyd yn gerbyd a gofrestrwyd dramor.
Rydym yn gwneud hyn er mwyn gorfodi tramgwyddau parcio sy'n gysylltiedig â cherbydau a gofrestrwyd dramor.
Mae'r mesurau diogelwch canlynol ar waith i amddiffyn eich data:
- Mae'r contractwr preifat yn cydymffurfio â'r GDPR
Gyda phwy y gellir rhannu'ch gwybodaeth (yn fewnol ac yn allanol)?
Gallem rannu eich gwybodaeth gyda'r derbynwyr canlynol yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
Yn fewnol:
- Refeniw a Budd-daliadau
- Cofrestru Etholiadol
- Tîm y Bathodyn Glas
Yn allanol:
- DVLA
- Adran Refeniw a Budd-daliadau Awdurdodau Lleol Eraill
- Adrannau Cofrestru Etholiadol Awdurdodau Lleol eraill
- Adrannau Bathodyn Glas Awdurdodau Lleol eraill
- Heddlu Dyfed Powys ac Awdurdodau Heddlu eraill
- Cyngor ar Bopeth
- Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru
- Asiantau Gorfodi
- Y Tribiwnlys Cosbau Traffig
- Canolfan Gorfodi Traffig
- Cwmnïau Llogi Ceir
- Motability
- European Parking Collection Ltd
Mae yna sefyllfaoedd penodol eraill hefyd lle mae'n bosibl y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, fel:
- Lle mae'n ofynnol i'r Cyngor ddarparu'r wybodaeth yn ôl y gyfraith
- Lle mae angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ganfod trosedd
- Lle mae datgelu er budd hanfodol yr unigolyn dan sylw