Toglo gwelededd dewislen symudol

y Gaer: Gwirfoddoli

Bydd y prosiect cyffrous hwn yn cynnig cyfleoedd di-ri i wirfoddolwyr, gan gynnwys:-

  • Goruchwylwyr Orielau - Fel Goruchwyliwr Orielau, chi fydd y wyneb cyfeillgar a serchog o fewn orielau y Gaer.  Byddwch yn gyfrifol am gyfarch y cyhoedd, ateb cwestiynau ar arddangosfeydd ac anfon cwestiynau a manylion cyfraniadau posibl ymlaen i'r tîm o guraduron.
  • Gwirfoddolwyr Casgliadau - Fel Gwirfoddolwr Casgliadau, bydd cyfle i chi weithio'n uniongyrchol gyda'r gwrthrychau hanesyddol sydd o fewn y casgliadau, ochr yn ochr â'r curaduron.
  • Gwirfoddolwyr Cymorth yn y Llyfrgell - Bydd dyletswyddau'n cynnwys helpu cynorthwywyr y llyfrgell gyda thasgau megis dod o hyd i eitemau i gwsmeriaid, rhoi stoc nôl ar y silffoedd, tacluso a chadw'r llyfrgell yn daclus a diogel, ymchwilio i ymholiadau am y llyfrgell a'r ardal leol a helpu'r cyhoedd i ddod i adnabod yr adeilad newydd a'r cyfleusterau sydd yno.
  • Gwirfoddolwyr Cymorth Addysg - Fel Gwirfoddolwr Cymorth Addysg, byddwch yn helpu'r Swyddog Addysg a Mynediad i drefnu gweithdai diddorol i ysgolion ac ar gyfer digwyddiadau cymunedol.
  • Gwirfoddolwyr Digwyddiadau - Bydd gwirfoddolwyr digwyddiadau'n hanfodol wrth gynnal digwyddiadau bach a mawr yn y Gaer.  Bydd y rhain yn amrywio o gynadleddau yn yr ystafell gymunedol i briodasau a digwyddiadau teuluol mawr.
  • Gwirfoddolwyr Arddangosfeydd Dros Dro - Bydd Gwirfoddolwyr Arddangosfeydd Dros Dro'n bwysig gyda gwaith beunyddiol yr orielau arddangosfeydd dros dro.  Gall hyn gynnwys casgliadau gwaith celf mawr sydd ar fenthyg, prosiectau cymunedol neu arddangosfeydd dros dro o'n casgliadau ein hunain.
  • Gwirfoddolwyr TGCh - Mae gennym Glwb Codio brwd iawn, "Awr hAPus", grŵp hanes teulu a grwpiau eraill sydd angen doniau a sgiliau TG i fod yn llwyddiannus.
  • Gwirfoddolwyr Garddio - Bydd angen byddin o wirfoddolwyr brwd ar erddi godidog Rhodfa'r Capten (a gynlluniwyd gan Frodyr Rich) er mwyn ei chadw'n daclus ac yn brydferth i ymwelwyr.  Felly os ydych chi'n arddwr diwyd, rydym am glywed gennych.

 

Nid yw'r rhestr hon yn gyflawn a bydd cyfleoedd eraill yn codi.
Byddwn yn cynnig cyfleoedd i'r holl wirfoddolwyr.

 

Mae galw mawr ar gyfleoedd i wirfoddoli yn y Gaer.  Byddwn yn gwahodd pob ymgeisydd am gyfweliad byr a byddwn yn cynnig llefydd gwirfoddol i ymgeiswyr llwyddiannus, yn dibynnu ar beth sydd ar gael a pha mor addas ydych chi i'r gwaith.

Os hoffech fod yn rhan o dîm gwirfoddolwyr y Gaer, llenwch y ffurflen gais ar-lein neu anfonwch e-bost at Cath Haslam, Cydlynydd Gwirfoddolwyr am ragor o wybodaeth.

Mae'r Gaer yn gyflogwr cyfle cyfartal a byddwn yn ystyried pob mynegiant o ddiddordeb gan ddarpar wirfoddolwyr, waeth beth fyddo'u:

  • hil,
  • lliw,
  • crefydd,
  • rhyw,
  • cyfeiriadedd rhywiol,
  • hunaniaeth ryweddol,
  • tarddiad cenedlaethol,
  • statws anabledd,
  • unrhyw nodwedd arall sy'n cael ei diogelu o dan y gyfraith.

Diolch am ddangos diddordeb yn y Gaer.