Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynlluniau Iechyd yn eich Canolfan Hamdden - MEND 7-13

Rhaglen ffordd iach o fyw i rai 7-13 oed sydd dros eu pwysau iach yw MEND 7-13. Mae'n golygu dwy x sesiwn 1- neu 2-awr bob wythnos am ddeg wythnos.


Rhaglen deuluol yw MEND 7-13, wedi'i datblygu gan arbenigwyr.

Image of young people taking part in a MEND session

Mae rhieni a gofalwyr yn ymuno â'u plant ymhob sesiwn i ddysgu ynglŷn â sut i ddewis bwydydd iachach a threulio rhagor o amser yn egnïol.

Timau lleol mewn cymunedau lleol sy'n rhedeg y rhaglen.

Mae'r sesiynau'n rhedeg ar ôl yr ysgol neu ar benwythnos yng nghanolfannau hamdden Powys. Gall hyd at 12 o deuluoedd fynychu ar yr un pryd.

Mae MEND 7-13 AM DDIM. Ni fydd teuluoedd yn talu'r un geiniog.

Yr awdurdodau lleol, sefydliadau grant a noddwyr corfforaethol sy'n talu'r holl gostau rhedeg.

Mae'n cynnig amgylchedd cyfeillgar, diogel ac anfeirniadol.

Bob wythnos bydd pawb yn mynychu gweithdy grŵp rhyngweithiol awr o hyd. Bydd y plant yn treulio'r ail awr yn gwneud gweithgareddau corfforol a'r oedolion yn trafod pynciau penodol yn fwy manwl gyda'i gilydd.

Sut fydda' i'n gwybod a yw fy mhlentyn yn gymwys i gael lle ar MEND 7-13 ai peidio?

Defnyddiwch ein cyfrifydd BMI i ddarganfod a yw pwysau eich plentyn yn uwch na'r hyn sy'n iach ar gyfer ei oed a'i daldra.

Lle alla' i gael rhagor o fanylion?

Anfonwch e-bost atom ar info@mytimemend.co.uk neu ffoniwch ni AM DDIM ar 0800 2300 263.