Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwnsela a Therapi

Counselling and Therapy

Area 43 Gwasanaethau Cwnsela Ysgolion ac yn y Gymuned ym Mhowys

Mae Area 43 yn darparu Gwasanaeth Cwnsela Annibynnol mewn Ysgolion ac yn y Gymuned ym Mhowys.

Mae gwasanaeth cwnsela Area 43 ar gael i bob plentyn a pherson ifanc, p'un a ydynt yn yr ysgol neu'n cael eu haddysgu yn ddewisol yn y cartref.  Gellir cynnig lleoliadau cymunedol a sesiynau ar-lein fel dewis amgen i leoliadau ysgol fel y bo'n briodol.

Darperir gwasanaethau wyneb yn wyneb rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn 9am i 6pm, drwy gydol y flwyddyn, ac eithrio Gwyliau Banc. Bydd y sesiynau'n 1:1 neu mewn grwpiau (lle bo'n briodol) ar gyfer dysgwyr 10 - 19 oed, naill ai mewn ysgolion neu yn y gymuned yn ôl yr angen.

Fel arall, gallant ddarparu gwasanaeth di-dor, cyfunol gyda sesiynau ar-lein trwy blatfformau cyfarfod ar-lein diogel, gan ehangu'r ystod oedran i bobl ifanc 11 - 25 oed yn dibynnu ar anghenion plant a phobl ifanc. Fel arfer, bydd pob perthynas gwnsela yn cynnwys hyd at wyth sesiwn wythnosol ac yn yr iaith ddewisol.

Gall pobl ifanc hunan-atgyfeirio, neu gellir eu hatgyfeirio i mewn trwy lenwi'r ffurflen atgyfeirio ar-lein - Ffurflen Atgyfeirio Cwnsela - Powys - Area 43

Cyswllt: Louise Greenwood - louise@area43.co.uk

Therapi Chwarae

The Windfall Centre

Mae Windfall yn darparu cefnogaeth therapiwtig i blant a phobl ifanc sy'n wynebu ystod eang o heriau a all gynnwys ymddygiadau sy'n peri pryder, anawsterau ymlyniad a thrawma datblygiadol. Mae Windfall yn cynnig cefnogaeth, cyngor a chlust i wrando ar gyfer rhieni, gofalwyr maeth a phlant a phobl ifanc a all fod yn teimlo dan straen ac angen siarad.

Ffôn - 01597 829346

E-bost - info@windfallcentre.co.uk

Gwefan - The Windfall Centre - Supporting the emotional health of children and families