Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymorth eiriolaeth i blant, pobl ifanc a theuluoedd

Advocacy Support

TGP Cymru

Mae TGP Cymru yn wasanaeth Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.  

Yr hyn a wnawn

Mae Gwasanaeth Eiriolaeth TGP Cymru yn wasanaeth am ddim i blant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed ac sy'n

  • plentyn sy'n derbyn gofal,
  • plentyn nad yw'n derbyn gofal ond y gall fod ganddo anghenion am ofal a chymorth;
  • plentyn y mae Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig mewn grym mewn perthynas â nhw
  • plentyn wedi'i fabwysiadu neu blentyn y gellir ei fabwysiadu
  • y Rhai sy'n Gadael Gofal.

Beth yw eiriolaeth?

Eiriolaeth yw:

  • gwrando arnoch chi a'ch safbwynt
  • rhoi gwybod i chi am eich hawliau
  • eich helpu i ddweud eich dweud a chael clywed eich llais
  • eich helpu i ddatrys pethau gyda gweithwyr/gofalwyr
  • rhoi cefnogaeth i chi a'ch helpu i siarad mewn cyfarfodydd
  • eich grymuso i eirioli drosoch eich hun.

Sut allwn ni helpu?

Gallwn:

  • Eich helpu i wneud cwyn
  • Eich helpu i siarad am yr hyn yr ydych ei eisiau
  • Eich helpu i ddweud eich dweud, gydag eraill, am yr hyn sy'n dda neu'r hyn sydd angen ei newid i blant a phobl ifanc mewn gofal.

 

Ffôn - 01545 571865

E-bost- midandwestwales@tgpcymru.org.uk

Gwefan - www.tgpcymru.org.uk

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu