Dewiswn ni, casglwch chi! Rhowch wybod beth rydych yn mwynhau darllen ac fe wnawn ni ddewis rhai llyfrau gwych i chi a rhoi gwybod pryd fyddan nhw’n barod i’w casglu. Ni allwn addo llyfrau penodol pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth ‘Archebu a Chasglu’ ond fe wnawn ein gorau glas i’ch cyflwyno chi i lyfrau ac awduron fydd at eich dant chi.
Os hoffech ofyn am lyfr penodol, defnyddiwch ein Catalog Llyfrgell i osod archeb os gwelwch yn dda.
Archebu llyfr
Os nad ydych yn gallu casglu, rhowch wybod i ni. Rydym yn gweithio gyda’n gwirfoddolwyr llyfrgell, PAVO a phartneriaid eraill i gael y llyfrau allan i gymunedau lle bynnag y bo hynny’n bosibl.
Gallwch weld mwy o wybodaeth yn ein Cwestiynau Cyffredin.
Os nad ydych yn aelod o’r llyfrgell yn barod, gallwch chi ymunwch yma.