Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Archebu a Chasglu - Cwestiynau Cyffredin Cwsmeriaid

Beth yw Archebu a Chasglu? 

Trwy'r gwasanaeth hwn gallwch chi ofyn am lyfrau gan y llyfrgell, un ai dros y ffôn neu ar y rhyngrwyd. Wedyn awn ni ati i'w pacio a'u rhoi'n barod i chi eu casglu o lyfrgelloedd penodedig ar amser rydym yn cytuno arno.

Sut ydw i'n trefnu casglu'r llyfrau?

Gallwch chi drefnu casglu trwy ffonio ein llinell gais llyfrgell ar 01874 612394. Fel arall, gallwch chi lenwi ffurflen gais am lyfrau ar-lein yma: Gwasanaeth archebu a chasglu  Yn dilyn hynny byddwch chi'n derbyn neges gennym o fewn ychydig o ddyddiau'n rhoi manylion y dyddiad casglu.

Hefyd mae gennym gyfeiriad e-bost lle gallwch chi anfon cwestiynau llyfrgell cyffredinol: llyfrgelloedd@powys.gov.uk

Oes rhaid i mi dalu ar gyfer y gwasanaeth hwn?

Nac oes, mae'r gwasanaeth am ddim. Hefyd, rydym yn adnewyddu benthyciadau llyfrau'n awtomatig cyn eu dyddiad dychwelyd, felly does dim perygl cael dirwyon neu ffioedd i'w talu. Dydyn ni ddim yn codi pris am fenthyca llyfrau llafar ar hyn o bryd.

Beth yw oriau agor y llinell gais llyfrgell?

Mae ein llinell gwneud cais am lyfrau ar agor yn ystod yr oriau isod:

Dydd Llun - dydd Gwener
9am - 4pm

Gaf i gasglu o'r llyfrgell?

Mae'r gwasanaeth ar gael o unrhyw lyfrgell.

Am faint alla i fenthyg y llyfrau?

Byddwn yn rhoi'r llyfrau ar eich cerdyn llyfrgell am gyfnod safonol o bedair wythnos. 

Faint o lyfrau gaf i eu benthyca?

Cewch hyd at ddeg eitem ar bob cerdyn llyfrgell. Os ydych chi'n archebu fel teulu mae hynny'n golygu y cewch chi ddeg llyfr ar gyfer pob unigolyn yn eich cartref sydd â cherdyn llyfrgell.

Gaf i ddewis pa lyfrau dw i am eu cael?

Ni allwn addo y cewch y llyfrau penodol pan fyddwch yn defnyddio'r gwasanaeth Archebu a Chasglu, ond fe wnawn ein gorau glas i'ch cyflwyno chi i lyfrau ac awduron y byddwch yn eu mwynhau.  Byddwn ni'n rhoi cyfle i chi ofyn am lyfrau ffuglen a ffeithiol, a byddwch chi'n gallu dweud ym mha fformat hoffech chi gael y llyfrau (e.e. Print Bras, llyfr llafar). 

Neu, os oes well gennych ddewis eich llyfrau eich hun, gallwch archebu eitemau oddi ar catalog y llyfrgell

Gaf i fenthyca DVDs?

Ni allwn roi benthyg DVDs ar hyn o bryd.

Gaf i archebu ar-lein?

Cewch, wrth gwrs. Mae ein ffurflen gais ar-lein ar gael 24/7, a gallwch chi ei weld yma: Gwasanaeth archebu a chasglu

Oes rhaid i mi fod yn aelod o'r llyfrgell i ddefnyddio Archebu a Chasglu?

Oes, ond dydy hi ddim yn cymryd yn hir i gofrestru. Gallwch chi wneud hynny ar-lein yma: https://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/cy_GB/powys_cy, neu drwy ffonio'r llinell ceisiadau llyfrgell: 01874 612394.

Gaf i ofyn i rywun arall gasglu fy llyfrau?

Cewch, mae croeso i aelodau'r teulu, ffrindiau neu wirfoddolwyr ddod i gasglu'r llyfrau. Os ydych chi'n gofyn i rywun arall gasglu'ch llyfrau, cofiwch sicrhau bod manylion eich enw llawn a'ch rhif cerdyn llyfrgell ganddyn nhw.

Beth sy'n digwydd pan dw i'n casglu fy llyfrau?

Byddwn ni wedi pacio eich detholiad o lyfrau mewn bag papur, a fydd wedi'i farcio'n glir gyda'ch enw a'ch rhif cerdyn llyfrgell. Bydd drysau'r llyfrgell yn agored i chi ddod i mewn a chasglu'ch bag ar yr amser ry'n ni wedi'i bennu. Ond ni fyddwch yn gallu mynd i mewn i'r llyfrgell i bori. Bydd staff y llyfrgell wrth law i roi cyfarwyddiadau i chi o bellter diogel.

Dw i wedi trefnu amser i gasglu ond alla i ddim bod yna - beth ydw i'n ei wneud?

Ffoniwch y llinell ceisiadau llyfrgell ar 01874 612394 neu anfonwch e-bost atom ni: llyfrgelloedd@powys.gov.uk

Ar ba ddyddiau ydych chi ar agor ar hyn o bryd?

Ewch i'r wefan i weld amserau agor presennol y llyfrgelloedd

Ga i wirfoddoli i helpu i gludo llyfrau i bobl sy'n byw yn agos ata i?

Cewch, byddai hynny'n help mawr, diolch. Cofrestrwch yn eich swyddfa wirfoddoli leol neu ar-lein gyda PAVO. Ewch i: https://powys.volunteering-wales.net/index-classic?lang=CY

Sut galla i roi adborth ar y gwasanaeth Archebu a Chasglu?

Ry'n ni'n croesawu'ch sylwadau am y gwasanaeth newydd hwn. Mae croeso i chi anfon e-bost llyfrgelloedd@powys.gov.uk neu ffonio'r llinell geisiadau llyfrgell ar: 01874 612394.