Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cynlluniau Tai Fforddiadwy

Rhaid i gynigion am dai fforddiadwy gynnwys gwybodaeth fanwl am sut y bydd y tai fforddiadwy'n cael eu darparu a sut y byddwch yn sicrhau bod y tai'n parhau i fod ar gael ac yn fforddiadwy i'r sawl y mae angen lleol arnynt. Bydd rhaid nodi'r wybodaeth hon mewn Cynllun Tai Fforddiadwy.

Fel arfer rhaid cael Cynllun Tai Fforddiadwy fel rhan o amod cynllunio ac mae'n cael ei atodi wrth y caniatâd cynllunio. Efallai y bydd amgylchiadau lle mae rhaid cyflwyno Cynllun Tai Fforddiadwy gyda chais cynllunio, er enghraifft gyda chais am ganiatâd cynllunio llawn.

Dempledi

Er mwyn cynorthwyo ymgeiswyr a gweithredwyr i lunio Cynllun Tai Fforddiadwy, rydym wedi paratoi cyfres o dempledi. Lluniwyd y rhain i'w defnyddio gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymdeithasau Tai), Awdurdod Tai Strategol y Cyngor, datblygwyr ac unigolion preifat (megis y rheini sy'n cynllunio eiddo hunanadeiladu fforddiadwy).

Defnyddiwch y templed isod sy'n cydfynd orau â'ch amgylchiadau a llenwch fanylion eich cynllun. Wedyn gallwch gyflwyno'r templed gorffenedig gyda'ch cais am gyflawni amod neu ganiatâd cynllunio llawn.

Gallwch weld mwy o ganllawiau ar Gynlluniau Tai Fforddiadwy trwy fynd i Adran 8, Canllawiau Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy'r Cyngor. Ewch i -Canllawiau Cynllunio Atodol y CDLl a Pholisiau Ategol