Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwneud cais am wahardd parcio

Mae oedi parcio dros yn caniatau i ardal barcio gael ei atal dros dro am gyfnod o amser yn groes i orchymyn rheoleiddio traffig, lle bo hynny'n berthnasol, er mwyn gwneud gwaith penodol:

  • eiddo gerllaw,
  • gwaith cynnal a chadw priffyrdd hanfodol,
  • gwaith prif wasanaethau statudol,
  • digwyddiadau arbennig (gan gynnwys priodasau ac angladdau) neu
  • i hwyluso llif rhwydd o draffig.

Dim ond pan fydd nemor ddim effaith ar ddefnyddwyr ffyrdd, cerddwyr a busnesau lleol eraill y caiff ceisiadau eu hystyried.

Mae mannau parcio cyfyngedig yn cynnwys:

  • Mannau aros cyfyngedig
  • Mannau llwytho
  • Mannau parcio i bobl anabl
  • Mannau parcio i rai â thrwydded meddyg
  • Llinellau melyn dwbl a sengl
  • Mannau parcio i rai â thrwydded preswylwyr

Trwy gyflwyno trwydded gwahardd dros dro, ynghyd â'r arwyddion cysylltiedig, bydd yn hysbysu'r Swyddogion Gorfodaeth Sifil bod y lle parcio dan sylw wedi cael ei wahardd am y tro ar gyfer gwaith neu ddigwyddiad penodol, ac felly rhoddwyd caniatâd sy'n groes i gyfyngiadau sydd mewn lle.

Sut rydym yn asesu cais

Wrth asesu'r cais, byddwn yn edrych ar:

  • Beth yw effaith cymeradwyo'r cais, er enghraifft, byddwn yn edrych i weld a oes unrhyw waith ffordd neu unrhyw rwystrau eraill a gymeradwywyd yn yr ardal honno
  • Y goblygiadau o ran diogelwch ar y ffyrdd
  • A ydych wedi talu'r ffi gywir

Ni fyddwn yn cyflwyno gwaharddiad dros dro (heblaw mewn amgylchiadau eithriadol iawn) ar gyfer: 

  • arosfannau bysiau ac ardaloedd a gedwir ar gyfer defnyddwyr penodol, e.e. safleoedd tacsis
  • croesfannau wedi'u marcio â linellau igam ogam i ysgolion neu gerddwyr
  • lleoliadau o fewn 50 metr i gyffordd a reolir gan signal
  • lleoliadau lle y gall fod rwystr neu berygl difrifol i draffig neu gerddwyr
  • achosion lle mae amheuon ynghylch dilysrwydd y cais

Pa mor hir fydd hyn yn ei gymryd?

Mae'n rhaid i ni dderbyn ffurflen gais wedi'i llenwi gywir ynghyd â thaliad o leiaf saith diwrnod gwaith cyn y dyddiad dechrau arfaethedig. Mae hyn er mwyn galluogi rhoi ystyriaeth briodol i'r cynnig, ymgynghori â gwasanaethau eraill ac i gynnal archwiliad safle.

Costau

Pris gohiriad yw £395.00.

Dim ond ceisiadau am hyd at 14 diwrnod a gaiff eu hystyried.  Os oes angen cyfnod o fwy na 14 diwrnod, yna byddai angen cyngor gan y Gasanaethau Parcio.

Os byddwch yn colli eich gohiriad, bydd un newydd yn costio £25.

Ffurflen gais

Gwneud cais am ohiriad, bydd angen i chi ddangos: 

  • Bod gwir angen am atal parcio yn y man parcio dan sylw, er enghraifft i gyflawni tasg neu gyflawni gwaith
  • Nid oes gennych ddull amgen realistig o gyflawni'r gwaith na chynnal digwyddiad

Mae pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau unigol, felly, a wnewch chi gofio bod angen rhoi cymaint o wybodaeth â phosibl wrth wneud cais am waharddiad.

Gwneud cais am waharddiad parcio Gwneud cais am waharddiad parcio: Ffurflen Gais