Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Hwyluso Taliadau a Grantiau Cefnogi Busnesau Ar-lein

Stori sydd wedi hawlio'r penawdau yn ystod pandemig COVID-19 yw'r gefnogaeth mae'r Llywodraeth wedi ei rhoi i fusnesau trwy roi grantiau a thaliadau eraill.

Un elfen sydd wedi bod yn hanfodol i lwyddiant y cynllun hwn yw gallu awdurdodau lleol i weinyddu ceisiadau a gyflwynwyd gan fusnesau, a hwyluso dyrannu'r arian yn brydlon.

Mae'r gefnogaeth sydd ar gael gan y Llywodraeth yn dod mewn dau gategori; taliadau a grantiau ar gyfer busnesau sefydledig, a grantiau i helpu busnesau a ddechreuodd masnachu dros y flwyddyn ddiwethaf (rhwng 1 Ebrill 2019 a 1 Mawrth 2020).

Caeodd ceisiadau Cymorth Grantiau ar gyfer busnesau sefydledig ar 30 Mehefin 2020 ac erbyn y dyddiad hwnnw roedd Cyngor Sir Powys wedi derbyn 4,250 o ffurflenni trwy gyfleuster ar-lein a ddatblygwyd gan y Tîm Mynediad Digidol ar y  We. Cofnodwyd y data a gasglwyd o'r ffurflen ar-lein yn awtomatig a thrwy hynny roedd y gwasanaeth yn gallu lawrlwytho'r ffurflenni a gyflwynwyd mewn sypiau fel y bo'n ofynnol. Datblygwyd y system gan aelod is o'r tîm ac fe wellodd honno effeithlonrwydd y proses yn aruthrol gan roi modd i'r awdurdod hwyluso talu nifer fawr o geisiadau na welwyd mo'u tebyg o'r blaen.

Yn datblygu ar y llwyddiant hwn mae'r Grantiau ar gyfer Busnesau Newydd hefyd yn cael eu gweinyddu trwy'r system gwneud cais ar-lein. Ond o ganlyniad i'r gwahaniaeth mewn nifer y ffurflenni a ddisgwyliwyd, mae'r wybodaeth a gafwyd yn y ffurflenni a lenwyd yn cael ei hanfon yn uniongyrchol trwy e-bost i'r gwasanaeth. Mae hefyd ar gael i'w lawrlwytho fel taenlen Excel sydd wedi'i lleoli ym mharth diogel y gwasanaeth ar wefan yr awdurdod. Agorodd ceisiadau am y grant yma ar 30 Mehefin 2020 a derbyniwyd 98 o ffurflenni hyd yn hyn. Cafodd y system hon ei datblygu gan aelod iau o'r tîm hefyd.

 

Gallwch weld mwy o wybodaeth ynglŷn â'r gwaith yma trwy fynd i'r ddolen ganlynol: Powys Ddigidol