Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Trwyddedau Palmant amodau safonol cyn ymgeisio

Cyffredinol

1.             Rhoddir caniatâd dan adran 115E Deddf Priffyrdd 1980 yn ddibynnol ar yr amodau safonol a gyhoeddir dan adran 115F Deddf Priffyrdd 1980.

2.             Gall y cyngor ohirio, amrywio neu dynnu'r caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg.

3.             Mae amrywiadau i'r amodau safonol hyn wedi'u cynnwys yn yr hysbysiad caniatâd a gyhoeddir.

4.             Dylai copi o'r caniatâd a'r amodau fod ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd ar gais yn ystod oriau gweithredu.

5.             Nid yw rhoi'r caniatâd hwn yn gwaredu â'r angen i gael caniatâd arall sy'n ofynnol yn gyfreithiol e.e. caniatâd cynllunio, safonau bwyd, trwyddedu eiddo ac ati neu i gydymffurfio ag unrhyw is-ddeddfau neu gyfyngiad cyfreithiol arall.

6.             Gall methiant i gydymffurfio ag unrhyw amodau a hysbyswyd neu gais rhesymol gan y cyngor arwain at y caniatâd yn cael ei dynnu'n ôl a gall effeithio ar unrhyw gais yn y dyfodol.

7.             Nid oes dim yn y caniatâd hwn sy'n gwaredu â'r angen i gydymffurfio ag unrhyw ofynion deddfwriaethol cyfredol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw ofyniad i atal a rheoli afiechyd e.e. coronafeirws a chadw pellter cymdeithasol. Bydd unrhyw gyfarwyddyd pellach fel arfer ar gael ar wefannau'r llywodraeth e.e.  www.gov.wales   www.gov.uk  www.legislation.gov.uk.   Gall gofynion wahaniaethu gan ddibynnu ar leoliad a gallant newid dros amser.

8.             Mae deilydd y caniatâd yn digolledu'r Cyngor yn erbyn pob gweithred, gofyniad, cost, tâl neu dreuliau yn deillio o ddefnyddio'r briffordd dan y caniatâd a gyflwynir a bydd yn cynnal yswiriant atebolrwydd cyhoeddus trydydd parti hyd at swm sydd o leiaf £5,000,000.

9.             Nid yw mynediad at unrhyw ardal na'r unig ddefnydd o'r ardal honno'n cael ei warantu gan unrhyw ganiatâd a gyflwynir.  

10.         Ni fydd unrhyw hawl i feddiannu neu ragdybiaeth o berchnogaeth yn deillio o gyflwyno unrhyw ganiatâd.

11.         Ni fydd unrhyw iawndal yn daladwy gan y cyngor am unrhyw golli mwynderau a ganiateir trwy hyn.

12.         Nid yw caniatâd yn drosglwyddadwy. Caniateir newidiadau o ran rheolwr gweithredol.

13.         Rhaid trafod Newidiadau/Amrywiadau i'r gweithgaredd(au) a ganiateir gyda'r cyngor i benderfynu a oes angen cais newydd neu a ellir cyhoeddi caniatâd diwygiedig.

Lleoliad, gweithgareddau a hyd

14.         Mae manylion am y lleoliad a'r gweithgareddau y mae'r amodau hyn yn berthnasol iddynt wedi'u cynnwys o fewn y caniatâd penodol.

15.         Mae gweithgareddau a ganiateir yn cynnwys: bwyta bwyd, yfed diodydd ac ati wrth fyrddau gyda seddi neu fyrddau sefyll; arddangos, gwerthu neu weini nwyddau o stondinau neu gownteri. Nid yw mannau agored ar gyfer defnydd i dorfeydd sydd heb eu rheoli yn cael ei ganiatáu oni bai y nodir y manylion yn benodol o fewn hysbysiad y caniatâd.

16.         Rhoddir caniatâd ar gyfer y cyfnod a nodir yn yr hysbysiad neu uchafswm o 12 mis o ddyddiad cyflwyno'r caniatâd.

Mynediad a diogelwch ar y briffordd

17.         Ni fydd unrhyw hawl mynediad yn cael ei gyfyngu ar gyfer y sawl sydd â diddordeb cyfreithiol yn yr ardal e.e. awdurdod priffyrdd, awdurdod strydoedd, ymgymerwyr statudol, perchnogion eiddo.

18.         Rhaid caniatáu mynediad ar gais a heb unrhyw oedi i ganiatáu cwblhau gwaith gan yr awdurdod priffyrdd neu strydoedd, ymgymerwyr statudol neu'r sawl sydd â hawl cyfreithiol.

19.         Rhaid cynnal y gallu i fynd ar hyd priffordd. Yr isafswm lled sy'n ofynnol ar gyfer cerddwyr dan y caniatâd hwn yw 1.5 medr o ardal glir i gerddwyr ar ochr unrhyw fwynderau a ddarperir dan y caniatâd hwn. Mae'r cynnydd mewn lled sy'n ofynnol mewn ardaloedd allweddol megis wrth ymyl arosfannau bysys. Rhoddir cyfarwyddyd pellach yng nghanllaw'r Llywodraeth ar "Symudedd cynhwysol" a gyhoeddir ar eu gwefan:  www.gov.uk/government/publications/inclusive-mobility/inclusive-mobility sy'n rhoi cyfarwyddyd hefyd ar ardal glirio o ran uchder.

20.         Mae ardal glirio ddigonol yn ofynnol rhwng ymyl yr ardal a ganiateir ac unrhyw draffig byw. Gellir amlygu hyn gyda rhwystrau addas ac ati. Dylid cynnal unrhyw ddarpariaeth a gytunir dan y caniatâd hwn yn ystod y defnydd o'r ardal a ganiateir. 

21.         Ni ddylid estyn eitemau crog e.e. ymbareli, y tu hwnt i'r ardal a ganiateir.

22.         Ni ddylai unrhyw fwynderau a ddarperir rhwystro gwelededd wrth ymyl mannau croesi, cyffyrdd ac ati i gerddwyr neu ddefnyddwyr eraill y briffordd.

23.         Bydd unrhyw eitemau sydd heb eu hawdurdodi yn cael eu symud a'u storio. Os na fyddant yn cael eu hawlio o fewn 4 wythnos, fe fyddant yn cael eu gwaredu. Gellir codi tâl o bosibl am eu casglu a'u storio.

24.         Dylai unrhyw eitemau y gwneir darpariaeth ar eu cyfer dan y caniatâd hwn fod yn hawdd i'w symud, ac oni chytunir yn wahanol, dylid eu symud ar ddiwedd pob cyfnod gweithredu a ganiateir e.e. ar ddiwedd busnes ar gyfer y diwrnod hwnnw.

25.         Ni chaniateir unrhyw osodiadau neu addasiadau parhaol i'r ardal a ganiateir dan y caniatâd hwn. Mae'n debygol y bydd cynigion ar gyfer unrhyw ddarpariaeth o'r fath yn gofyn am awdurdodaeth yr awdurdod stryd, cysylltwch â street.works@powys.gov.uk  Ffôn: 01597 826667.  Mae ffi trwydded fel arfer yn daladwy ar gyfer unrhyw waith stryd a gytunir.

26.         Dylid gwneud pob ymdrech i osgoi achosi difrod i'r briffordd neu eiddo cyfagos. Gellir ail-godi tâl am y gost o adfer unrhyw ddifrod.

Glanweithdra

27.         Ni chaniateir ysmygu mewn unrhyw ran o'r ardal y rhoddwyd caniatâd ar ei gyfer.

28.         Dylid cadw'r ardal a ganiateir mewn dull glân a thaclus ar bob adeg beth bynnag fo tarddiad unrhyw ddetritws.

29.         Dylid clirio unrhyw beth sy'n cael ei dywallt, ei dorri neu debyg ar unwaith.

30.         Dylid darparu cynwysyddion addas a digonol i waredu â sbwriel cwsmeriaid ac ati. Nid yw biniau ar olwynion yn cael eu hystyried i fod yn addas ar gyfer y diben hwn.

31.         Dylid cymryd camau rhesymol i sicrhau fod ardaloedd cyfagos i'r safle a ganiateir yn cael eu cadw'n glir o unrhyw ddeunyddiau sy'n cael eu chwythu gan y gwynt a deunyddiau eraill yn hytrach na'r defnydd a ganiateir. Ystyrir "ardal gyfagos" i gynnwys o leiaf ffryntiad unrhyw eiddo cyfagos hyd at unrhyw ochr oni bai fod caniatâd arall ar gyfer yr ardal honno.

32.         Dylid cytuno ar drefniadau i glirio unrhyw sbwriel neu ddeunydd arall oddi ar dir preifat cyfagos gyda'r perchennog/meddiannwr.

33.         Ar ddiwedd pob cyfnod gweithredu, dylid glanhau'r ardal yn drwyadl trwy ysgubo, glanhau neu ddulliau eraill fel ei bod yn cael ei gadael mewn cyflwr glân a thaclus.

34.         Rhaid i ailgylchu, gwaredu â gwastraff ac ati fod trwy allfeydd masnachol. Nid yw'r defnydd o fwynderau a ddarperir at ddefnydd y cyhoedd yn cael ei ganiatáu e.e. ailgylchu a biniau gwastraff ar strydoedd.

35.         Bydd methiant i gydymffurfio â'r gofynion glanhau yn peryglu adnewyddu'r caniatâd a gall arwain at weithredu dan gyfraith mwynderau a gwastraff.

Ansawdd a diogelwch gosodiadau a gosodion

36.         Dylai unrhyw osodiadau a gosodion ac ati fod yn addas at ddibenion annomestig gan gynnwys gofynion cryfder, gwydnwch a diogelwch.

37.         Ni ddylid cysylltu unrhyw osodiadau at unrhyw o eiddo'r cyngor e.e. goleuadau stryd heb ganiatâd ysgrifenedig penodol.

Goleuadau

38.         Dylid dewis goleuadau fel eu bod yn gostwng llygredd wybren y nos a diflastod i gymdogion.  

39.         Dylai gosodiadau golau fod hyd at safon sy'n addas ar gyfer defnydd allanol a dylid eu gosod a'u hardystio gan unigolyn sydd â chymwysterau addas.

40.         Dylid gosod goleuadau fel na fyddant yn aflonyddu ar ddefnyddwyr eraill y ffyrdd e.e. dallu gyrwyr ceir.

41.         Mae rhagdybiaeth yn erbyn y defnydd o wresogyddion awyr agored am resymau amgylcheddol a diogelwch.

Hysbysebion

42.         Caniateir arddangos hysbysebion cyfyngedig heb fod yn dramgwyddus ar arwynebau gosodiadau a gosodion sy'n wynebu ar i mewn. Dylid cyfyngu hysbysebion sy'n wynebu ar i allan i gynnwys enw'r busnes/gwasanaeth y rhoddir caniatâd iddynt. 

43.         Bydd swyddog o'r cyngor yn penderfynu'r hyn a olygir gan "tramgwyddus". Rhaid symud unrhyw ddeunydd a ystyrir i fod yn dramgwyddus yn unol â'r cyfarwyddwyd neu bydd y caniatâd yn cael ei dynnu'n ôl. Rhaid cyflwyno apeliadau mewn perthynas â phenderfyniad ar ddeunydd tramgwyddus yn ysgrifenedig.

Dehongliad ac Eglurdeb

44.         Bydd y cyngor yn darparu dehongliad ac/neu eglurdeb ar unrhyw amod a gall ddiweddaru neu gynnig cyfarwyddyd pellach fel sy'n ofynnol. Mae barn y cyngor yn derfynol.