Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Prosiectau a orffennwyd

Mae'r prosiectau sydd wedi'u cwblhau gan Gyngor Sir Powys fel rhan o'r Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy / Ysgolion yr 21ain Ganrif wedi'u rhestru isod.

Ysgol Gymraeg y Trallwng

Fel rhan o'r prosiect hwn, adeiladwyd ysgol cyfrwng Cymraeg 150-lle newydd ar hen safle Ysgol Maesydre.

Mae hwn yn brosiect arloesol i'r Cyngor, gan mai dyma'r prosiect cyntaf ym Mhowys fel rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif sy'n integreiddio adeilad hen, hanesyddol gydag adeilad newydd, cyfoes. Hefyd, hwn oedd y prosiect Passivhaus hybrid cyntaf yn y DU.

Cafodd hen adeilad Ysgol Maesydre, sy'n adeilad rhestredig Gradd II, ei adnewyddu i ddarparu cyfleusterau blynyddoedd cynnar a chymunedol, ac adeiladwyd estyniad newydd sy'n cynnwys neuadd ysgol newydd a dosbarthiadau.

Agorodd Ysgol Gymraeg y Trallwng ym mis Medi 2017 yn wreiddiol, ar hen safle Ysgol Feithrin a Babanod Ardwyn, yn dilyn ad-drefnu ysgolion yn y dref, cyn symud i'r adeilad newydd ym mis Mai 2023.

Cafodd yr adeilad newydd ei ddarparu gan Gyngor Sir Powys a'i hadeiladu gan Wynne Construction.

Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Y Trallwng

Symudodd Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng i'w adeilad newydd 360 lle ym mis Ionawr 2021.

Agorodd yr ysgol yn wreiddiol ym mis Medi 2017 ar dri safle yn y Trallwng, yn dilyn ad-drefnu ysgolion yn y dref. Roedd symud i'r adeilad newydd yn golygu y gallai'r ysgol gyfan weithredu o un safle am y tro cyntaf.

Yr adeilad newydd yw'r ysgol gynradd Passivhaus gyntaf a adeiladwyd gan y Cyngor fel rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Mae hefyd yn cynnwys cyfleusterau blynyddoedd cynnar a chymunedol.

Cafodd Paveaways eu contractio i gwblhau'r prosiect.

Ysgol Uwchradd Aberhonddu

Cafodd ysgol 11-18 newydd ei hadeiladu i gymryd lle hen adeilad Ysgol Uwchradd Aberhonddu. Agorodd yr ysgol newydd i staff a disgyblion ym mis Rhagfyr 2019.

Hon oedd yr ysgol uwchradd gyntaf a adeiladwyd fel rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor, a gwelwyd buddsoddiad o hyd at £21 miliwn, a ariannwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Powys. Mae gan yr ysgol gymunedol newydd y cyfleusterau canlynol, sydd ar gael at ddefnydd ehangach y gymuned:

  • Neuadd chwaraeon 4 cwrt
  • Stiwdio weithgareddau
  • Ardaloedd addysgu arbenigol

Darparwyd yr ysgol gan Gyngor Sir Powys mewn partneriaeth â Gwasanaethau Eiddo Calon Cymru, ac fe'i hadeiladwyd gan BAM Construction Ltd.

Ysgol Uwchradd Y Trallwng

Cafodd gwaith gwerth £1.6M i ailfodelu ystafelloedd newid a chyfleusterau chwaraeon yr ysgol ei gwblhau yn 2020.

Ysgol Carno

Darparwyd ysgol gynradd gymunedol newydd ar gyfer Ysgol Carno gan Paveaways yn gynnar yn 2019, i gymryd lle yr adeilad dros dro lle roedd yr ysgol wedi'i lleoli o'r blaen. Cafodd ei hadeiladu wrth ymyl neuadd gymuned Carno, gan alluogi i'r ysgol wneud y defnydd gorau posib o'r neuadd.

Image of the Learning Resource Centre at Ysgol Carno

Roedd y prosiect yn unigryw oherwydd y cyfraniad ariannol sylweddol a dderbyniwyd gan Gyngor Cymuned Carno, trwy Ymddiriedolaeth Melin Wynt Carno.

Ailfodelu Ysgol Glantwymyn

Cwblhawyd gwaith i ailfodelu Ysgol Glantwymyn, sy'n rhan o ffederasiwn Glantwymyn, Carno, Llanbrynmair, gan Paveaways a Griffiths yn 2018/19.

Roedd y gwaith yn cynnwys ailfodelu a moderneiddio'r adeilad i wella diogelu a darparu cyfleusterau i bobl anabl, yn ogystal ag ailfodelu'r maes parcio a darparu cyfleusterau chwaraeon.

Ysgolion Cynradd Gwernyfed

Cafodd rhaglen dalgylch Gwernyfed ei chwblhau'n llwyddiannus yn 2018, gyda'r pum ysgol yn agor ar amser ac o fewn y gyllideb.

Adeiladwyd y pum ysgol gynradd newydd gan Willmott Dixon, gan gymryd lle adeiladau'r ysgolion cynradd yn Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Cleirwy, Ysgol yr Eglwys yn Nghymru Llangors, Ysgol yr Eglwys yng Nghymru yr Archddiacon Griffiths yn Llyswen, Y Gelli Gandryll ac Ysgol y Mynydd Du.

Cafodd llyfrgelloedd cymunedol a chyfleusterau cymunedol eu cynnwys yn Y Gelli Gandryll ac Ysgol y Mynydd Du hefyd.

Ariannwyd y rhaglen waith gwerth £23 miliwn ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Powys, ynghyd â rhywfaint o gyllid gan yr Eglwys yng Nghymru.

Ysgol Dafydd Llwyd

Ysgol Dafydd Llwyd oedd prosiect cyntaf y Cyngor fel rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Adeiladwyd yr ysgol cyfrwng Cymraeg bwrpasol newydd hon yn Y Drenewydd gan Wilmott Dixon, ac fe agorodd ym mis Ionawr 2016, gan ddarparu lleoedd cyfrwng Cymraeg ychwanegol yn Y Drenewydd, a gwella'r cyfleusterau i ddisgyblion a staff yr ysgol yn sylweddol.
 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu