Ysgol Robert Owen
Yn dilyn proses adeiladu dwy flynedd, symudodd dysgwyr a staff Ysgol Robert Owen (Ysgol Cedewain gynt) i'w hadeilad newydd newydd sbon ym mis Medi 2024.
Mae gwaith yn parhau ar Gam 2 y datblygiad, a fydd yn darparu cyfleusterau chwaraeon, parcio ychwanegol ac ardaloedd awyr agored eraill ar y tir lle roedd hen adeiladau'r ysgol wedi'u lleoli. Bydd rhai o'r cyfleusterau hyn yn cael eu rhannu gydag Ysgol G.G. Maesyrhandir, sydd wedi'i lleoli drws nesaf i Ysgol Robert Owen.
Mae'r prosiect wedi cael ei gyflawni gan Wynne Construction ar ran y Cyngor a'i ariannu gan Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Powys.