Ysgol Neuadd Brynllywarch
Bydd y prosiect hwn yn golygu adeiladu ysgol arbennig newydd sbon ar gyfer disgyblion ag anawsterau ymddygiadol ac emosiynol ar safle presennol yr ysgol yng Ngheri, ger Y Drenewydd.

- Cefnogaeth a darpariaeth arbenigol ar gyfer disgyblion ag anawsterau ymddygiad, emosiynol a chymdeithasol heriol mewn amgylchedd dysgu modern ac arloesol.
- Mannau dysgu priodol i gyflwyno'r cwricwlwm newydd.
- Offer arbenigol, gan gynnwys cyfleusterau TG, i gefnogi deilliannau addysgu a dysgu a fydd yn helpu i sicrhau bod pob dysgwr yn gwneud y mwyaf o'u potensial.
- Dosbarthiadau pwrpasol, gyda lle ymrannu a chyfleusterau glendid, ynghyd ag ardal ddysgu awyr agored.
Disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau yn 2025 /2026.