Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Ysgol Neuadd Brynllywarch

Bydd y prosiect hwn yn golygu adeiladu ysgol arbennig newydd sbon ar gyfer disgyblion ag anawsterau ymddygiadol ac emosiynol ar safle presennol yr ysgol yng Ngheri, ger Y Drenewydd.

 Bydd adeilad newydd Brynllywarch yn darparu amgylcheddau dysgu newydd sbon sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif i ddisgyblion sy'n mynychu'r ysgol, gan wella'r adeiladau a'r profiad dysgu yn sylweddol. Bydd yr adeilad newydd yn cynnwys:

  • Cefnogaeth a darpariaeth arbenigol ar gyfer disgyblion ag anawsterau ymddygiad, emosiynol a chymdeithasol heriol mewn amgylchedd dysgu modern ac arloesol.
  • Mannau dysgu priodol i gyflwyno'r cwricwlwm newydd.
  • Offer arbenigol, gan gynnwys cyfleusterau TG, i gefnogi deilliannau addysgu a dysgu a fydd yn helpu i sicrhau bod pob dysgwr yn gwneud y mwyaf o'u potensial.
  • Dosbarthiadau pwrpasol, gyda lle ymrannu a chyfleusterau glendid, ynghyd ag ardal ddysgu awyr agored.

Yn dilyn ymarfer tendro, penodwyd contractwr i adeiladu'r adeilad newydd, a bydd yr achos busnes terfynol i sicrhau'r cyllid ar gyfer yr adeilad newydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn gynnar yn 2025. Yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru i'r achos busnes, disgwylir y bydd y gwaith o adeiladu'r datblygiad hir-ddisgwyliedig hwn yn dechrau yng Ngwanwyn 2025.

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu