Toglo gwelededd dewislen symudol

Help gydag ymgeisio am swydd

Help applying for a job

A ydych chi angen help i ddod o hyd i waith a dechrau gweithio?

Sut y gallwn ni helpu?

Mae'r Rhaglen 'Cymunedau am Waith a Mwy' (CfW+) yn cefnogi pobl i ddechrau gweithio.

Mae Fentor Cyflogaeth ledled Powys yn darparu cymorth mentora 1-1 wedi'i deilwra i anghenion pob unigolyn.  Gallwn ddarparu cymorth gyda:

  • Sgiliau cyflogadwyedd, gan gynnwys help gydag ysgrifennu eich CV, ceisiadau am swyddi a pharatoi ar gyfer cyfweliadau
  • Meithrin hyder
  • Dod o hyd i leoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
  • Dod o hyd i gyfleoedd gwaith addas
  • Cyllid ar gyfer hyfforddiant ar gyfer cymwysterau penodol fel y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS), Hylendid Bwyd, Awdurdod y Diwydiant Diogelwch (SIA)

Pwy allwn ni ei gefnogi?  Unrhyw un sy'n:

  • Byw ym Mhowys dros 16 oed
  • Unigolion sydd wedi'u cofrestru'n ddi-waith neu'n economaidd anweithgar

Ydych chi'n Gyflogwr?

Rydym yn gweithio'n agos gyda chyflogwyr ym Mhowys a gallwn gynnig cymorth recriwtio drwy baru ein cleientiaid â manyleb eich swydd.

Gallwn helpu i drafod a sicrhau cyfleoedd gwirfoddol neu gyflogaeth ar draws ystod eang o feysydd galwedigaethol.

Cysylltwch: jobsupport@powys.gov.uk

Sut y gallwch chi gysylltu?

Hoffem ni glywed gennych os ydych chi'n chwilio am gymorth i gael gwaith.

Cysylltwch â'n tîm cyfeillgar i gael sgwrs heb ymrwymiad

Llenwch y ffurflen, pwyswch anfon a bydd un o'r tîm yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

Ffurflen Ymholiadau Cymunedau am Waith a Mwy Ffurflen Ymholiadau Cymunedau am Waith a Mwy

  • Mentor De Powys: Jo Shiel = 07977 790048
  • Mentor Canol a De Powys: Carol Judd = 07976 864529
  • Mentor Gogledd Powys: Graham Evans = 07976 864528
  • Mentor Ieuenctid De a Chanol Powys: Kendra Shergold = 07977790061
  • Mentor Ieuenctid Gogledd a Chanol Powys: Tyler Roberts = 07816361583
  • Swyddog Cyswllt Cyflogwyr Gogledd Powys: Donna Davies = 07855 987142
  • Swyddog Cyswllt Cyflogwyr De a Chanol Powys: Matt Jones = 07971878358

E-bost: jobsupport@powys.gov.uk

Facebook: Communities for Work Powys

Tîm Datblygu Economaidd ac Adfywio
Neuadd y Sir,
Spa Road East,
Llandrindod,
LD1 5LG
 

Stori Donna

Ariennir y rhaglen gan Lywodraeth Cymru.