Hysbysrwydd Preifatrwydd Bathodynnau Parcio i Bobl Anabl
Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol ar gyfer prosesu Bathodynnau Parcio i Bobl Anabl
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddynt. Mae cyflawni'r gwaith hwn yn golygu bod yn rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydym yn darparu gwasanaethau iddynt ac yn cadw cofnod o'r gwasanaethau hyn. Oherwydd ein bod yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth am unigolion, mae'n rhaid i ni sicrhau eu bod yn gwybod beth rydym yn bwriadu ei wneud gyda'u gwybodaeth, ac â phwy y byddwn yn rhannu'r wybodaeth honno.
Rydym wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn rai o'r prif ffyrdd y byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol ar gyfer prosesu eich Bathodyn Anabledd. Dylech ddarllen y wybodaeth yma mewn cysylltiad â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor a gyhoeddir ar ein prif wefan www.powys.gov.uk
1. Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud.
Canolfan Gyswllt y Gwasanaethau Cwsmer yw prif wasanaeth y Cyngor sy'n ymateb i gwsmeriaid. Mae'n cynnwys y rhan fwyaf o'r galwadau ffôn sy'n cyrraedd y cyngor neu'n cael eu gwneud ganddo gan gynnwys y rhai ynglŷn â Bathodynnau Anabledd. Rydym yn sicrhau ein bod yn cymryd yr holl wybodaeth angenrheidiol i drin prosesu eich cais. Gall ein gwasanaeth Llyfrgell hefyd helpu i gefnogi cwsmeriaid wrth iddynt geisio defnyddio technoleg ar gyfer ceisiadau ar-lein a chynorthwyo i gasglu tystiolaeth sydd wedyn yn cael ei basio i'r Gwasanaethau Cwsmer i ddechrau'r broses.
2. Pa wybodaeth, a gwybodaeth pwy rydym yn ei chadw?
Os yw cwsmeriaid yn dewis rhyngweithio â Gwasanaethau Cwsmer, gellir rhannu eu data personol â meysydd gwasanaeth eraill a sefydliadau ehangach yn ôl yr angen er mwyn iddynt brosesu cais y cwsmer.
Bydd y math o wybodaeth sy'n cael ei ddal a'i gofnodi yn amrywio yn ôl anghenion y galwr, ond yn nodweddiadol, mae'n cynnwys:
- Manylion cyswllt megis enw, cyfeiriad eiddo, rhif ffôn, a chyfeiriad e-bost.
- Manylion adnabod, gan gynnwys dyddiad geni a rhif yswiriant gwladol.
- Gwybodaeth ariannol, gan gynnwys Budd-daliadau a dderbynnir,
- Gwybodaeth deuluol, gan gynnwys oed, dibynyddion, statws priodasol.
- Gwybodaeth am iechyd a manylion meddygol yr unigolyn.
3. O ble caiff y gwasanaeth fy ngwybodaeth?
Gall ffynonellau'r wybodaeth bersonol a ddarperir i neu gan y Gwasanaethau Cwsmer gynnwys:
- Gwybodaeth a ddarperir yn uniongyrchol gan yr unigolyn
- Gwybodaeth a ddarperir gan aelod o'r teulu neu aelod arall o'r cyhoedd (e.e. trwy ymholiadau/adroddiadau am bryder)
- Gwybodaeth a ddarperir gan Cynghorydd etholedig ar ran aelod o'i etholaeth.
- Gwybodaeth a ddarperir gan swyddogion/gwasanaethau eraill y Cyngor sy'n cysylltu â'r Ganolfan Gyswllt er lles y cwsmeriaid, neu'r Cyngor ei hun e.e. Gorfodi, gofal cymdeithasol
- Gwybodaeth a ddarperir gan sefydliadau eraill (e.e. gwasanaethau brys, bwrdd iechyd) ynghylch unigolyn.
Yn dod yn fuan - Byddwn yn gallu gwirio eich dogfennau adran gwaith a phensiynau (e.e. cyfradd Uwch). Bydd hyn yn golygu na fyddai angen i chi ddarparu copi caled yn dystiolaeth.
4. Beth fyddwn i'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Gellir defnyddio gwybodaeth a gedwir mewn gysylltiad â Bathodyn Anabledd yn y ffyrdd canlynol:
- Gall y cwsmer wneud cais ar-lein trwy ein gwefan a chael ei gyfeirio at wefan Gov.uk i lenwi'r ffurflen, gan gael cyfle i atodi tystiolaeth a chwblhau'r cais yn llawn.
- Gellir llenwi ffurflen Gais yn uniongyrchol o www.gov.uk/apply-blue-badge a bydd yr adran yn gallu gweithredu ar hon.
- Gall yr adran dderbyn ffurflen gais neu ymholiadau trwy sawl dull. Gallai hyn gynnwys dros y ffôn, lle mae'r cynghorydd yn cynorthwyo'r galwr i fynd trwy'r ffurflen, ac yna'n ei hargraffu a'i llofnodi a'i dychwelyd ynghyd â'r dystiolaeth.
- Gall y galwr fynd i'r Llyfrgell a chodi copi caled o'r ffurflen, ei llenwi, a'i hanfon yn ôl gyda'r dystiolaeth, a gall y llyfrgell ddilysu'r holl ddogfennau. Pan gaiff y wybodaeth ei derbyn, bydd yn cael ei mewnbynnu i'n system, a gellir ei gynnwys dan sawl categori, e.e. Cymwysedig yn Awtomatig, (e.e. Lwfans Byw i'r Anabl - cyfradd Uwch) neu ei wirio yn erbyn ein cofnodion gofal cymdeithasol er mwyn gweld tystiolaeth oddi wrth weithiwr proffesiynol neu ei atgyfeirio i'r gwasanaeth Meddygon Teulu.
- Yr Adran Drafnidiaeth sy'n goruchwylio'r Broses Bathodynnau Glas
Mae Valtec Ltd wedi'u contractio i brosesu bathodynnau glas, yn barod i'w hargraffu.
5. Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio'r wybodaeth hon?
- Rhwymedigaethau Cyfreithiol - gan ddefnyddio'r wybodaeth i gydymffurfio â rhwymedigaeth cyfraith gyffredin neu statudol
- Tasgau cyhoeddus - ymarfer 'awdurdod swyddogol' a phwerau sydd wedi'u diffinio yn y gyfraith; neu cyflawni tasg benodol er budd y cyhoedd sydd wedi'i diffinio yn y gyfraith.
Gallai enghreifftiau ar gyfer y ddwy sail uchod gynnwys e.e. Sicrhau ein bod yn cadw at ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru, sut y mae ein prosesu'n cael ei reoli, a storio data a sicrhau bod Twyll yn cael ei atal a'i ddatgelu.
6. A yw'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?
Er bod modd rhannu'r wybodaeth a gasglwyd yn ystod yr alwad/y prosesu gyda gwasanaethau eraill y Cyngor neu sefydliadau allanoli gynorthwyo i ddatrys ymholiad yr unigolyn, bydd yn aros yn gyfrinachol ac ni fydd yn cael ei rhannu ond gyda'r canlynol, lle mae cyfiawnhad i'r rheswm dros rannu:
- Gwasanaethau eraill y cyngor sy'n gweithio gyda'r Ganolfan Gyswllt, gyda'r bwriad o gynorthwyo i ddatrys anghydfod neu gwyn, e.e. Gofal Cymdeithasol, gorfodi.
- Yr heddlu, i gynorthwyo i ddatrys materion troseddol.
- Sefydliadau eraill sy'n ymwneud â gofal am yr unigolyn (h.y. Gwasanaethau Cymdeithasol/gweithwyr proffesiynol gofal Iechyd, Meddygon Teulu ac ati)
- Cynghorau eraill i wirio cofnodion a sicrhau nad oes dyblygu, ymholiadau ar ardaloedd ar y ffin
- Contractir Valtec Ltd i brosesu'r bathodyn glas, yn barod i'w argraffu.
- Adran dwyll NFI
7. Am ba hyd y cedwir fy ngwybodaeth?
Distrywir ffurflenni Cais Copi Caled ar ôl 3 mis o ddyddiad eu prosesu.
Bydd ceisiadau a thystiolaeth ar-lein yn cael eu dileu o'r system pan fydd y Bathodyn Anabledd wedi'i anfon. Os ydym yn aros am ragor o dystiolaeth, byddwn yn caniatáu 10 diwrnod cyn dileu'r cais.
Os gwrthodir y cais cychwynnol, byddwn yn cysylltu â'r cwsmer ac yn ei gadw am fis, i ganiatáu i ragor o dystiolaeth ein cyrraedd i ategu'r wybodaeth. Os nad yw hyn yn ddigon, caiff ei ddileu o'r system.
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
Mae' r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn rhoi hawliau i chi, gan gynnwys yr hawl i gael mynediad i'r wybodaeth bersonol sydd gan y gwasanaethau amdanoch chi. Cysylltwch â'r cyngor os oes angen rhagor o fanylion arnoch.
9. Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw bryderon neu os hoffech chi wybod mwy ynglŷn â'r modd y mae'r ganolfan gyswllt yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni trwy un o'r ffyrdd canlynol:
Neges e-bost: customerservices@powys.gov.uk
Trwy lythyr: Rheolwr Gwasanaethau Cwsmer Mrs Kelly Watts