Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Llifogydd: Bagiau tywod

Ar adegau o argyfwng, bydd Cyngor Sir Powys yn gwneud popeth o fewn ein gallu yn ymarferol i helpu'r rhai sy'n cael eu bygwth gan ddŵr llifogydd, ond rhoddir blaenoriaeth i'r rhai sy'n llai abl i helpu eu hunain ac i'r rhai na allent yn rhesymol fod wedi disgwyl bod dan fygythiad.

Nifer cyfyngedig o fagiau tywod wedi'u llenwi sy'n cael eu cadw yn nepos Cyngor Sir Powys. Mae'r rhain ar gael i helpu'r cyhoedd, fel uchod, ac i ddiogelu seilwaith allweddol, megis is-orsafoedd trydan, gweithfeydd trin dŵr ac ati, oherwydd byddai colli'r rhain i lifogydd yn effeithio ar adferiad y gymuned ehangach.

Yr egwyddor sylfaenol a nodir yn y  Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru (para. 206) yw mai "perchennog y tŷ neu'r busnes sy'n gyfrifol am gymryd camau i ddiogelu ei adeilad a'i eiddo yn ystod llifogydd.    Dylai'r rhai mewn parth llifogydd neu'r rhai sydd wedi dioddef llifogydd o'r blaen, ac sy'n gallu gwneud hynny, wneud eu trefniadau eu hunain ar gyfer diogelu eu heiddo. Mae bagiau tywod a chynhyrchion pwrpasol eraill ar gael yn fasnachol. Gellir dod o hyd i gompendiwm annibynnol o gynhyrchion a gwasanaethau yn  http://bluepages.org.uk/.

Ar sail iechyd a diogelwch, nid yw depos Cyngor Sir Powys ar agor i'r cyhoedd. Mewn tywydd garw, bydd criwiau'n cael eu hanfon i wneud tasgau i ffwrdd o'r depos ac mae gatiau'n cael eu cloi.  Weithiau bydd Cyngor Sir Powys yn gallu gadael bagiau tywod mewn lleoliadau allweddol i'w casglu gan breswylwyr. Bydd unrhyw gyflenwad o'r fath yn cael ei gyhoeddi'n lleol.

Fel arfer, ni fydd Cyngor Sir Powys yn helpu i glirio bagiau tywod i ffwrdd ar ôl llifogydd. Unwaith eto, bydd ystyriaeth yn cael ei roi i rai sy'n llai abl i helpu eu hunain.

Gellir cael rhagor o gyngor ar ddiogelu eich eiddo yma https://nationalfloodforum.org.uk/

I gael gwybod am rybuddion llifogydd, i gofrestru i dderbyn rhybuddion llifogydd, neu i gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://naturalresources.wales/flooding

Am ragor o gymorth i baratoi cynllun llifogydd cysylltwch â: emergency.planning@powys.gov.uk

I roi gwybod am lifogydd neu i gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan y cyngor:  Llifogydd

Mae llinellau ffôn canolfan gyswllt Cyngor Sir Powys ar agor rhwng 8:30am a 5:00pm o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 8:30am a 4:30pm ddydd Gwener. Y rhifau yw:

Ymholiadau Cyffredinol 01597 827460 neu 0345 6027030.

Am faterion Priffyrdd ffoniwch 01597 827465 neu 0345 6027035.

Y tu allan i'r amseroedd hyn (mewn argyfwng yn unig) cysylltwch â ni ar 01597 825275 neu 0345 0544847