Rhoi gwybod i ni am Dŵr yn llifo o garthffos neu brif bibell dŵr
Os yw llif yn cael ei achosi gan bibell dŵr yn torri neu ddŵr yn gollwng o garthffos, cysylltwch â ni gydag enw'r cwmni dŵr perthnasol ar gyfer eich ardal chi:
Rhoi gwybod am ddŵr sy'n gollwng i Gwmni Severn Trent Water
Hysbysu cwmni Dŵr Cymru am ddŵr yn gollwng
Rydym yn gyfrifol am y canlynol:
- Datblygu strategaeth rheoli peryglon llifogydd lleol
- Cadw cofrestr o asedau rheoli risgiau llifogydd
- Archwilio i lifogydd; rhoi ffurflenni Caniatâd Draeniad Tir ar gyfer gwaith ar ddyfrffosydd arferol, gan gynnwys camau Gorfodi.
Cewch ofyn i edrych ar y gofrestr sy'n rhestru lleoliad nodweddion ac asedau sydd wedi'u cynnwys yn y gofrestr asedau risgiau sylweddol trwy gysylltu â'n Tîm Draeniad Tir trwy e-bost: land.drainage@powys.gov.uk
Archwilio llifogydd
Yn ôl y gyfraith, rhaid i ni archwilio i'r canlynol:
- Pa sefydliadau sy'n gwneud gwaith rheoli peryglon llifogydd
- A yw pob un o'r sefydliadau hyn wedi gwneud, neu'n bwriadu gwneud, y gweithgarwch hwnnw wrth ymateb i lifogydd?
Pan rydym wedi archwilio rhaid i ni wneud y canlynol:
- Cyhoeddi canlyniadau'r archwiliad
- Rhoi gwybod i sefydliadau perthnasol
Rhoi gwybod am lifogydd Rhoi gwybod am lifogydd ar ffordd neu balmant