Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cymorth camfanteisio ar blant ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd

Tîm Cam-fanteisio ar Blant Powys

Am gyngor a chyfarwyddyd ynghylch Cam-fanteisio Rhywiol a Throseddol ar Blant.

E-bost - child.exploitation@powys.gov.uk

Mae'r cyfeiriad e-bost hwn ar gyfer cyngor a chyfarwyddyd yn unig. Dylid adrodd am unrhyw bryderon diogelu i 01597 827666 neu 999 os oes argyfwng.

Strategaeth Camfanteisio ar Blant 2020 - 2023

Mae Strategaeth Camfanteisio ar Blant amlasiantaethol Powys yn nodi ein blaenoriaethau a'n hymrwymiad i atal ac i fynd i'r afael â chamfanteisio ar blant.

Gall y math hwn o gam-drin cael effaith ddifrifol ar blant a phobl ifanc, eu teuluoedd a'u cymunedau. Byddwn yn cydweithio â phlant a phobl ifanc, teuluoedd,  cymunedau  ac asiantaethau partner i gefnogi plant i ddatblygu a ffynnu drwy gydol eu plentyndod ac yn oedolion.

Ategir y strategaeth hon gan egwyddorion sy'n canolbwyntio ar y plentyn, sy'n seiliedig ar drawma ac wedi'u gwreiddio mewn hawliau plant.

Gall unrhyw blentyn ddioddef cam-fanteisio ac nid oes unrhyw blentyn byth yn gyfrifol am y cam-drin.  Mae'r Strategaeth Camfanteisio ar Blant hon yn ystyried amrywiaeth o ymatebion sy'n ymwneud ag atal, amddiffyn a chefnogi.

Busnes pawb yw diogelu.

Strategaeth Camfanteisio ar Blant (PDF) [1MB]