Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Cofrestru i Bleidleisio

Allwch chi ddim pleidleisio oni bai bod eich enw ar y Gofrestr Etholwyr.  Os ydych chi'n symud tŷ neu'n newid eich enw neu fanylion eraill, rhaid i chi roi gwybod i ni.

Canfasiad Blynyddol y Gofrestr Etholwyr

Bob blwyddyn, mae'n ofynnol i ni anfon e-bost/ysgrifennu at bob aelwyd i gadarnhau bod y wybodaeth sydd gennym ar y gofrestr etholwyr yn gywir.

Trwy ymateb yn gyflym i'r e-bost a dderbyniwch, byddwch yn helpu i arbed arian i'ch Cyngor, gan fod yn rhaid i ni argraffu a phostio hwn atoch os na fyddwn yn derbyn ateb. Bydd angen i chi fewngofnodi'r ddau god diogelwch sydd ar eich e-bost/llythyr a dilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin i gwblhau eich ymateb. 

Os nad ydych yn teimlo'n ddiogel yn dilyn dolen yn uniongyrchol o'r e-bost, defnyddiwch y ddolen ganlynol - www.elecreg.co.uk/powys-e a defnyddio'r codau diogelwch sydd yn yr e-bost.

Sut ydw i'n cofrestru?

O'r 10 Mehefin 2014, rhaid gwneud pob cais cofrestru newydd yn unigol.

Bydd gofyn i bob ymgeisydd roi eu:

  • Henw
  • Cyfeiriad a chyfeiriad blaenorol
  • Cenedligrwydd
  • Dyddiad geni, a
  • Rhif yswiriant cenedlaethol

Bydd manylion pob ymgeisydd yn cael eu gwirio yn erbyn cofnodion eraill i ddilysu pwy ydyn nhw cyn y gall y swyddog cofrestru gymeradwyo'r cais. 

Os na fydd enw, dyddiad geni na rhif yswiriant cenedlaethol unigolyn yn cael eu dilysu, bydd y swyddfa cofrestru etholiadol yn cysylltu â hwy:

  • naill ai i esbonio unrhyw elfen ar eu cais
  • neu i ofyn i'r ymgeisydd gyflwyno dogfennau tystiolaeth, megis pasbort, i gefnogi eu cais.

Pam ddylwn i gofrestru?

  • Yn ôl y ddeddf mae'n rhaid i chi ddarparu gwybodaeth i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol er mwyn sicrhau eich bod wedi'ch cofrestru.
  • Mae'n rhaid i chi gofrestru'n flynyddol. Os nad ydych yn dychwelyd y ffurflen, gallech gael dirwy o £1000.
  • Allwch chi ddim pleidleisio oni bai fod eich enw ar y gofrestr.
  • Bydd asiantaethau gwirio credyd yn defnyddio'r gofrestr. Os nad ydych wedi'ch cofrestru, mae'n bosibl y byddwch yn cael problemau wrth geisio cael cymeradwyaeth credyd, benthyciad neu forgais neu agor cyfrif banc.
  • Pwy sy'n gallu cofrestru?

Gallwch gael eich cynnwys ar y gofrestr os ydych:

  • yn byw ym Mhowys
  • yn 16 oed neu'n hyn ac yn
  • ddinesydd Prydeinig
  • dinesydd Iwerddon, yr UE neu ddinesydd tramor cymwys neu ddinesydd cymwys y Gymanwlad. Mae dinasyddion cymwys yn cynnwys y rhai sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y DU, neu nad oes angen caniatâd o'r fath arnynt.

Mae cyfraith newydd yn golygu bod pobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed a gwladolion tramor sy'n byw yma yng Nghymru yn gallu pleidleisio yn Etholiadau'r Senedd ac Etholiadau'r Lleol. 

Cofrestru i Bleidleisio Cofrestru i Bleidleisio ar-lein

Os oes well gennych lenwi cais ar bapur, cysylltwch â'r swyddfa gofrestru.  Mae'r manylion ar y dudalen hon.

 

Cysylltiadau

  • Ebost: electoral.services@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01597 826202
  • Cyfeiriad: Gwasanaethau Corfforaethol Cyfreithiol a Democrataidd, Neuadd y Sir, Cofrestru Etholiadol, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Rhowch sylwadau am dudalen yma

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu