Sut i bleidleisio
Bythefnos cyn diwrnod yr etholiad, byddwch yn derbyn Cerdyn Pleidleisio yn y post, yn dweud wrthych chi pryd a lle y gallwch bleidleisio. Dim ond er gwybodaeth y rhoddir y cerdyn i chi, felly peidiwch phoeni os collwch ef neu os anghofiwch fynd ag ef gyda chi. Gallwch bleidleisio hebddo, cyn elled ag y bydd eich enw ar y Gofrestr Etholwyr.
Beth sy'n digwydd yn yr orsaf bleidleisio?
Rhaid i'ch enw fod ar y Gofrestr Etholwyr er mwyn i chi allu pleidleisio.
Ar ôl cyrraedd yr orsaf bleidleisio, rhowch eich enw a'ch cyfeiriad i'r clerc ac fe gewch bapur pleidleisio. Gnwewch yn siwr bod y nod swyddogol arno.
Ewch i un o'r bythau pleidleisio a rhoi croes (X) ar y blwch ar ochr dde'r papur pleidleisio, gyferbyn ag enw'r sawl rydym yn dymuno pleidleisio drosto. Mae'r papur pleidleisio'n dweud wrthych sawl ymgeisydd y gallwch bleidleisio drostyn nhw. Peidiwch â phleidleisio am fwy na hyn. Peidiwch â gwneud unrhyw farciau eraill ar y papur pleidleisio, neu mae'n bosibl na fyddwn yn cyfrif eich pleidlais. Os byddwch yn sbwylio'ch papur pleidleisio mewn camgymeriad, dangoswch ef i'r Swyddog Llywyddu a gofynnwch am un arall.
Plygwch y papur pleidleisio yn ei hanner. Dangoswch y nod swyddogol i'r Swyddog Llywyddu, ond peidiwch â gadael i neb weld eich pleidlais. Rhowch y papur pleidleisio yn y blwch pleidleisio a gadewch yr orsaf bleidleisio.
Os caniatawyd i chi gael pleidlais trwy'r post fyddwch chi ddim yn cael pleidleisio yn yr Orsaf Bleidleisio.
Os ydych chi wedi penodi rhywun arall i bleidleisio ar eich rhan (dirprwy), gallwch bleidleisio mewn etholiad eich hun os y gwnewch hynny cyn i'ch dirprwy bleidleisio ar eich rhan.
Cyn etholiad, byddi di'n derbyn Cerdyn pleidleisio. Sy'n dweud wrthyt ti ble mae dy orsaf bleidleisio. Mae gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm. Os byddi di yn y ciw erbyn 10pm, cei di bleidleisio. Pan fyddi di'n cyrraedd yr orsaf bleidleisio, rho dy enw a'th gyfeiriad I'r staff, ac fe wnân nhw roi dy bapur pleidleisio i ti. Cer â dy bapur pleidleisio i fwth pleidleisio. Cer â dy bapur pleidleisio i fwth pleidleisio. Cofia ymddwyn yn barchus tuag at bobl eraill fel bod pawb yn gallu pleidleisio yn gyfrinachol. Bydd yna bensil yn y bwth pleidleisio, ond mae croeso i ti ddod â dy ben dy hunan, os hoffet ti. Noda bwy rwyt ti am bleidleisio drostyn nhw ar y papur, gan ddilyn y cyfarwyddiadau. Galle fod gyda thi ddau neu ragor o bapurau pleidleisio ar gyfer gwahanol etholiadau. Paid â phoeni os gwnei di gamgymeriad. Gofynna i aelod o'r staff ac fe wnân nhw roi papur pleidleisio newydd i ti. Pan fyddi di wedi cwblhau dy ddewisiadau, rho dy bapur pleidleisio yn y blwch pleidleisio. Os wyt ti'n ansicr am unrhyw beth, neu oes oes angen cymorth arnat ti, gofynna i aelod o'r staff a byddan nhw'n hapus i egluro'r broses cyn i ti bleidleisio. Ar ddiwedd y dydd, caiff y blwch pleidleisio ei gymryd i ffwrdd er mwyn i'r pleidleisiau gael eu cyfri. Bydd dy bleidlais yn cael ei chadw'n ddiogel ac yn gyfrinachol, ac ni fydd unrhyw un yn gwybod pwy gwnes ti bleidleisio drostyn nhw. A dyna fe. Darganfod rhagor am sut i fwrw dy bleidlais trwy comisiwnetholiadol.org.uk/dysgu.
Wnaiff rhywun ddarganfod dros bwy wnes i bleidleisio?
Weithiau bydd pobl yn poeni nad yw'r etholiadau'n fater o bleidleisio cudd oherwydd bod rhif wedi'i brintio ar gefn y papur pleidleisio a rhif yr etholwr yn cael ei ysgrifennu ar restr cyn i'r papur pleidleisio gael ei roi i chi. Mae'n bosibl cyfateb y ddau rif yma i ddarganfod pwy yw'r etholwr.
Fodd bynnag, dan y Ddeddf, mae'n ofynnol i'r Swyddog Canlyniadau gadw'r Rhestrau o Rifau Cyfatebol mewn blwch ar wahân i'r un lle mae'r papurau pleidleisio sydd wedi'u cyfrif yn cael eu cadw. Nid oes modd i'r blwch yma gael ei agor oni bai fod llys yn gorchymyn hynny oherwydd bod amheuaeth o gamymddygiad neu dwyll yn yr etholiad.
Mae'r pleidlais yn un gudd, ac nid oes angen i neb boeni bod modd olrhain ei bleidlais.
Beth os alla' i ddim cyrraedd yr orsaf bleidleisio?
Pleidleisio trwy'r post
Mae rhai pobl yn ei chael yn haws pleidleisio trwy'r post na mynd i'r Orsaf Bleidleisio. Gallwch ogfrestru i bleidleisio trwy'r post mewn etholiad penodol neu ymhob etholiad.
I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch ein tudalen am bleidleisio trwy'r post.
Os byddi di oddi cartref ar ddiwrnod y bleidlais, neu os na elli di gyrraedd yr orsaf bleidleisio am ba bynnag rheswm. Gelli di gofrestru i bleidleisio trwy'r post. I bleidleisio trwy'r post, mae angen i ti wneud cais i'ch cyngor lleol. Gelli lawrlwytho ffuflen, neu fe elli di ofyn i un gael ei hanfon atat. Bydd rhaid i ti roi dy lofnod ar dy ffurflen gais ac eto pan fyddi di'n pleidleisio. Mae hyn er mwyn cadarnhau pwy wyt ti. Caiff pecyn pleidlais bost ei anfon atat ti cyn yr etholiad. Dilyna'r cyfarwyddiadau a rho bopeth yn ôl yn yr amlen radbost sydd eisoes gyda'r cyfeiriad arni a'i phostio at dy gyngor er mwyn iddi gael ei chyfri. Os anghofi di bostio dy pleidlais, gelli di ei gollwng mewn gorsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad. Cofia, bydd angen i dy bleidlais bost gyrraedd dy gyngor erbyn 10pm ar ddiwrnod y bleidlais os wyt ti am i dy bleidlais gael ei chyfri yn yr etholiad. Darganfod rhagor am sut i fwrw dy bleidlais trwy comisiwnetholiadol.org.uk/dysgu.
Pleidleisio trwy ddirprwy
Gallwch enwebu rhywun i bleidleisio ar eich rhan yn yr Orsaf Bleidleisio. 'Dirprwy' (procsi) yw'r enw ar yr unigolyn yma. Os hoffec chi i rywun fod yn ddirprwy i chi a phleidleisio drosoch chi, mae angen i chi ddeiws rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo/ynddi i wneud hynny.
I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch ein tudalen am enwebu rhywun i bleidleisio drosoch chi.
Os na elli di gyrraedd yr orsaf bleidleisio ar ddiwrnod y bleidlais, gelli di ofyn i rywun rwyt ti'n yfddiried ynddyn nhw bleidleisio ar dy ran. Caiff hyn ei alw'n bleidleisio trwy ddirprwy, a chaiff y person rwyt ti'n ymddiried ynddyn nhw ei alw'n 'ddirprwy'. I bleidleisio trwy ddirprwy, bydd angen i ti wneud cais i dy gyngor. Gelli di lawrlwytho ffurflen gais, neu fe elli di ofyn i hon gael ei hanfon atat ti. Bydd rhaid i ti roi dy lofnod a dy ddyddiad geni ar dy ffurflen gais, ac eto pan fyddi di'n pleidleisio. Mae hyn er mwyn cadarnhau pwy wyt ti. Gallai hyn fod yn lle gwahanol i ble y byddan nhw'n mynd i bleidleisio. Bydd angen iddyn nhw roi dy enw di a hefyd eu henw nhw i staff yr orsaf bleidleisio, ac yna byddan nhw'n dilyn y prosesau arferol i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio. Os na all dy ddirprwy fynd i'r orsaf bleidleisio, gallan nhw wneud cais i bleidleisio drwy'r post. Mae hyn yn cael ei alw yn bleidlais bost drwy ddirprwy. Darganfod rhagor am sut i fwrw dy bleidlais trwy comisiwnetholiadol.org.uk/dysgu.
Cysylltiadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma