Cyfamod Y Lluoedd Arfog
Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn nodi'r berthynas rhwng y genedl, y wladwriaeth a'r Lluoedd Arfog. Mae'n cydnabod bod gan y genedl gyfan rwymedigaeth foesol tuag at aelodau'r Lluoedd Arfog a'u teuluoedd ac mae'n pennu sut y dylent ddisgwyl cael eu trin.
Mae'n bodoli i unioni'r anfanteision y mae Cymuned y Lluoedd Arfog yn eu hwynebu o'i gymharu â dinasyddion eraill ac i gydnabod yr aberth y maent wedi'i wneud. Ar lefel leol, mae 'Cyfamodau Cymunedol' yn cael eu llofnodi ledled y wlad gan ddod â chymunedau milwrol a sifil ynghyd.
Mae Cyfamodau Cymunedol yn ategu, ar lefel leol, Cyfamod y Lluoedd Arfog, sy'n amlinellu'r rhwymedigaeth foesol rhwng y genedl, y llywodraeth a'r Lluoedd Arfog. Nod y Cyfamod Cymunedol yw annog cymunedau lleol i gefnogi'r gymuned wasanaeth yma ym Mhowys a hyrwyddo dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o faterion sy'n effeithio ar Gymuned y Lluoedd Arfog.
Mae nodau Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog fel a ganlyn:
- Annog cymunedau lleol i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog yn eu hardaloedd i feithrin dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o faterion sy'n effeithio ar Gymuned y Lluoedd Arfog.
- Adnabod a chofio'r aberth sy'n wynebu Cymuned y Lluoedd Arfog
- Annog gweithgareddau sy'n helpu integreiddio Cymuned y Lluoedd Arfog i fywyd lleol
- Annog Cymuned y Lluoedd Arfog i helpu a chefnogi'r gymuned ehangach, p'un ai drwy gymryd rhan mewn digwyddiadau a phrosiectau ar y cyd, neu ddulliau ymgysylltu eraill.
Cymorth
Canllaw ar ofalu am gyn-filwyr y Lluoedd Arfog
Cymorth i aelodau o'r Lluoedd Arfog sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd a'u teuluoedd [HTML] | LLYW.CYMRU
Ap Cyn-filwyr y Samariaid | Sut gallwn ni helpu |Y Samariaid
Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog
Swyddog Cyswllt Lluoedd Arfog Powys
Mae Andy Jones, ein Swyddog Cyswllt Lluoedd Arfog Powys yn hapus i gynnig cymorth i'n cymuned Lluoedd Arfog, gan gynnwys Milwyr, Milwyr wrth Gefn, cynfilwyr a'u teuluoedd.
Andy Jones (Curly)
- E-bost: andy.jones@powys.gov.uk
- Ffôn: 01874 625125 / 07950 991899 (yn dibynnu ar y signal)
- Dilynwch ni yma @CovenantWales ar X (Twitter)