Toglo gwelededd dewislen symudol

Sut rydym yn defnyddio Cyfryngau Cymdeithasol

Rydym yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu â thrigolion, staff a phartneriaid gan gynnwys proffiliau ar FacebookTwitterFlickrYouTubeLinkedInInstagram.

Rydym yn annog pobl i'n dilyn ac yn cyhoeddi gwybodaeth am ein gwaith sydd o ddiddordeb i'n dilynwyr yn ein barn ni.

Hefyd rydym yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ymateb i gwestiynau, sylwadau ac i ymgynghori â thrigolion, lle rydym yn meddwl mai dyna'r dull gorau.

Rydym yn cyhoeddi'r deunydd canlynol ar gyfryngau cymdeithasol:

  • Gwybodaeth am ein gwasanaethau, ein mentrau, ein cyfarfodydd, ein digwyddiadau a'n hymgyrchoedd
  • Ffrwd RSS o'n datganiadau i'r wasg a gyhoeddir ar ein gwefan
  • Bob hyn a hyn byddwn yn ail-drydar hysbysiadau a negeseuon oddi wrth sefydliadau cymunedol/y sector cyhoeddus ac unigolion sy'n berthnasol i'n dilynwyr. Rhaid i ni fod yn ofalus ynghylch pa rai rydym yn dewis eu rhannu oherwydd gellir ymddangos fel pe baem yn cefnogi safbwynt, unigolyn neu sefydliad penodol. Felly mae'n bwysig ein bod yn aros yn gwbl ddiduedd.
  • Rydym yn cadw'r hawl i ddileu unrhyw wybodaeth o'n tudalen/proffil/ffrwd Twitter sy'n anaddas yn ein barn ni.

O dro i dro ni fydd ein safleoedd Cyfryngau Cymdeithasol ar gael ac ni dderbyniwn gyfrifoldeb am y diffyg gwasanaeth yn ystod cyfnodau pan nad yw'r safleoedd ar waith.

 

Hoffi, Dilyn ac Atal

Os ydych yn ein dilyn ar Twitter neu'n ein 'hoffi' ar Facebook ni fyddwn yn eich dilyn neu'n eich hoffi chithau - byddai hynny'n gwneud y rhifau'n rhy uchel i ni eu rheoli.

  • Weithiau byddwn yn dilyn neu'n hoffi pobl sy'n rhoi gwybodaeth sy'n berthnasol i'n gwaith fel awdurdod lleol (er enghraifft, cyfrifon llywodraeth ganolog, cyfryngau lleol a'n partneriaid) neu'r sawl y gallwn drosglwyddo eu gwybodaeth er les pobl leol.
  • Ambell waith byddwn yn ceisio cefnogi ymgyrchoedd lleol a chenedlaethol sy'n gysylltiedig â'n gwasanaethau.
  • Hefyd bydd adegau pan fydd rhaid i ni hoffi neu ddilyn cyfrif er mwyn cymryd rhan mewn sgyrsiau.
  • Nid yw'r ffaith ein bod yn hoffi neu'n dilyn rhywun, neu'n ail-drydar neu'n rhannu eu gwybodaeth yn golygu ein bod yn eu cymeradwyo.

Monitro cyfrifon ac ymateb

Rydym yn cadw golwg ar ein prif gyfrifon cyfryngau cymdeithasol bob dydd o'r wythnos yn ystod oriau swyddfa. Rydym yn monitro eraill yn ystod oriau agor (er enghraifft, canolfannau hamdden). Os ydych yn gofyn cwestiwn i ni ar gyfryngau cymdeithasol byddwn yn ateb cyn gynted ag y bo modd, ond cofiwch y canlynol:

  • Gallwn roi ateb llawnach os ydych yn anfon e-bost atom ar customerservices@powys.gov.uk (oherwydd cyfyngiadau hyd llythrennau a chymeriadau negeseuon Twitter ac yn y blaen)
  • Y Tîm Cyfathrebu sy'n rhedeg tudalennau cyfryngau cymdeithasol Cyngor Sir Powys. Byddan nhw'n anfon eich cwestiynau ymlaen at feysydd gwasanaeth er mwyn iddyn nhw gael hyd i'r wybodaeth i chi. Mae hyn yn golygu efallai na fyddwn yn ymateb ar unwaith.
  • Os yw'ch ymholiad yn ddifrifol, yn un brys neu'n cynnwys gwybodaeth bersonol, gwelwch ein prif dudalen cysylltiadau.

Cymedroli

Rydym yn cadw'r hawl i ddileu unrhyw negeseuon neu gyfraniadau sy'n torri canllawiau isod:

  • Byddwch yn gwrtais, chwaethus ac yn berthnasol i'r pwnc dan sylw
  • Peidiwch ag anfon negeseuon sy'n anghyfreithlon, yn enllibus, yn poenydio eraill, yn ddifenwol, yn ddifrïol, yn fygythiol, yn anweddus, yn rheglyd a chableddus, yn rhywiol neu'n sarhaus o ran hil
  • Peidiwch â rhegi
  • Peidiwch â phostio cynnwys rydych wedi'i gopïo o rywle arall nad oes gennych yr hawlfraint iddo
  • Peidiwch â phostio'r un un neges, neu negeseuon tebyg iawn, mwy nag unwaith (gair arall am hyn yw 'spamio' sef anfon negeseuon di-rif am yr un pwnc)
  • Peidiwch â chyhoeddi'ch gwybodaeth bersonol chi neu wybodaeth rhywun arall megis eu manylion cyswllt
  • Peidiwch â hysbysebu cynnyrch neu wasanaethau
  • Peidiwch ag esgus bod yn rhywun arall

Cyfnodau cyn etholiadau

Yn ystod y cyfnod chwe wythnos cyn etholiad rhaid i gynghorau lleol, cenedlaethol, cyffredinol neu Ewropeaidd fod yn ofalus iawn i beidio gwneud neu ddweud unrhyw beth a all ymddangos fel pe bai'n cefnogi unrhyw blaid neu ymgeisydd gwleidyddol. Byddwn yn parhau i gyhoeddi cyhoeddiadau gwasanaeth gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol ond efallai y bydd rhaid i ni dynnu sylwadau os yw'n amlwg eu bod yn bleidiol-wleidyddol.