Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Bydd llinellau ffôn Treth y Cyngor/Trethi Busnes​​​​​​​ ar gau ddydd Mercher 20 Mawrth

Cynaliadwyedd a'r Cyngor

Well-being plan icon Welsh

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi creu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru er mwyn sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gweithio gyda'i  gilydd i greu gwell dyfodol i bobl Cymru.

Pwrpas y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yw gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardaloedd trwy gryfhau cydweithio ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Yr aelodau statudol sy'n gwasanaethu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys yw: 

  • Cyngor Sir Powys 
  • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys  
  • Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru

 Y rhai sydd yno drwy wahoddiad yw:

  • PAVO
  • Heddlu Dyfed Powys 
  • Comisiynwyr Heddlu a Throsedd
  • Llywodraeth Cymru
  • Gwasanaeth Prawf
  • Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol inni baratoi Cynllun Llesiant lleol  sy'n nodi sut y byddwn yn gwella llesiant cymunedau Powys, o'u cymharu â saith nod cenedlaethol.

Cyn y gallwn nodi cynllun, mae'n rhaid inni ddeall y pwysau y mae ein cymunedau'n eu hwynebu. Er mwyn deall hyn, rydym wedi asesu'r llesiant ar draws cymunedau ym Mhowys. Mae'r asesiad hwn yn cynnwys ystod o ddata, tystiolaeth ac ymchwil, sy'n rhoi darlun cynhwysfawr o lesiant pobl a chymunedau lleol ar hyn o bryd a'r modd y gellid dylanwadu ar lesiant yn y dyfodol.