Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Trwyddedau hapchwarae a'r loteri

Gan fod y cyngor yn awdurdod trwyddedu, mae Deddf Hapchwarae 2005 yn gofyn i ni baratoi, ymgynghori a chyhoeddi Datganiad Polisi Hapchwarae, gan nodi sut y byddwn yn rheoli trwyddedu eiddo hapchwarae lleol.

Rydym yn cyflwyno trwyddedau amrywiol, yn cynnwys trwyddedau ar gyfer loterïau cymdeithasau bychain, hysbysiadau ar gyfer peiriannau gemau hapchwarae mewn tafarndai a chlybiau, siopau hapchwarae a chanolfannau adloniant i'r teulu.

Loterïau

Math o hapchwarae yw loteri sydd â 3 elfen hanfodol:

  • Rhaid i chi dalu i gymryd rhan yn y gêm
  • Mae o leiaf un wobr bob tro
  • Mae gwobrwyon yn cael eu dyfarnu ar hap - nid oes angen unrhyw sgil.

Rhai enghreifftiau yw raffl, loteri (sweepstake) neu glybiau 100.

Rhaid i bob tocyn fod yr un pris a rhaid nodi'r pris ar y tocyn.

Rhaid i bob tocyn ddangos enw'r gymdeithas sy'n rhedeg y loteri.

Rhaid i o leiaf 20% o'r elw fynd tuag at godi arian. Gellir hawlio costau a fydd yn darparu ar gyfer gwobrau a threuliau o hyd at 80% o'r hyn a werthir.

Nodyn i gymdeithasau i ymgeisio i gofrestru:

Yn y cyfnod o bum mlynedd yn diweddu gyda dyddiad y cais, bydd y cais yn cael ei wrthod os bydd:

  1. trwydded weithredu a gynhelir gan y gymdeithas wedi'i diddymu dan adran 119(1) Deddf Hapchwarae 2005, neu
  2. bod cais am drwydded weithredu a wnaed gan y gymdeithas wedi'i wrthod.

Efallai y bydd y cais yn cael ei wrthod os yw'r awdurdod lleol yn meddwl:

  1. nad yw'r gymdeithas yn gymdeithas fasnachol,
  2. bod unigolyn a fydd neu a all fod yn gysylltiedig â hyrwyddo'r loteri wedi cael dedfryd o drosedd perthnasol, neu
  3. bod gwybodaeth a ddarperir o fewn neu gyda'r cais yn ffug neu'n gamarweiniol

Sut i wneud cais

Er mwyn rhedeg loteri, rhaid i chi wneud cais i gofrestru.

Ffioedd a thaliadau am drwyddedau

Nodiadau Cyfarwyddyd (PDF) [214KB]

Mae  polisi (PDF) [525KB] yn cynnig rhagor o wybodaeth, neu gallwch gysylltu â'ch swyddfa leol.

Edrychwch ar wefan y Comisiwn Hapchwarae i weld eu cyfarwyddyd i Awdurdodau Lleol.

Ceisiadau Trwyddedau Loterïau Bach Ceisiadau Trwyddedau Loterïau Bach

 

Noder: Unwaith y bydd cais am Gofrestriad wedi'i gymeradwyo, rhaid talu Ffi Flynyddol o £20 o fewn cyfnod o ddau mis sy'n diweddu yn union cyn blwyddyn o'r cofrestriad.

 

Cysylltiadau

Rhowch sylwadau am dudalen yma