Canolfan Argyfwng y Teulu Sir Drefaldwyn
Cymorth Cam-drin Domestig yng Ngogledd Powys
Pecyn Cymorth Adfer o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. Mae'r pecyn hwn ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yn rhaglen grŵp 8 wythnos sy'n defnyddio cyfuniad o weithgareddau creadigol a gwaith grŵp i ddatblygu gwytnwch plant a phobl ifanc ac yn rhoi cyfle iddynt brofi adferiad trwy gefnogaeth berthynol. Mae'n darparu gwybodaeth ac addysg sy'n galluogi plant a phobl ifanc i ymdopi â'r adfyd y maent wedi'i brofi, (ac y byddant efallai yn ei brofi yn y dyfodol). Darperir y rhaglen yn rhad ac am ddim ac fe'i cyflwynir yn bersonol.
Break 4 Change. Rhaglen 10 wythnos yw Break 4 Change sydd wedi'i chynllunio i gefnogi teuluoedd sy'n cael eu heffeithio gan Gam-drin Plant i Rieni (Rhoddwyr Gofal). Nod y rhaglen yw darparu strategaethau a dulliau i sicrhau newid cadarnhaol, lleihau ymdeimlad y rhiant o unigedd a theimladau'r person ifanc o hawl. Mae'n rhad ac am ddim ac yn cael ei gyflwyno yn bersonol.
Rydym yn cynnig cefnogaeth un i un mewn Ysgolion ar effeithiau cam-drin domestig. Rydym hefyd yn hwyluso gwaith grŵp ar gyfer Plant a Phobl Ifanc 6-18 oed, y tu allan i oriau addysgol. Rydym yn darparu amgylchedd grŵp diogel i blant sydd wedi dioddef, wedi cael eu heffeithio gan neu wedi bod yn dyst i gam-drin domestig. Mae'r rhain wedi'u rhannu'n ddau grŵp gwahanol, y clwb STAR a rhaglen STAR yr arddegau. Gall y Bobl Ifanc ddeall ac archwilio eu teimladau ynghylch yr hyn y maent wedi'i brofi. Cynhelir y clwb dros 8 wythnos, gan gwmpasu ystod o bynciau hanfodol, a chefnogir y plant i reoli teimladau sy'n gysylltiedig â Cham-drin Domestig. Mae plant yn dysgu sgiliau ymarferol o ran rheoli dicter a chadw'n ddiogel ac maent yn Deall nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain.
E-bost cysylltu
Enquiries@familycrisis.co.uk
CALAN DVS
Cymorth Cam-drin Domestig
Pecyn cymorth Adfer ar ôl Profiad Niweidiol yn Ystod Plentyndod Rhaglen 8 wythnos sy’n defnyddio gweithgareddau creadigol a gwaith grŵp i ddatblygu cydnerthedd pobl ifanc a dealltwriaeth am gydberthnasau iach i’w helpu i ymdopi â’r profiadau niweidiol maen nhw wedi eu profi.
Therapi Tynnu Llun a Siarad, ymyriad therapiwtig sy'n seiliedig ar ymlyniad ar gyfer Plant ac Oedolion ifanc
Gwrando a Chlywed Rhaglen 10 wythnos i Blant a Phobl Ifanc 5 -18 mlwydd oed . Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar glywed llais y plentyn .
E-bost
katie.samuel@calondvs.org.uk
Ffôn 01874 625146
Heddlu Dyfed Powys
Addysg Atal Troseddu
Mae Rhaglen Ysgolion yr Heddlu Dyfed Powys yn darparu gwasanaeth cofleidiol i ysgolion yng Nghymru gan gynnig addysg atal troseddu a gwasanaethau heddlua cefnogol fel y gwelwch yn is-bennawd y Rhaglen. Mae Swyddogion Heddlu Ysgolion yn darparu cyfres o wersi Atal Troseddu a mentrau Heddlua Ysgolion Cefnogol sy’n anelu at:
- Addysgu plant a phobl ifanc am y niwed gall cam-drin sylweddau ei achosi i’w hiechyd, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach
- • Cyflawni lleihad i’r lefelau o drosedd ac anhrefn oddi fewn i’n cymunedau ifanc.
Maen nhw’n hefyd yn gallu cynnig amrywiaeth eang o gyflwyniadau mewn gwasanaeth ysgol. Mae’r gwasanaethau’n cynnig hyblygrwydd ac yn sicrhau fod WPSP yn dal i fyny gyda’r bygythiadau sy’n dod i’r golwg ynghyd â’r tueddiadau a’r problemau. Mae cyfres o flogiau ar gael hefyd a deunyddiau eraill ar ein gwefan ddynodedig SchoolBeat.cymru.
Mae ymagwedd gorfforaethol gan y Rhaglen i sicrhau fod yr holl blant, 5-16 oed ledled Cymru yn derbyn yr un wybodaeth gywir a chyfredol.
Mae Swyddogion SPO yn gweithio’n agos at arweinwyr Bugeiliol a Diogelu yn yr ysgol i gefnogi datblygiadau’r cwricwlwm newydd o ran Iechyd a Diogelwch.
Mae Swyddogion SPO hefyd yn cefnogi ysgolion drwy ymarferion heddlua cefnogol; delio gyda digwyddiadau drwy ddefnyddio polisi Curo Trosedd Mewn Ysgolion a chynnig atebion adferol, gan gynnwys cynadledda adferol pan fo’n ofynnol.
Cyswllt
Sir Drefaldwyn
PC129 Lindsay Sweetman
lindsay.sweetman@Dyfed-Powys.police.uk
PC 733 Gayle Jones
gayle.jones@Dyfed-Powys.police.uk
Sir Frycheiniog
Sir Faesyfed
PC 597 Viv Ainsworth
Vivienne.ainsworth@dyfed-powys.police.uk
Mewngymorth CAMHS. Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed
Ysgolion Sy'n Ymwybodol o Ymlyniad/Trawma
Mae Tîm Mewngymorth Ysgolion CAMHS Powys yn cynnig hyfforddiant i ysgolion ddod yn Ysgolion Sy'n Ymwybodol o Ymlyniad/Hyddysg o ran Trawma, i staff ynghylch themâu neu dueddiadau sy'n dylanwadu ar les plant a phobl ifanc. Mae'r rhain yn cynnwys pecynnau hyfforddiant proffesiynol gan gynnwys meddyliau am hunanladdiad a hunan-niweidio, cwsg, anhwylder bwyta. Ysgolion Sy'n Ymwybodol o Ymlyniad/Trawma a phwysigrwydd chwarae.
Gall Tîm Mewngymorth Ysgolion CAMHS Powys gynnig pecynnau dysgu i blant a phobl ifanc, gan gynnwys cydnerthedd, 5 Ffordd o Lesiant, Straen Arholiadau, Cynnal Cydnerthedd a Chyfryngau Cymdeithasol, Cysgu, Pryder, Hunan-niweidio, Ymateb i Boeni. Gallant uwchsgilio staff ysgolion i gyflwyno rhaglen pum wythnos yn ymwneud â strategaethau a fydd yn helpu gydag Emosiynau Mawr.
Mae Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Ieuenctid yn galluogi staff i fod yn fwy hyderus wrth ymateb i anghenion y plentyn neu’r person ifanc pan fydd problemau iechyd meddwl yn ymddangos gyntaf neu pan fydd iechyd meddwl person ifanc troi’n argyfwng. Mae staff a gweithwyr proffesiynol eraill ysgolion cynradd ac uwchradd yn gymwys i gael hyfforddiant, mae’r cynnwys yn cael ei gyfeirio at ddemograffeg plant a phobl ifanc ysgolion uwchradd ond mae’n cynnwys pethau perthnasol i ysgolion sy’n cynnwys plant oedran cynradd. Mae prif themâu Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn cynnwys datblygu dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n eu hachosi, a’r arwyddion, symptomau a strategaethau y gellir eu defnyddio wrth gyflawni Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl. Mae’n cynnwys deall iselder (gan gynnwys syniadaeth am hunan laddiad a hunan niweidio), gorbryder, anhwylderau bwyta, seicosis a cham-drin sylweddau.
E-bost
powyscamhs.schoolsin-reach@wales.nhs.uk
Ffôn 01686 620 793
Twitter @Pthbschin_reach
Tîm Camfanteisio ar Blant Cyngor Sir Powys
Mae Hwb Camfanteisio ar Blant yn dîm oddi fewn i Wasanaethau Plant Powys. Mae camfanteisio yn derm sy’n cynnwys y canlynol: camfanteisio rhywiol, camfanteisio troseddol a llinellau cyffuriau, niwed ar-lein, radicaleiddio, llafur gorfodol, priodas orfodol, a chaethwasiaeth domestig. Rydym ni’n gweithio â phlant (hyd at 18 oed), teuluoedd, asiantaethau a chymunedau gan ddaparu cymorth arbenigol i blant y dynodwyd eu bod mewn risg mawr neu sydd wedi cael eu camfanteisio. Ein nod ni yw tarfu ar niwed, cefnogi adferiad plant ac adeiladu cydnerthedd a diogelwch oddi fewn i’w teuluoedd a rhwydwaith proffesiynol.
Ar lefel ataliol, gallwch gynnig cyngor a chanllawiau i weithwyr proffesiynol ac ysgolion sy’n gweithio gyda phlant i godi ymwybyddiaeth o’r hyn yw camfanteisio ar blant, a gallwn rannu adnoddau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gynorthwyo gyda chyfathrebu ac ymyrraeth â phlant.
Cyswllt E-bost
child.exploitation@powys.gov.uk
Twitter @powysCE
Am ymholiadau hyfforddi e bostiwch
practice.development@powys.gov.uk
Mae hyfforddiant ar gael yn chwarterol i bawb gan gynnwys staff ysgolion. Am ddim.
Mynediad Agored Gwasanaethau Ieuenctid Cyngor Sir Powys
Mae Tîm Ieuenctid Mynediad Agored yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau a chyfleodd i bobl ifanc rhwng 11-25. Mae’r gwasanaeth yn cael ei redeg yn wirfoddol ac yn ben agored ei natur. Mae hyn yn golygu fod y gweithwyr ieuenctid yn gallu adeiladau cydberthasnau arwyddocaol gyda phobl ifanc. Mae hyn yn aml yn rhoi dealltwriaeth unigryw o bobl ifanc i’r gweithiwr ieuenctid a gwell gwybodaeth i deilwra eu gwaith i siwtio anghenion unigolion. Dros amser, mae hyn yn arwain at ddeilliannau cadarnhaol sy’n ymrymuso pobl ifanc i wneud penderfyniadau gwybodus am eu bywydau a’u dyfodol. Caiff y sesiynau eu darparu gan weithwyr ieuenctid 12 awr ac maen nhw’n cael eu cynllunio ar y cyd ag ysgolion. Mae’r ysgol a gwybodaeth a deallusrwydd cymunedol yn bwydo i mewn i’r cynllunio hwn ac yn ymateb i angen lleol. Caiff y grwpiau hyn eu ffurfio o gwmpas anghenion pobl ifanc ac maen nhw’n seiliedig ar sgyrsiau testunol, dyddiau ymwybyddiaeth ac unrhyw broblemau yn yr ysgol a allai fod wedi digwydd yr wythnos honno. Ceir sesiynau galw heibio i bobl ifanc yn ystod amseroedd egwyl a chinio ble gall pobl ifanc gael mynediad at y gweithwyr ieuenctid am gyngor a chyfarwyddyd ar amrywiaeth o faterion neu bynciau. Maen nhw’n ffurfio cydberthasau agos gyda’r adrannau Llesiant a Bugeiliol ym mhob ysgol i sicrhau fod darpariaeth o’r gefnogaeth wedi ei thargedu at y bobl ifanc sydd ei angen fwyaf.
Cyswllt
Machynlleth a Llanidloes - Elen Chick
elen.chick@powys.gov.uk
Aberhonddu a John Beddoes – Katie Cleaves
katie.lloyd1@powys.gov.uk
Gwernyfed a Chrug Hywel – Wes Granger
wes.granger@powys.gov.uk
Maesydderwen – Becci Walter
Becci.walter@powys.gov.uk
Llanfair-ym-Muallt , Llandrindod a y Drenewydd – Hannah Harrop
Hannah.harrop@powys.gov.uk
Y Trallwng – Beki Williams
beki.williams1@powys.gov.uk
Eiriolaeth Ieuenctid ( Rhuban Gwyn)
Rhaglen eiriolaeth ieuenctid ar gyfer pobl ifanc 14–18 oed o bob rhyw, i ddeall beth yw perthnasoedd iach a beth sydd ddim yn iach, dysgu am gam-drin domestig, trais rhywiol, a'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â materion y mae disgyblion yn eu hwynebu'n ddyddiol fel secstio. Mae hefyd yn dysgu disgyblion am drais ar sail rhywedd a'r achosion sylfaenol sy'n gysylltiedig â hyn. Mae'n sesiwn dwy awr gyda seremoni ar y diwedd, lle bydd y disgyblion yn derbyn tystysgrif a lle gallant wneud addewid i'r Rhuban Gwyn i ddod yn fodel rôl yn eu hysgol a thynnu sylw at ymddygiad diangen.
E-bost
glenys.vivers1@powys.gov.uk
Ffôn 01597826567
ADFERIAD RECOVERY.
Cam-drin Sylweddau.
Darparu sesiynau un i un gan ddefnyddio technegau seico-gymdeithasol o gwmpas y cam-ddefnydd o sylweddau. Caiff cymorth ei ddarparu hefyd i ddisgyblion a allai fod ag aelodau o’r teulu sy’n cam-ddefnyddio sylweddau.
Gwersi o gwmpas sylweddau. Fêpio, canabis, Alcohol. Gwersi pwrpasol ar gael os gaiff angen ei ddynodi.
Cysylltwch â’r Brif Swyddfa 0300 777258
Sarah Langford 07977537193
E-bost
Sarah.Langford@adferiad.org
Credu
Cymorth i Ofalwyr Ifanc, Gofalwyr sy’n Oedolion Ifanc a’u teuluoedd.
Cymorth emosiynol, cymdeithasol ac ariannol yn yr ysgol a thu allan. Dim cyfyngiad amser i’r cymorth, hynny yw dim nifer penodol o sesiynau. Darperir ymgysylltiad gyhyd ag y bo ei angen. Ymhlith yr enghreifftiau mae Ymyrraeth Un i Un, Grwpiau Cymorth i Gyfoedion, Preswyl, Cymorth ag Eiriolaeth, Cwnsela, Hyfforddiant. Sesiynau codi ymwybyddiaeth i ysgolion ar gael er enghraifft, hyfforddiant, gwasanaethau ysgol, a gwersi ABCh. Mae Polisi Canllaw Ysgolion ar gael am wybodaeth a chyngor.
Cyswllt Prif Swyddfa 01597823800
E-bost
carers@credu.cymru
Gwefan
www.carers.cymru
Gwasanaeth Ymyrraeth Ieuenctid Powys
Cefnogi Emosiwn a Lles Disgyblion gyda Hunan Barch, Hunan Hyder, deall teimladau, emosiynau ac ymddygiadau cysylltiedig. Cymorth i ddatblygu strategaethau ymdopi cadarnhaol ynghylch e.e. hunan anafu nad yw’n lefel uchel, gorbryder, cydnerthedd emosiynol gwael, profedigaeth, teulu’n chwalu, effaith rhiant / gofalwr o ran iechyd meddwl wrth gam-drin cyffuriau/ alcohol, cydberthnasau cymdeithasol a chyfoedion, cydberthnadau teuluol, diogelwch personol e.e. camfanteisio, camfanteisio rhywiol, diogelwch ar-lein, cydberthnasau iach ac ymddygiad cymryd risg , datblygiad personol a chymdeithasol (gan gynnwys sgiliau am oes, dysgu a gwaith), cymorth i adeiladu cydnerthedd a sgiliau gwneud penderfyniadau sy’n cyfrannu at les.
Cyswllt:
Simon.titley@powys.gov.uk
Mind Canolbarth a Gogledd Powys
Grŵp ar-lein i gyfoedion mewn man diogel sy’n gweithio tuag at adferiad.
Ffôn 07947 106874
Cyswllt
youth@mnpmind.org.uk
Mind Aberhonddu a'r Cylch yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu
Ar hyn o bryd, mae Mind Aberhonddu a'r Cylch yn cynnig dau weithdy llesiant bob dydd Gwener yn ystod y tymor yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu, gyda phob sesiwn yn darparu ar gyfer grwpiau o 10 o fyfyrwyr. Yn ogystal, rydym yn cynnal taith gerdded feddwlgarol yn ystod amser cinio.
Mae'r gweithdai yn mynd i'r afael ag amrywiaeth o bynciau, fel straen, pryder, hunan-barch, cysgu, hwyliau isel, a mwy. Er mwyn sicrhau bod y cynnwys yn berthnasol ac yn fuddiol, mae'r grŵp yn dewis y pynciau yn ystod y sesiwn gyntaf.
Fel gyda holl Grwpiau Mind, darperir diodydd a bisgedi. Mae myfyrwyr ar gyfer y gweithdai yn cael eu hargymell gan eu penaethiaid blwyddyn, ac mae ganddynt yr opsiwn i gymryd rhan os dymunant.
Mae'r teithiau cerdded amser cinio ar agor i bawb ar sail galw heibio
Cyswlltt: Lisa Price
lisa@breconmind.org.uk
Area 43
Mae Area 43 yn cynnal gweithdai ym mhob ysgol uwchradd ac ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 6. Gellir cyflwyno’r gweithdai hyn i grwpiau mawr neu fach a chynnwys staff yr ysgol. Mae'r themâu a gyflwynwyd eisoes yn cynnwys; Straen Arholiadau, ymwybyddiaeth LHDTQI+, Therapi Sy'n Canolbwyntio ar Dosturi a Phontio i'r ysgol uwchradd.
Mae Area 43 yn darparu gwasanaeth cwnsela am ddim i bobl ifanc mewn ysgolion (10-18 oed) ledled Powys.
Argaeledd:
Cwnsela wyneb yn wyneb yn ystod oriau ysgol.
Cwnsela ar-lein: Dydd Llun i ddydd Gwener, 12pm-9pm.
Cyswllt:
counselling@area43.co.uk
Ffôn: 01239 614566
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'r Swyddog Cydraddoldebau ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc yn gweithio gyda Gweithwyr Ieuenctid mewn Ysgolion, Timau Bugeiliol, a staff ysgol i sefydlu a chynnal grwpiau amrywiol a arweinir yn ôl angen mewn ysgolion uwchradd, gan gynnwys grwpiau LHDTQ+. Mae'r grwpiau hyn yn darparu mannau diogel i bobl ifanc drafod materion, cynyddu gwelededd cadarnhaol, herio stereoteipiau, a chodi arian. Gellir trefnu gwaith gyda Chynghorau Ysgol a Chapteiniaid Dosbarth i herio polisïau ysgolion, yn enwedig o ran gwisg ysgol. Cynhelir sesiynau grŵp ffocws i rymuso pobl ifanc i leisio problemau a dod o hyd i atebion. Mae gweithdai ar gael ar gadernid, stereoteipiau, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, ac maent yn darparu Hyfforddiant Mentoriaid Cymheiriaid i fyfyrwyr Blwyddyn 10 a 12.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â
jess.metcalf@powys.gov.uk