Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Sganio | Ailgylchu | Gwobr

Diolch am gymryd rhan yn y treial Sganio|Ailgylchu|Gwobr

Ar ôl dechrau nôl ym mis Gorffennaf, mae'r treial Sganio|Ailgylchu|Gwobr yn Aberhonddu bellach wedi dod i ben.

Cynhaliwyd y treial Sganio|Ailgylchu| Gwobr gan Gynghrair y DDRS mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, WRAP Cymru, Cyngor Sir Powys a manwerthwyr lleol, a dyma'r tro cyntaf yn unrhyw le yn y byd i dref gyfan ddefnyddio'r dechnoleg ddigidol newydd hon, gan roi Aberhonddu ar flaen y gad o ran arloesi ym maes ailgylchu.

Bydd canfyddiadau'r treial yn cael eu dadansoddi a'u rhannu â gweddill y DU. Ynghyd ag adborth gan gyfranogwyr a'r manwerthwyr dan sylw, bydd y data'n cael ei ddefnyddio i helpu i lunio polisïau llywodraeth Cymru yn y dyfodol a phenderfynu a ellid defnyddio'r math hwn o dechnoleg ddigidol ar gyfer cynllun dychwelyd gyda blaendal yn y dyfodol.

"Mae'r busnesau a chymuned leol Aberhonddu wedi bod yn wych trwy gydol y treial hwn" meddai Duncan Midwood o Circularity Solutions, y cwmni sy'n arwain y treial Sganio|Ailgylchu|Gwobr.

"Mae wedi bod yn gorwynt o weithgarwch ers i'r treial ddechrau nôl ym mis Gorffennaf ac mae'r tîm prosiect ar lawr gwlad yn Aberhonddu wedi bod yn brysur yn glynu sticeri ar gynwysyddion diodydd, yn cysylltu â manwerthwyr, yn ateb ymholiadau, ac yn cadw pethau i fynd yn gyffredinol am yr ychydig fisoedd diwethaf.

"Rydym wedi bod wrth ein bodd gyda'r ymateb gan drigolion ac ymwelwyr i Aberhonddu. Mae eu brwdfrydedd dros ailgylchu yn amlwg ac mae'r parodrwydd i roi cynnig ar y dechnoleg newydd, ynghyd â'r mannau dychwelyd o amgylch y dref, wedi bod yn wych.

"Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y treial Sganio | Ailgylchu | Gwobr."

Cofiwch ddal ati i ailgylchu eich cynwysyddion diodydd yn eich casgliadau ailgylchu ymyl y ffordd wythnosol fel arfer.