Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Cyngor i Fusnesau ar Iechyd a Diogelwch

Mae Tîm Bwyd a Masnach Iechyd yr Amgylchedd yn gyfrifol am orfodi rheoliadau iechyd a diogelwch mewn eiddo megis y canlynol:

  • Siopau a swyddfeydd.
  • Gwestai a chyfleusterau hamdden.
  • Warysau
  • Masnachwyr adeiladu.
  • Masnachwyr dur.
  • Cartrefi preswyl.

Caiff y cyfrifoldeb ei rhannu gydag Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, y Llywodraeth sy'n gyfrifol am archwilio diwydiannau gwneuthuro, adeiladu ac amaethyddiaeth.

Tasg ein tîm yw sicrhau fod pob cyflogwr, gweithiwr a phobl hunangyflogedig yn deall ac yn cydymffurfio â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a deddfwriaeth gysylltiedig.

Cyngor

 

Rydym yn ymchwilio i ddamweiniau a hefyd yn rhoi cyngor ar sut i atal damweiniau.  Mae dyletswydd ar gyflogwyr, y rhai hunan-gyflogedig a phobl sy'n rheoli safleoedd gwaith (y person cyfrifol) i roi gwybod i'r awdurdod gorfodi am unrhyw ddamweiniau difrifol yn y gweithle.  Mae hyn yn cynnwys afiechydon galwedigaethol a digwyddiadau peryglus penodol (rhai fu bron a digwydd).

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i roi gwybod am ddamweiniau yn y gwaith ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Gallwch ddod i wybod am y mathau o ddamweiniau y dylid rhoi gwybod amdanynt a sut i wneud hyn.

Mae gwefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn darparu cyngor cynhwysfawr iawn ar bob agwedd ar Iechyd a Diogelwch.

Os ydych eisiau gwneud cwyn am fater iechyd a diogelwch, mae croeso i chi gysylltu â'n tîm.

Mae pob cwyn am iechyd, diogelwch, lles neu amodau gweithio yn cael eu harchwilio'n gyfrinachol. Byddwn yn trafod y gwyn a gallwn gynghori am unrhyw gamau gweithredu i'w cymryd.

Contacts

Feedback about a page here


 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu