SYLWCH: Tarfu ar y gwasanaeth casglu sbwriel ac ailgylchu

Read more about Gweld yr hysbysiadau llawn

Llyfrgell Llanfair-ym-Muallt

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru mae holl adeiladau ein llyfrgelloedd ar gau, ac yn aros ar gau nes y bydd canllawiau Llywodraeth Cymru'n newid.

Er bod ein hadeiladau ar gau, mae ein gwasanaeth Archebu a Chasglu'n parhau - dywedwch wrthym pa fath o lyfrau rydych chi'n hoffi eu darllen ac fe wnawn ni ddewis rhai yn benodol i chi eu casglu. Llenwch ffurflen ar ein gwefan neu ffoniwch ni ar 01597 827460 i archebu ac fe rown ni wybod i chi pryd fydd eich eitemau'n barod i'w casglu. Gallwch hefyd wneud cais am lyfr yng nghatalog y llyfrgell. Bydd yr holl eitemau mewn cwaranatîn am 3 diwrnod cyn eu casglu.

Gan na fyddwch yn gallu dychwelyd eitemau, ni fyddwch yn cael eich dirwyo a byddant yn cael eu hadnewyddu'n awtomatig. Cadwch eich llyfrau gartref.

Cofiwch, gallwch ymuno â'r llyfrgell a lawrlwytho e-Lyfrau, e-Lyfrau Llafar, ac e-Gylchgronau am ddim, a bydd aelodau o'r llyfrgell hefyd yn cael mynediad am ddim i Ancestry.com o'u cartrefi - ewch i'n catalog llyfrgell i gael rhagor o wybodaeth.

I gael help neu gyngor am eich llyfrgell, ebostiwch library@powys.gov.uk neu cysylltwch â 01597 827460.

 

Ebost: builth.library@powys.gov.uk

Ffôn: 01982 552722

Trwy lythyr:

Llyfrgell Llanfair-ym-Muallt,
Antur Gwy,
Park Road
Llanfair-ym-Muallt,
Powys, 
LD2 3BA

 

Cyfleusterau

Wi-fi a mynediad i'r rhyngrwyd ar gyfrifiadur am ddim

Argraffydd a sganiwr

 

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu