Llyfrgell Llanwrtyd

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru mae holl adeiladau ein llyfrgelloedd ar gau, ac yn aros ar gau nes y bydd canllawiau Llywodraeth Cymru'n newid.

Er bod ein hadeiladau ar gau, mae ein gwasanaeth Archebu a Chasglu'n parhau - dywedwch wrthym pa fath o lyfrau rydych chi'n hoffi eu darllen ac fe wnawn ni ddewis rhai yn benodol i chi eu casglu. Llenwch ffurflen ar ein gwefan neu ffoniwch ni ar 01597 827460 i archebu ac fe rown ni wybod i chi pryd fydd eich eitemau'n barod i'w casglu. Gallwch hefyd wneud cais am lyfr yng nghatalog y llyfrgell. Bydd yr holl eitemau mewn cwaranatîn am 3 diwrnod cyn eu casglu.

Gan na fyddwch yn gallu dychwelyd eitemau, ni fyddwch yn cael eich dirwyo a byddant yn cael eu hadnewyddu'n awtomatig. Cadwch eich llyfrau gartref.

Cofiwch, gallwch ymuno â'r llyfrgell a lawrlwytho e-Lyfrau, e-Lyfrau Llafar, ac e-Gylchgronau am ddim, a bydd aelodau o'r llyfrgell hefyd yn cael mynediad am ddim i Ancestry.com o'u cartrefi - ewch i'n catalog llyfrgell i gael rhagor o wybodaeth.

I gael help neu gyngor am eich llyfrgell, ebostiwch library@powys.gov.uk neu cysylltwch â 01597 827460.

 

Ebost: llanwrtyd.library@powys.gov.uk

Ffon: 01591 610657

Trwy lythyr:

Llyfrgell Llanwrtyd,
Ysgol Dolafon C.P.,
Llanwrtyd Wells,
Powys,
LD5 4RA

 

Cyfleusterau

Wi-fi a mynediad i'r rhyngrwyd ar gyfrifiadur am ddim

Argraffydd, sganiwr

Llyfrgell Llanwrtyd yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr trwy'r dydd ar ddydd Mawrth, ac ar brynhawniau dydd Iau. Edrychwch isod am ragor o wybodaeth ar ba wasanaethau fydd ar gael ar y dyddiau hynny.

Yn  ystod oriau a gynhelir gan wirfoddolwyr:

Fe fyddwch yn gallu dychwelyd a benthyca llyfrau, a defnyddio'r cyfrifiaduron, argraffydd a wi-fi fel arfer - cofiwch ddod â'ch cerdyn llyfrgell gyda chi!

Os hoffech adnewyddu llyfrau sydd wedi'u benthyca yn ystod oriau y gwirfoddolwyr, dewch â'ch llyfrau gyda chi. Neu edrychwch isod am wybodaeth ar adnewyddu llyfrau ar-lein, neu trwy gysylltu â ni dros y ffôn neu e-bost.

Yn ystod oriau'r staff:

Yn ystod oriau'r staff ar foreau dydd Iau a boreau dydd Sadwrn, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at ein hystod lawn o wasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau cyngor a thaliadau trwy lyfrgell +, ac ymholiadau llyfrgell fwy cymhleth.

Ar-lein neu dros y ffôn - ar unrhyw adeg

Gallwch adnewyddu a gofyn am eitem ar y catalog ar-lein ar unrhyw amser. Os byddai'n well gennych adnewyddu llyfrau neu ofyn am eitemau dros y ffôn, gallwch ffonio Llyfrgell Llanwrtyd yn ystod oriau craidd y staff, neu ffonio Llyfrgell Y Drenewydd ar 01686 626934 ac fe fyddwn yn falch o'ch helpu

Rydym yn ddiolchgar iawn i'r holl wirfoddolwyr am roi eu hamser i gefnogi Llyfrgell Llanwrtyd!

 

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu