Llyfrgell Trefaldwyn
Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru mae holl adeiladau ein llyfrgelloedd ar gau, ac yn aros ar gau nes y bydd canllawiau Llywodraeth Cymru'n newid.
Er bod ein hadeiladau ar gau, mae ein gwasanaeth Archebu a Chasglu'n parhau - dywedwch wrthym pa fath o lyfrau rydych chi'n hoffi eu darllen ac fe wnawn ni ddewis rhai yn benodol i chi eu casglu. Llenwch ffurflen ar ein gwefan neu ffoniwch ni ar 01597 827460 i archebu ac fe rown ni wybod i chi pryd fydd eich eitemau'n barod i'w casglu. Gallwch hefyd wneud cais am lyfr yng nghatalog y llyfrgell. Bydd yr holl eitemau mewn cwaranatîn am 3 diwrnod cyn eu casglu.
Gan na fyddwch yn gallu dychwelyd eitemau, ni fyddwch yn cael eich dirwyo a byddant yn cael eu hadnewyddu'n awtomatig. Cadwch eich llyfrau gartref.
Cofiwch, gallwch ymuno â'r llyfrgell a lawrlwytho e-Lyfrau, e-Lyfrau Llafar, ac e-Gylchgronau am ddim, a bydd aelodau o'r llyfrgell hefyd yn cael mynediad am ddim i Ancestry.com o'u cartrefi - ewch i'n catalog llyfrgell i gael rhagor o wybodaeth.
I gael help neu gyngor am eich llyfrgell, ebostiwch library@powys.gov.uk neu cysylltwch â 01597 827460.
Ffôn: 01686 668937
Trwy lythyr:
Llyfrgell Trefaldwyn,
Arthur Street,
Montgomery,
Powys,
SY15 6RA
Cyfleusterau
Wi-fi a mynediad i'r rhyngrwyd ar gyfrifiadur am ddim
Argraffydd, sganiwr