Toglo gwelededd dewislen symudol

Menter Twyll Genedlaethol

Mae'r Fenter Twyll Genedlaethol yn ymarfer cydweddu data sy'n helpu cyrff cyhoeddus i ganfod ac atal twyll a gordaliadau o'r pwrs cyhoeddus ledled y DU.
Visit the Wales Audit Office Website

Yn ôl y ddeddf, mae'n rhaid i ni ddiogelu'r cronfeydd cyhoeddus yr ydym yn eu gweinyddu. Gallwn rannu gwybodaeth sy'n cael ei darparu i ni gyda chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu cronfeydd cyhoeddus, er mwyn atal a datgelu twyll. 

Archwilydd Cyffredinol Cymru sy'n penodi'r archwiliwr i archwilio cyfrifon yr awdurdod yma. Ef hefyd sy'n gyfrifol am gynnal ymarferion cyfateb data.

Er mwyn cyfateb data rhaid cymharu cofnodion cyfrifiadurol un corff â chofnodion cyfrifiadurol un arall. Gwybodaeth bersonol fydd hon fel rheol. Mae cyfateb data yn gyfrifiadurol yn caniatáu i ni ddod o hyd i hawliadau a thaliadau trwy dwyll. Pan ddarganfyddir data sy'n cyfateb, gall hyn ddangos bod anghysonder y mae angen ei archwilio ymhellach. Ni allwn ragdybio a oes yna dwyll, camgymeriad neu esboniad arall nes cynnal archwiliad.

Ar hyn o bryd, mae'r Archwilydd Cyffredinol yn gofyn ein bod yn cymryd rhan yn yr ymarfer cyfateb data er mwyn helpu i atal a datgelu twyll. Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn disgwyl i ni ddarparu gwybodaeth y mae'n ei gadw at y defnydd yma. Pob tro y bydd ymarfer yn cael ei gynnal, bydd angen i ni ddarparu setiau data penodol i'r Archwilydd Cyffredinol ar gyfer y cyfateb, ac mae'r rhain i'w gweld yn llawlyfrau'r Archwilydd Cyffredinol.

Bydd y Archwilydd Cyffredinol yn defnyddio'r data mewn ymarfer cyfateb data, a fydd wedi'i gynnal dan ei rym yn Rhan 3A Deddf Archwiliad Cyhoeddus (Cymru) 1998. Nid oes angen gofyn caniatâd yr unigolion dan sylw dan Ddeddf Gwarchod Data 1998.

Mae ymarferion cyfateb data yr Archwilydd Data yn destun Cod Ymarfer.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch grym cyfreithiol yr Archwilydd Cyffredinol a'r rheswm y bydd yn cyfateb rhyw fathau penodol o wybodaeth - Swyddfa Archwilio Cymru