Deddf Etholiadau 2022 - Diweddariad Pwysig: Ailymgeisio am eich Pleidlais drwy'r Post

Mae'r Ddeddf Etholiadau yn caniatáu i etholwyr wneud cais arlein am bleidlais bost ar gyfer etholiadau Seneddol a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu (nid yw'r gwasanaeth hwn ar gael ar gyfer etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol).
Diweddariad Pwysig: Ailymgeisio am eich Pleidlais drwy'r Post
Oherwydd newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Etholiadau 2022, rhaid i bob pleidleisiwr a ymgeisiodd am bleidlais bostcyn 31 Hydref 2023 ailymgeisio erbyn 31 Ionawr 2026 i barhau i bleidleisio drwy'r post yn etholiadau Seneddol a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu'r DU.
Beth sy'n Newid?
- Mae pleidleisiau post bellach yn para am uchafswm o 3 blynedd.
- Rhaid ichi ailymgeisio bob 3 blynedd i barhau i bleidleisio drwy'r post.
- Bydd angen i chi ddarparu eich rhif Yswiriant Gwladol, dyddiad geni a llofnod ysgrifenedig.
Pwy Sydd Angen Ailymgeisio?
Os gwnaethoch gais am bleidlais bost cyn 31 Hydref 2023, bydd eich pleidlais bost bresennol yn dod i ben ar 31 Ionawr 2026. Rhaid ichi ailymgeisio i barhau i bleidleisio drwy'r post ar ôl y dyddiad hwnnw.
Sut y Cysylltir â chi?
- Os ydych wedi darparu cyfeiriad ebost, byddwn yn eich ebostio ynghylch ailymgeisio. I wirio bod yr ebost a dderbyniwch yn ddilys, testun yr ebost fydd 'Hysbysiad Ailymgeisio am Bleidlais Bost'.
- Bydd negeseuon ebost yn dod o gyfeiriadau swyddogol y cyngor ac efallai y defnyddir GOV.UK Notify.
- Os nad oes gennym eich cyfeiriad ebost, byddwn yn anfon ffurflen bapur atoch rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2025. Efallai y byddwch hefyd yn derbyn ffurflen bapur os nad ydych wedi ailymgeisio ar ôl derbyn ebost.
Sut i Ailymgeisio
Gallwch ailymgeisio:
- Arlein ar gov.uk/gwneud-cais-pleidlais-drwyr-post
- Drwy lawrlwytho'r ffurflen ganlynol: Application to vote by post (PDF, 125 KB)
- Trwy gysylltu â ni i ofyn am ffurflen
Ailymgeisio nawr
Nid oes raid i chi aros i dderbyn nodyn i'ch atgoffa i ailymgeisio cyn gwneud cais newydd. Gallwch ailymgeisio am eich pleidlais bost arlein nawr ar GOV.UK ar unrhyw adeg.
Bydd ailymgeisio nawr hefyd yn sicrhau bod y llofnod sydd gennym ar eich cyfer yn gyfredol, gan leihau'r risg y bydd eich pleidlais bost yn cael ei gwrthod oherwydd bod eich llofnod ddim yn cyfateb â'n cofnodion.
Fe lofnodais a dychwelyd ffurflen yn ddiweddar, pam fod rhaid i mi wneud cais eto?
Dim ond ar gyfer Senedd Cymru ac etholiadau cynghorau lleol y mae'r ffurflen adnewyddu llofnod a ddychwelwyd gennych yn ddiweddar. Mae proses ailymgeisio'r bleidlais bost yn cwmpasu etholiadau Seneddol a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu'r DU yn unig. Mae'r gofyniad ar gyfer y ddau yn wahanol.
Dyddiad cau
Er mwyn osgoi colli eich pleidlais bost, sicrhewch eich bod yn ymateb i unrhyw ohebiaeth a gewch ynghylch eich pleidlais bost ac yn ailymgeisio cyn 31 Ionawr 2026. Os na fyddwch yn gwneud hynny, caiff eich pleidlais bost ei chanslo, a bydd angen i chi bleidleisio'n bersonol oni bai eich bod yn ailymgeisio.
Angen Cymorth?
Os ydych yn ansicr am y broses neu os oes angen cymorth arnoch:
- Cysylltwch â'r tîm gwasanaethau etholiadol
- Gwiriwch yr ebost neu'r llythyr a gewch am fanylion cyswllt
- Ewch i gov.uk/gwneud-cais-pleidlais-drwyr-post am fwy o wybodaeth
Bydd etholwyr yn cael gwiriad adnabod gyda chofnodion DWP ar gyfer yr etholiadau hyn fel rhan o'r broses ymgeisio. Bydd eich cais ar gyfer y ddau fath yma o etholiad yn ddilys am gyfnod o dair blynedd ar y mwyaf. Bydd angen i chi ail-ymgeisio erbyn y trydydd 31 Ionawr ar ôl i'ch cais gael ei ganiatáu. Bydd hysbysiad yn eich atgoffa o'r angen i ailymgeisio yn cael ei anfon cyn y dyddiad hwnnw.
Dechreuodd y broses ar gyfer proses ymgeisio bob tair blynedd ar gyfer pleidleiswyr post sy'n gwneud cais am Etholiadau Seneddol a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar 31 Hydref 2023. Ni fydd angen i etholwyr sydd â phleidlais drwy'r post yn ei lle ers cyn i'r newidiadau ddod i rym, wneud unrhyw beth tan 31 Ionawr 2026, ond bydd y Tîm Etholiadau mewn cysylltiad â chi cyn y dyddiad hwn ynghylch y trefniadau trosiannol.
Mewn etholiad Seneddol neu Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, bydd terfyn hefyd ar faint o bleidleisiau post y gall etholwr eu cyflwyno mewn unrhyw orsaf bleidleisio neu adeilad cyngor (cyfeiriad ar amlen B o'ch pecyn post). Byddwch yn cael cymryd eich pleidlais eich hun, a hyd at bump arall.
Yn y mathau hyn o etholiadau, bydd pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr yn cael eu gwahardd rhag ymdrin â phecynnau pleidleisio drwy'r post ar ran etholwyr oni bai eu bod yn cyflwyno eu pleidlais eu hunain, perthynas agos neu rywun y maen nhw, neu'r sefydliad sy'n eu cyflogi neu'n eu llogi, yn darparu gofal rheolaidd amdanynt.
Bydd y rheolau ynglŷn â chyfrinachedd a phwy sy'n gallu ymdrin â phleidleisiau post ar gyfer y mathau uchod o etholiadau yn berthnasol ar gyfer etholiadau a gynhelir ar neu ar ôl 2 Mai 2024.
Teitl yn dilyn dolen: Am ragor o wybodaeth am newidiadau i bleidleisio drwy'r post https://www.electoralcommission.org.uk/cy/newyddion-a-safbwyntiau/deddf-etholiadau/newidiadau-i-drefniadau-pleidleisio-drwyr-post
Cysylltiadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma