Powys Ddigidol
Fel rhan o'n gweledigaeth: "Croesawu technolegau newydd i wella profiad ein cwsmeriaid."
Mae'r ffordd rydym yn gweithio ac yn byw heddiw'n newid yn gyflym. Mae technolegau digidol yn cael effaith sylweddol ar y ffordd byddwn yn:
- cysylltu â'n gilydd
- derbyn gwybodaeth
- cael gafael ar amrywiaeth o wasanaethau
Ochr yn ochr â'r dulliau mwy traddodiadol o gysylltu â'r cyngor, rydym yn buddsoddi mewn dulliau technegol i roi mwy o ddewis i chi ar sut, pryd ac ym mha ffordd y gallwch gysylltu â ni.
Rydym hefyd yn buddsoddi mewn systemau i helpu ein staff weithio'n fwy effeithlon.
Gyda Strategaeth Ddigidol Powys byddwn yn dechrau ar brosiectau uchelgeisiol i sicrhau fod Powys yn sir y gallwch gysylltu, cyfathrebu a derbyn y gwasanaethau sydd eu hangen yn gyflym ac yn hwylus.
Datblygwyd pum ffrwd waith i drawsnewid ein cynnig digidol. Fel trigolion, mae'n bosibl y bydd y ddau gyntaf o ddiddordeb i chi. Cliciwch ar y tabiau isod i wybod mwy am y ffrydiau gwaith hyn:
- Digidol Unrhyw Amser - Ehangu gwasanaethau ar-lein syml a hygyrch fel y gall preswylwyr a staff gwblhau tasgau unrhyw bryd, gan leihau prosesau â llaw a gwella hwylustod
- Technoleg Arloesol - Harneisio technolegau clyfar, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial, i wella effeithlonrwydd, gwella darpariaeth gwasanaethau, a rhagweld galw yn y dyfodol yn gyfrifol
- Data a Mewnwelediadau - Byddwn yn trin data fel ased strategol, gan ddefnyddio mewnwelediadau cywir ac amserol i lywio penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gwella gwasanaethau, a chynllunio'n rhagweithiol ar gyfer y dyfodol.
- Seilwaith Digidol a Seiberddiogelwch - Sicrhau bod ein systemau'n ddiogel, yn ddibynadwy, ac yn addas ar gyfer y dyfodol, gyda seiber-wydnwch cryf a seilwaith modern
- Dyfodol Digidol - Cefnogi sgiliau digidol a hyder yn ein cymunedau a'n gweithlu i leihau allgáu digidol a galluogi gweithio effeithlon a chynhwysol
Rhoi gwybod i chi
Rydym eisiau i chi fod yn ymwybodol o bopeth rydym yn ei wneud ar draws y ffrydiau gwaith eraill hefyd. Mae'r rhain yr un mor bwysig ac fe wnawn ein gorau glas i sicrhau sefydliad sydd mor effeithlon â phosibl sy'n defnyddio offer a thechnolegau digidol i helpu ein staff a chyflymu prosesau cyffredin. Fe wnawn hefyd gadw unrhyw ddata y rhannwch â ni'n ddiogel a sicrhau fod ein systemau ni'n gadarn.
