Powys Gynaliadwy
Mae darparu gwasanaethau llywodraeth leol gwerthfawr wrth wraidd popeth a wnawn. Fodd bynnag, nid yw cyngor y gorffennol yn ariannol gynaliadwy. Rydym yn wynebu sefyllfa argyfyngus oherwydd problemau cenedlaethol a rhyngwladol y tu hwnt i'n rheolaeth, felly mae'n rhaid i ni newid yn sylfaenol y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau.
Rydym yn cydnabod yr heriau hyn, a rhaid i ni weithio mewn partneriaeth i archwilio'r cyfleoedd i wneud y newidiadau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd ar gyfer y dyfodol.
Rydym yn datblygu dull o newid y ffordd rydym yn gweithio, sef Powys Gynaliadwy.
Mae Powys Gynaliadwy yn adolygu pa wasanaethau a ddarperir gennym a sut y cânt eu darparu i ddiwallu anghenion presennol ac anghenion y dyfodol.
Mae Powys Gynaliadwy yn ymwneud â chydweithio i:
- Ddylunio dyfodol i'n hawdurdod lleol sy'n darparu gwasanaethau cryfach, tecach a gwyrddach tra'n aros o fewn y gyllideb sydd ar gael.
- Adeiladu cydnerthedd fel y gall atebion wedi'u harwain gan y gymuned helpu i ddiwallu'r hyn sydd ei angen yn lleol.
Pe baem yn cadw ein gwasanaethau yn union fel y maent ar hyn o bryd, heb wneud unrhyw newidiadau, erbyn 2029 byddant yn costio o leiaf £51m yn fwy nag y maent heddiw. Byddai angen i'ch treth y cyngor gynyddu bron i 60% er mwyn diwallu'r costau cynyddol hyn.
Ni all hyn ddigwydd! Felly, rhaid i ni wneud newidiadau i'r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau.
Sustainable Powys info

Gwybodaeth am yr her ariannol
Mae Cyngor Sir Powys yn rhagweld diffyg mewn ariannu. Mae hyn yn seiliedig ar ddadansoddiad ariannol cenedlaethol, sef mwy na £9.6 miliwn ar gyfer y flwyddyn gyllidebol gyfredol gyda'r ffigwr hwnnw'n codi i £50.9 miliwn neu fwy dros y pedair blynedd nesaf.
Darllenwch Fwy o Wybodaeth (Ewch i Gwybodaeth am yr her ariannol)
Sut olwg sydd ar Bowys Gynaliadwy i'r ...
Darllenwch Fwy o Wybodaeth (Ewch i Sut olwg sydd ar Bowys Gynaliadwy i'r ...)
Gwybodaeth am yr her ariannol
Mae Cyngor Sir Powys yn rhagweld diffyg mewn ariannu. Mae hyn yn seiliedig ar ddadansoddiad ariannol cenedlaethol, sef mwy na £9.6 miliwn ar gyfer y flwyddyn gyllidebol gyfredol gyda'r ffigwr hwnnw'n codi i £50.9 miliwn neu fwy dros y pedair blynedd nesaf.
Darllenwch Fwy o Wybodaeth (Ewch i Gwybodaeth am yr her ariannol)