Gwybodaeth am yr her ariannol
![The Financial Situation](/image/19863/The-Financial-Situation/standard.jpg?m=1706022374123)
Mae Cyngor Sir Powys yn rhagweld diffyg mewn ariannu. Mae hyn yn seiliedig ar ddadansoddiad ariannol cenedlaethol, sef mwy na £18 miliwn ar gyfer y flwyddyn gyllidebol gyfredol gyda'r ffigwr hwnnw'n codi i £64 miliwn neu fwy dros y tair blynedd nesaf.
Mae hyn yn gadael bwlch sylweddol yn ein cyllid sydd ar gael ac yn golygu na allwn fforddio parhau i ddarparu ein gwasanaethau yn yr un modd.
Mewn blynyddoedd blaenorol rydym wedi edrych ar ein gwasanaethau i ddod yn fwy effeithlon. Er bod newidiadau wedi'u gwneud, nid yw'r dull hwn yn gynaliadwy yn y tymor hir ac mae angen i ni nawr fod yn fwy radical a newid ein dull.