Darllenwch ein Strategaeth Ddigidol
Mae Strategaeth Ddigidol Cyngor Sir Powys 2026-2030 yn nodi ein huchelgais i adeiladu Powys fwy clyfar, sydd wedi'i chysylltu'n ddigidol; lle mae gwasanaethau'r cyngor yn hygyrch, yn effeithlon, ac wedi'u cynllunio o amgylch anghenion ein cymunedau a phobl Powys. Er mai 2030 yw ein gorwel, rydym yn cydnabod bod newid digidol yn daith barhaus.
Byddwn yn sicrhau y llunnir pob gwelliant digidol gan leisiau ein trigolion, gan gynnwys defnyddwyr ymhob cam.
Mae'r strategaeth hon yn darparu fframwaith clir ar gyfer sut y byddwn yn defnyddio technoleg, data ac arloesedd i wella canlyniadau i bobl, cryfhau cydnerthedd a darparu gwasanaethau sy'n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
