Talu Trethi Busnes
Mae gan Wefan y Swyddfa Brisio yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar brisio eiddo busnes. Mae cyfleuster chwilio hefyd ar y wefan fel y gallwch wirio gwerth ardrethol presennol eich eiddo.
Debyd Uniongyrchol
Sefydlu neu ddiwygio debyd uniongyrchol presennol ar-lein mewn 4 cam hawdd:
- Cofrestru / Logio mewn i 'Fy Nghyfrif' Powys
- Ychwanegu manylion at Broffil eich cyfrif (enw, cyfeiriad, e-bost a chyfeirnod Trethi Busnes)
- Clicio ar Fy Nghyfrif i weld crynodeb Trethi Busnes a chlicio ar y botwm i 'Weld y Cyfrif Llawn'.
- Dan y pennawd talu, dewiswch Sefydlu / diwygio Debyd Uniongyrchol.
Cerdyn debyd/credyd
Talu trwy gerdyn gan ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein
Cofiwch gael eich Cyfeirnod Cyfrif Trethi Busnes wrth law wrth dalu ar-lein.
Ac
Gallwch dalu gyda cherdyn debyd/credyd ar y rhif ffôn awtomataidd 24 awr: 03300 889 578 .
Cofiwch gael yr anfoneb neu'r cyfeirnod wrth law pan fyddwch yn ffonio.
Mewn unrhyw Swyddfa Bost
Talwch mewn unrhyw Swyddfa Bost yn y DG neu trwy Paypoint neu Epay.
Defnyddiwch y cod bar talu sydd ar flaen eich bil.
Gwnewch sieciau'n daladwy i Swyddfa'r Post Cyf.
Trwy'r Post
Gwnewch Sieciau neu Orchmynion Post yn daladwy i Cyngor Sir Powys.
Ysgrifennwch eich Cyfeirnod Cyfrif Trethi Busnes ar gefn eich siec neu orchymyn post.
Anfonwch eich taliad i PO Box 71, Llandrindod, LD1 9AQ.