Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Diogelu Corfforaethol

Cyflwyniad i Ddiogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel ar gyfer Cyngor Sir  Powys, yn ogystal â sicrhau fod trefniadau a gweithdrefnau cadarn yn eu lle. Maediogelu'n fusnes pawb, ac mae gan bob plentyn ac oedolyn yr hawl i gael ei ddiogelu rhag niwed, rhag ei gamfanteisio a'i gam-drin.

 

Prif Rolau

Arweinyddion ym maes Diogelu:

Nina Davies
Nina Davies,

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant

Arweinydd Diogelu Corfforaethol 

nina.davies@powys.gov.uk  

 

Cllr Church
Y Cynghorydd Richard Church,

Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel, 

Arweinydd Diogelu

cllr.richard.church@powys.gov.uk   

 

 Cyfrifoldebau staff a Chynghorwyr

Mae'r Polisi Diogelu Corfforaethol yn darparu fframwaith ar gyfer pob aelod o staff, pob aelod etholedig a phob maes gwasanaeth o fewn y Cyngor, sy'n olrhain cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl, yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn bodloni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi'n berthnasol i holl weithwyr a gweithlu Cyngor Sir Powys, cynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau sy'n cael eu comisiynu neu eu caffael gan y Cyngor.

Er taw'r Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n arwain o ran delio gydag ymholiadau sy'n ymwneud â honiadau / pryderon fod plant ac oedolion efallai'n dioddef o niwed sylweddol, mae gan bawb gyfrifoldeb i ddiogelu llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion, beth bynnag fo rôl yr unigolyn.

 

Sut i fynegi pryder

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch diogelwch plentyn, person ifanc neu oedolyn, mae'n rhaid ichi gysylltu â Thîm Drws Ffrynt y Gwasanaethau Plant neu dîm CYMORTH y Gwasanaethau Oedolion.

Plant a phobl ifanc (dan 18 oed): I gysylltu â'r tîm Drws Ffrynt, gellir

Oedolion: I gysylltu â'r tîm CYMORTH, gellir

Ar gyfer problemau sy'n codi ar ôl 5pm o ddydd Llun - Gwener, ac ar y penwythnos a gwyliau banc,

dylid cysylltu â'r Tîm Dyletswydd Brys ar 0345 054 4847

Os bydd plentyn, person ifanc neu oedolyn mewn perygl, mae'n rhaid cysylltu â'r Heddlu'n ddioed, ar 999. Mae'n hollbwysig osgoi oedi o ran y broses hon.

 

Copïau o bolisïau a dogfennau perthnasol

Polisi Diogelu Corfforaethol (PDF) [490KB]

Briff o'r Crynodeb o'r Polisi Diogelu Corfforaethol (PDF) [319KB]

 

Llywodraethu

Bwrdd Diogelu Corfforaethol Diogelu Pobl ym Mhowys Cylch Gorchwyl (PDF) [113KB]

Ar lefel gorfforaethol, dirprwyir y cyfrifoldeb ar gyfer monitro effeithiolrwydd trefniadau diogelu ar draws y Cyngor i'r Bwrdd Diogelu Corfforaethol.

Mae'r Bwrdd Diogelu Corfforaethol yn cynnwys ymarferwyr arweiniol pob Portffolio / Maes Gwasanaeth y Cyngor, sef Arweinyddion Diogelu Dynodedig. Mae'r Bwrdd yn cwrdd bob chwarter.

Caiff adroddiad sydd ar gael i'r cyhoedd ei gwblhau ar ôl cyfarfodydd y Bwrdd, sef Adroddiad Gweithgaredd y Bwrdd Diogelu Corfforaethol. Fel rhan o broses lywodraethu ehangach Diogelu Corfforaethol, caiff yr Adroddiad Gweithgaredd ei ystyried gan Gabinet Cyngor Sir Powys, Pwyllgor Craffu Iechyd a Gofal a Phwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

Adroddiadau Gweithgareddau Bwrdd Diogelu Corfforaethol Adroddiadau Gweithgareddau Bwrdd Diogelu Corfforaethol