Toglo gwelededd dewislen symudol

Sbotolau ar Ddiogelu

Safeguarding

Mae diogelu'n gyfrifoldeb pawb

Mae diogelu plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel ar gyfer Cyngor Sir Powys, ac mae'n gyfrifoldeb pawb sy'n gweithio inni neu'n ein cynrychioli ni.

O safwbynt Diogelu, ein Harweinyddion yw:

  • Y Cynghorydd Richard Church, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys fwy Diogel, a'r Arweinydd Diogelu
  • Nina Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, Arweinydd Diogelu Corfforaethol

Ond nid y ddau unigolyn yma neu staff ein Gwasanaethau Cymdeithasol yn unig sy'n gyfrifol am gadw ein trigolion yn ddiogel. Mae pawb yn gyfrifol, beth bynnag fo'ch rôl gydag neu ar ran y cyngor.

Os byddwch yn gweld rhywbeth nad yw'n edrych yn iawn neu'n swnio'n iawn wrth ymweld â chartref, ateb galwad ffôn neu redeg sesiwn hyfforddi, dylech ei adrodd.

Gall pawb wneud gwahaniaeth!

Cymorth a chefnogaeth

Os ydych chi'n cael eich niweidio neu eich cam-drin, neu os ydych chi'n poeni am rywun arall, dylech ei adrodd.

Os taw argyfwng yw, peidiwch ag oedi - ffoniwch 999.

Yn dioddef o gam-drin domestig?

Os ydych chi'n meddwl eich bod mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.

Grŵp Diogelu Corfforaethol Powys

Deall ein dyletswydd diogelu

Fel awdurdod lleol yng Nghymru, mae dyletswydd statudol arnom i ddiogelu a hybu lles plant ac oedolion sydd mewn risg.

Mae'r term 'plentyn/plant' yn golygu hyd at 18 oed, yn ôl diffiniad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Nod diogelu oedolion yw diogelu oedolion dros 18 oed a allai fod ag angen gwasanaethau gofal cymunedol am resymau fel problemau iechyd meddwl, oedran, neu salwch. 

Caiff person ei ystyried i fod mewn risg hefyd os nad yw'n gallu edrych ar ei ôl ei hun, diogelu ei hun rhag niwed neu ecsbloetio neu ddim yn gallu rhoi gwybod ei hun am gam-drin.

Ein dyletswydd yw:

  • Adnabod cam-driniaeth neu risg, niwed neu esgeulustod.
  • Gwybod sut i weithredu os welwch neu os ydych chi'n amau cam-drin, niwed, neu esgeulustod neu os fydd rhywun yn dweud wrthych ei fod yn cael ei gam-drin.
  • Deall sylfaen y gyfraith ynghylch diogelu.
  • Cydnabod bod dyletswydd arnoch i roi gwybod am gam-drin, niwed neu esgeulustod.

Grŵp Diogelu Corfforaethol Powys

Ymwybyddiaeth o hunan-niweidio a hunan-anafu

Mae hunan-niweidio yn cynnwys llawer o ymddygiadau niweidiol fel hunan-anafu, ond mae hefyd yn cynnwys materion mor amrywiol ag anhwylderau bwyta, ymddygiad cymryd risg, a chamddefnyddio cyffuriau ac alcohol.

Gallwn hefyd ystyried hunan-esgeulustod (gan gynnwys diffyg hylendid, diffyg gofal iechyd ac anhunanoldeb eithafol) yn ddangosyddion hunanwerth isel..

Gall hunan-niweidio effeithio ar unrhyw un, ar unrhyw adeg yn eu bywydau. Rhyw, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, hil, crefydd, cefndir - mae'r cyfan yn amherthnasol. Yn hytrach nag ystyried pwy allai droi at hunan-anafu, rydym yn hytrach yn canolbwyntio ar bwy o bosibl allai ddioddef o'r trallod emosiynol a allai arwain at hunan-anafu, mae'n llawer haws dychmygu y gall hunan-anafu effeithio ar unrhyw un.

Felly yn hytrach nag edrych ar bwy sy'n hunan-anafu o safbwynt rhywedd ac oedran, efallai y gallem ystyried bod rhai nodweddion y mae rhai pobl sy'n hunan-anafu yn eu rhannu. Mae'r rhain yn cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i, hunan-barch isel, ymgeisio am berffeithrwydd a chyflawniad uchel, delwedd corff wael, trawma a chamdriniaeth. Wrth gwrs, gall rhywun sy'n hunan-anafu brofi pob un, rhai, neu ddim un o'r nodweddion hyn, fel yn wir y gall rhywun nad yw'n ei anafu ei hun.

Hunan-dyb isel

Mae llawer o bobl sy'n hunan-anafu yn aml yn siarad am deimladau negyddol dwys tuag atyn nhw'u hunain. Un o brif achosion hunan-dyb  isel yw annilysu cronig gan eraill.

Ymgeisio am berffeithrwydd a chyflawniad uchel

Gall unigolion sy'n ymgeisio am berffeithrwydd fod yn llwyddiannus iawn yn eu bywydau bob dydd, ond mae'n aml yn dod ar draul personol. Ar yr un pryd, mae'r ymgais am berffeithrwydd yn gwthio pobl i lwyddo i'r safonau uchaf, ond mae'n anochel hefyd yn achosi i berson deimlo y gallent fod wedi gwneud yn well, neu hyd yn oed eu bod wedi methu. Yn yr un modd ag annilysu, gall hyn arwain at hunan-dyb  isel yn y pen draw.

Delwedd corff wael

Mae gan rai pobl sy'n hunan-anafu ddelwedd corff wael. Gall hyn hefyd fod oherwydd annilysu gan eraill (h.y. sylwadau cyson am bwysau, diwyg ac ati) neu gall hyd yn oed fod oherwydd sylw'r cyfryngau ar 'bobl hardd'. Gall person deimlo'n annigonol, neu hyd yn oed yn hyll neu'n israddol. Gall hunan-niweidio fod yn ffordd o ymdopi â'r teimladau hyn drwy 'gosbi'r' corff.

Trawma a cham-drin

Mae rhai pobl yn hunan-anafu i ymdopi â digwyddiadau trawmatig mewn bywyd, naill ai ar hyn o bryd neu yn y gorffennol. Gall y rhain gynnwys profedigaeth, bwlio, chwalu perthynas, argyfwng ariannol, neu gam-drin corfforol, emosiynol neu rywiol.

Materion iechyd meddwl eraill

Gall hunan-anafu hefyd fod yn gysylltiedig â materion iechyd meddwl fel iselder, pryder, anhwylderau bwyta, sgitsoffrenia, anhwylder personoliaeth ffiniol, ac ati.

Cael help

Grŵp Diogelu Corfforaethol Powys

Plentyn yn cam-drin rhiant neu berson ifanc yn cam-drin rhieni

Unrhyw ymddygiad a ddefnyddir gan blentyn neu berson ifanc i reoli, dominyddu neu orfodi rhieni yw cam-drin Plant i Rieni (CPA) neu gam-drin pobl ifanc i riant (APA), ac mae'n fwy cyffredin nag y byddech yn ei ddychmygu.

Mae plant yn cam-drin rhieni yn fater cymhleth ac yn aml caiff ei gamddeall - neu hyd yn oed ei anwybyddu'n llwyr. Nid ydym yn gwybod gwir raddau CPA oherwydd mae digwyddiadau yn aml yn mynd heb eu hadrodd..

Mae hyn yn cael ei waethygu gan y cywilydd y mae llawer o rieni yn ei deimlo, yn ogystal â'r ofn y byddant yn cael eu beio, eu hamau, neu y bydd eu plant yn cael eu cymryd i ffwrdd. Mae rhieni'n aml yn teimlo eu bod wedi'u rhwygo, angen cymorth ar gyfer y problemau cynyddol ond hefyd eisiau amddiffyn eu plentyn rhag y canlyniadau posibl os hysbysir am yr ymddygiad.

Gall gynnwys cam-drin emosiynol, geiriol, corfforol neu ariannol ac mae'n cynnwys rheolaeth drwy orfodaeth, neu mewn geiriau eraill, gorfodi'r rhiant neu'r oedolyn arall i newid eu hymddygiad eu hunain rhag ofn cael eu cam-drin ymhellach. Gall CPA effeithio ar unrhyw deulu - ac mae llawer o rieni proffesiynol sy'n gweithio fel swyddogion heddlu, cyfreithwyr a gweithwyr cymdeithasol yn cael eu cam-drin gan eu plant. Yn wir, defnyddir eu gyrfa yn aml fel arf gan y plentyn - a allai fygwth lledaenu cyhuddiadau ffug.

Mae bod â rhiant yn absennol, achosion blaenorol o gam-drin domestig ar yr aelwyd, a salwch meddwl ymhlith y ffactorau risg. Ond nid oes un rheswm unigol pam mae CPA yn dechrau, a gall effeithio ar deuluoedd waeth ble a sut maen nhw'n byw.

Os ydych chi'n rhiant, yn llys-riant, yn daid neu nain, neu'n rhywun mewn unrhyw fath o rôl rhiant sy'n profi hyn, efallai eich bod yn teimlo rhai neu'r cyfan o'r emosiynau canlynol:

  • Cywilydd a dryswch.
  • Ofn cael eich beirniadu a'ch cyhuddo.
  • Ofn - drosoch chi'ch hun a thros y plentyn neu'r unigolyn ifanc.

Cael help

I gael help neu gefnogaeth ar gyfer achos o blentyn yn cam-drin ei rieni, cysylltwch â Chefnogaeth Twf Addysg Rhieni (PEGS)..

Mae PEGS yn darparu cefnogaeth cymheiriaid, sesiynau taro heibio rhithwir, gweithdai pwrpasol a rhaglenni grymuso ar gyfer rhieni, gwarcheidwaid a gofalwyr y mae CPA yn effeithio arnynt. Mae'r holl wasanaethau rhieni yn rhad ac am ddim a gellir eu cyrchu p'un a yw'r plentyn o dan 18 oed neu'n hŷn, gydag eiriolaeth a sesiynau un i un hefyd ar gael i'r rhai sydd â'r risg uchaf.

Mae Byw Heb Ofn hefyd yn darparu cymorth a chyngor am drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos: 0808 80 10 800. Mae hefyd yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Mae ei gwasanaethau testun, e-bost a sgwrsio byw hefyd ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Cofiwch, os ydych chi'n amau bod plentyn neu oedolyn bregus mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu ar 999 ar unwaith.

Grŵp Diogelu Corfforaethol Powys

Cam-drin ariannol a rheolaeth drwy orfodaeth

Mae cam-drin ariannol yn golygu defnydd neu gam-ddefnydd o arian, ac yn aml mae'n rhan o batrwm o reolaeth drwy orfodaeth, a briodolir gan ymddygiad bychanus, bygythiol a gormesol.

Mae'n cyfyngu ar ryddid a gall arwain at golli urddas.

Anaml iawn y bydd yn digwydd ar ei ben ei hun, ac yn aml mae'n gysylltiedig â mathau eraill o gam-drin - er enghraifft, mae 95% o achosion o gam-drin domestig yn cynnwys cam-drin ariannol hefyd.

Yn amlach na pheidio, mae cam-drin ariannol yn digwydd oddi mewn perthnasau rhamantaidd. Ond gall hefyd gynnwys cam-drin gan aelod o deulu, ffrind, neu ofalwr - yn enwedig mewn sefyllfa lle mae'r dioddefwr yn unigolyn bregus oherwydd oedran neu anabledd. 

Mathau o gam-drin ariannol

  • Twyll: Mae hyn yn golygu twyllo, defnyddio ystryw neu haeriadau anwir i gael arian neu eiddo.
  • Dwyn: Mae hyn yn golygu cymryd arian neu eiddo heb awdurdod.
  • Sgamiau: Mae hyn yn golygu defnyddio cynlluniau neu gynigion twyllodrus i gael arian neu eiddo.
  • Gorfodaeth: mae hyn yn golygu defnyddio bygythiadau, codi ofn, neu fathau eraill o bwysau i gael arian neu eiddo.
  • Camddefnyddio atwrneiaeth neu ddirprwyaeth: Mae hyn yn golygu camddefnyddio dogfen gyfreithiol sy'n rhoi awdurdod i rywun arall wneud penderfyniadau ariannol ar ran oedolyn arall.
  •  Dwyn hunaniaeth: Mae hyn yn golygu defnyddio gwybodaeth bersonol unigolyn arall i gael credyd, benthyciadau, neu fuddion ariannol eraill.

Dangosyddion - oedolion

  • Codiadau arian o gyfrifon banc heb eglurhad neu amhriodol.
  • Biliau heb eu talu neu ôl-ddyled rhent pan mae rhywun arall i fod yn gyfrifol am dalu biliau.
  • Prynu eitemau rhyfedd: Mae eitemau'n cael eu prynu gyda chardiau debyd neu gredyd yr unigolyn, ond nid yw'r eitemau ar gael.
  • Cyfyngu mynediad y dioddefwr at arian neu ei gyfrif banc.
  • Cymryd rheolaeth unigol o incwm y teulu yn erbyn dymuniadau unigolyn arall.
  • Rhoi asedau, megis y cartref teuluol neu fuddsoddiadau, yn enw'r camdriniwr.
  • Rhoi unrhyw ddyled, megis cardiau credyd neu filiau, yn enw'r dioddefwr.

Dangosyddion - plant

  • Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn cael ei gymryd gan y teulu heb ganiatâd y plentyn.
  • Mae eiddo'r plentyn yn cael eu gwerthu neu'n mynd ar goll.
  • Hawlio budd-daliadau ar gyfer plentyn, nad ydynt yn rhai go iawn, neu salwch ffug.
  • Camddefnyddio lwfansau/grantiau ar gyfer gofal plant.
  • Ceir amhriodol a dderbyniwyd trwy lwfansau a chynllun Motability.
  • Taliadau Plant sy'n Derbyn Gofal yn cael eu gwario, ond nid er budd y plentyn, gan ofalwr maeth neu ofalwr sy'n berthynas.

Sylwi ar yr arwyddion

  • Newid iaith - er enghraifft, gorfod gofyn caniatâd cyn i'r dioddefwr cael gwario arian, neu ddiffyg caniatâd ar gyfer pethau penodol. 
  • Dioddefwr yn gwario llai, yn 'anghofio' ei waled efallai'n amlach mewn digwyddiadau cymdeithasol.
  • Cynnydd mewn pryder o ran gwario arian. 
  • Gwrthod gwahoddiadau sy'n golygu gwario arian.
  • Angen benthyg arian ar gyfer hanfodion, er bod y dioddefwr yn gweithio.

Gweithredu os ydych chi'n amau cam-drin ariannol

  • Cysylltwch â'r tîm Oedolion - CYMORTH neu'r tîm Plant - DRWS FFRYNT i gofnodi cam-drin neu unrhyw bryderon.
  • Ffoniwch yr Heddlu ar 101 - trosedd yw cam-drin ariannol, neu 999 os oes risg o niwed uniongyrchol i rywun.
  • Mae CIFAS yn cynnig gwasanaeth sy'n diogelu unigolion sydd â risg uwch o ddwyn hunaniaeth, mae'r manylion ar gael yma: https://www.cifas.org.uk/pr
  • Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod wedi bod yn destun sgam, cysylltwch ag Action Fraud trwy eu gwefan neu ffonio 0300 123 2040.
  • Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod eisiau siarad gyda rhywun am oedolyn hŷn sy'n cael ei gam-drin, gallwch gysylltu â Hourglass ar 0808 808 8141 neu ewch i'w gwefan: https://www.wearehourglass.cymru/wales
  • Mae gwefan Age Cymru yn lle da i fynd am gyngor: https://www.ageuk.org.uk/cymru/ neu wefan yr NSPCC: https://www.nspcc.org.uk/

Grŵp Diogelu Corfforaethol Powys

Caethwasiaeth fodern: Yr arwyddion a sut i roi gwybod

Gall caethwasiaeth fodern ddigwydd mewn sawl diwyg, gan gynnwys masnachu pobl, llafur gorfodol, caethwasanaeth a chaethwasiaeth.

Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar oedolion sy'n profi caethwasiaeth fodern.

  • Gall caethwasiaeth fodern effeithio ar bobl o bob oedran, rhyw a hil ac mae'n cynnwys amrywiaeth o wahanol fathau o gamfanteisio.
  • Mae ddeddfwriaeth, gan gynnwys Deddf Caethwasiaeth Fodern (2015), wedi mynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern.
  • Mae caethwasiaeth fodern yng Nghymru ar gynnydd. Yn 2021, derbyniwyd adroddiadau am 479 o atgyfeiriadau ynglŷn â dioddefwyr posibl caethwasiaeth. Mae hyn yn gynnydd o 25% ers 2020.

Enghreifftiau o gaethwasiaeth fodern

  • Camfanteisio rhywiol
  • Troseddau dan orfod (gan gynnwys delio cyffuriau a masnachu pobl)
  • Caethwasanaeth domestig
  • Priodas dan orfod
  • Cynaeafu organau
  • Masnachu pobl
  • Llafur dan orfod
  • Caethwasanaeth oherwydd dyledion / llafur taeogion.
  • Cogio (cuckooing) (mae cartref rhywun sy'n agored i niwed yn cael ei feddiannu)

Nid yw'r rhai sy'n profi caethwasiaeth fodern bob amser yn ystyried eu hunain yn ddioddefwyr, gan fod y rhai sy'n camfanteisio arnyn nhw yn aml yn eu harwain i gredu bod eu camdriniaeth yn gydsyniol.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am enghreifftiau o gaethwasiaeth fodern yn: https://www.antislavery.org/slavery-today/modern-slavery/

Arwyddion o gaethwasiaeth fodern

Mae'r rhain yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i)

  • Cyfyngiadau ar symud neu deithio
  • Arwahanrwydd
  • Amharodrwydd i ofyn am help
  • Amodau byw gwael
  • Ymddangosiad blêr
  • Trefniadau teithio anarferol

Gallwch ddarganfod mwy am arwyddion caethwasiaeth fodern yn https://www.unseenuk.org/about-modern-slavery/spot-the-signs/

Ein dyletswydd

Rhaid i awdurdodau cyhoeddus hysbysu'r Swyddfa Gartref am unrhyw ddioddefwyr posibl caethwasiaeth fodern y deuant ar eu traws. Gwneir hyn trwy'r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (NRM).

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ganllawiau mecanwaith atgyfeirio Cenedlaethol (NRM): oedolion (Cymru a Lloegr) - GOV.UK (www.gov.uk)

Gweithredu ar bryderon

Gellir rhoi gwybod i'r heddlu am bryderon am gaethwasiaeth fodern (999 mewn argyfwng a 101 os nad yw'n mewn argyfwng). Gellir eu riportio hefyd drwy Linell Gymorth Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio'r DU sy'n cael ei rhedeg gan yr elusen Unseen: 0800 0121 700. Mae hwn ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos ac mae'n rhad ac am ddim i'w ffonio o linellau tir a'r rhan fwyaf o rwydweithiau ffôn symudol.

Gellir darparu gwybodaeth ddienw hefyd drwy Crimestoppers: 0800 555 111. Ac mae Bawso yn darparu cefnogaeth i bobl o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru y mae unrhyw fath o gamdriniaeth yn effeithio arnynt: 0800 731 8147.

Os ydych chi'n poeni bod yr unigolyn hefyd yn oedolyn sy'n wynebu risg, gallwch gyflwyno adroddiad diogelu i'r tîm diogelu oedolion drwy Cymorth Assist. Gallwch ffonio: 0345 602 7050. E-bost: assist@powys.gov.uk. Llenwch yr adroddiad oedolyn sy'n wynebu risg ar-lein yn https://cy.powys.gov.uk/article/1908/Sut-i-roi-gwybod-am-gam-drinesgeuluso-oedolyn-Pryder-Diogelu

Cefnogaeth i'r rhai sy'n profi caethwasiaeth fodern

Mae 'llwybr gofal' ar waith ar gyfer unrhyw un yr amheuir ei fod wedi goroesi caethwasiaeth yng Nghymru.

Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau iechyd, yn rhai sy'n cael eu darparu gan awdurdodau lleol ac yn wasanaethau arbenigol yn ôl yr angen.

Lle cafodd troseddau eu cyflawni, gall Deddf Caethwasiaeth Fodern (2015) ddarparu amddiffyniad rhag erlyniad i ddioddefwyr a gafodd eu gorfodi neu a weithredodd heb fawr o ddewis.

Grŵp Diogelu Corfforaethol Powys

Cyflogi plant

Ydych chi'n gwybod pa waith y caniateir i blant ei wneud?

Efallai y byddwch chi'n synnu i ddysgu bod wedi bod deddfwriaeth mewn lle am 90 mlynedd sy'n cyfyngu pa cyflogaeth a ganiateir i blant.

  • Mae'n anghyfreithlon cyflogi plentyn dan 13 oed.
  • Mae'n anghyfreithlon cyflogi plentyn heb fod gennych Drwydded Cyflogi Plant.
  • Mae trwydded yn cael ei angen tra bod y plentyn o oedran ysgol statudol (hyd ddiwedd Mehefin ym Mlwyddyn 11).

Oriau cyflogaeth a ganiateir

Mae'r ddeddfwriaeth yn egluro pa oriau y gall plant eu gweithio neu beidio:

  • Dyw plant ddim yn gallu gweithio cyn 7yb neu ar ôl 7yp.
  • Mae plant yn gallu gweithio dim ond 2 awr ar y mwyaf ar ddiwrnod ysgol neu ddydd Sul.
  • Mae plant sy'n 13 - 15 oed yn gallu gweithio dim ond 5 awr ar y mwyaf ddydd Sadwrn neu yn ystod gwyliau ysgolion.
  • Mae'r rhai dros 15 oed yn gallu gweithio 8 awr ar y mwyaf ddydd Sadwrn neu yn ystod gwyliau ysgol.
  • Ni all unrhyw blentyn weithio mwy na 12 awr yn yr wythnos yn ystod amser-tymor.
  • Yn ystod gwylia ysgol, mae plant sy'n 13-15 oed yn gallu gweithio dim ond 25 awr ar y mwyaf; mae'r rhai dros 15 oed yn gallu gweithio dim ond 35 awr ar y mwyaf.

Mathau o waith

Mae'r ddeddfwriaeth yn egluro hefyd pa fath o waith a ganiateir i blant ei wneud neu beidio.

Mae plant yn gallu cael eu cyflogi mewn gwaith ysgafn yn unig. Mae'r mathau o waith y gall plant 13 oed ei wneud yn gyfyngedig iawn. Gall plant 14-16 oed gwneud ystod ehangach o gyflogaeth.

Mae rhai o'r enghreifftiau o gyflogaeth waharddedig yn cynnwys:

  • Darparu llaeth
  • Casglu arian
  • Gweithio mewn cegin fasnachol
  • Gwerthu dros y ffôn
  • Unrhyw waith mwy na 3 metr uwchben y ddaear

Perfformiad plant

Mae'r ddeddfwriaeth yn cwmpasu Perfformwyr sy'n Blant hefyd, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau statudol.

Mae Trwyddedau Perfformio i Blant yn berthnasol i blentyn o unrhyw oed, o ei eni hyd ddiwedd addysg orfodol.

Efallai y bydd angen trwydded yn dibynnu ar y math o berfformiad ac ystod o ffactorau eraill, fel:

  • Mae'r plentyn wedi perfformio ar 4 diwrnod yn y 6 mis diwethaf
  • Caiff y berfformiad ei darlledu
  • Caiff y berfformiad cynulleidfa sy'n talu
  • Bydd y berfformiad yn digwydd ar safle trwyddedig

Diogelu plant

Os byddwch chi'n dod yn ymwybodol bod plentyn yn cael ei cyflogi neu'n cymryd rhan mewn perfformiadau, dylech chi sicrhau â'r 

Gwasanaeth Ysgolion os oes Trwydded Cyflogi neu Perfformio. Mae'n pwysig eich bod chi'n gwirio Cyflogaeth Plant posibl â ni yn arbennigol.

Efallai y byddwch chi'n ymwybodol o blentyn yn gweithio mewn tecawê lleol ar ôl 7yp, neu'n gwneud gweithio sy'n beryglus. Mae'n bwysig bod yn ymwybodol bod y ddeddfwriaeth Cyflogi Plant yn berthnasol i ffermydd teuluol hefyd.

Gall unrhyw ymholiadau am Drwydded Cyflogi Plant neu Drwydded Perfformio i Blant yn cael ei gyfeirio at y Gwasanaeth Ysgolion trwy education@powys.gov.uk neu 01597 826422.

Am fwy o wybodaeth ar Gyflogaeth Plant a Pherfformiad Plant, rydych chi'n gallu ymweld â adran Ysgolion a Myfyrwyr y wefan cyhoeddus Powys, sydd â'r tudalennau canlynol:

Neu ymweld â wefan Llywodraeth Cymru:

Cymorth a chefnogaeth

Os ydych chi'n cael eich niweidio neu eich cam-drin, neu os ydych chi'n poeni am rywun arall, dylech ei adrodd.

Os taw argyfwng yw, peidiwch ag oedi - ffoniwch 999.

Yn dioddef o gam-drin domestig?

Os ydych chi'n meddwl eich bod mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.

  • Fel arall, os ydych chi'n byw yng ngogledd y sir, gall Canolfan Argyfwng Teuluol Sir Drefaldwyn (MFCC) eich helpu. Ffoniwch: 01686 629114 (24 awr). Gwefan MFCC.
  • Fel arall, os ydych chi'n byw yng nghanol neu dde'r sir, gall Calan DVS eich helpu. Ffoniwch: 01874 625146Gwefan Calan DVS.

Hefyd mae gan 'Byw Heb Ofn' linell gymorth - gallwch ffonio neu decstio: 0808 80 10 800Gwefan Byw Heb Ofn.

Grŵp Diogelu Corfforaethol Powys

Camfanteisio ariannol (gan gynnwys twyll rhamant)

Math o gam-drin ariannol yw camfanteisio ariannol, pan gaiff unigolyn ei ddylanwadu neu ei orfodi i wneud rhywbeth sy'n fuddiol i eraill.

Gall digwydd mewn llawer o ffyrdd, gall digwydd mewn sefyllfaoedd amrywiol, a chynnwys grwpiau gwahanol o bobl. 

Mae camfanteisio ariannol yn digwydd pan gaiff rhywun ei dwyllo, ei sgamio neu ei orfodi i drosglwyddo arian neu asedau.

Gall digwydd trwy dwyll, blacmel, cronni dyledion, neu gael arian neu eiddo wedi ei ddwyn - mae hyn yn cynnwys sefyllfaoedd lle rhoddir pwysau ar unigolyn i drosglwyddo arian neu eiddo.

Gall digwydd ar-lein, trwy ebost, dros y ffôn, trwy'r post, neu wyneb yn wyneb.

Gall unigolion sy'n ymweld â thai, neu unigolion y mae'r dioddefwr yn ei adnabod megis teulu, ffrindiau a gofalwyr, gyflawni camfanteisio ariannol wyneb yn wyneb.

Yn aml, bydd yn golygu paratoi'r dioddefwr - hwyrach y bydd twyllwyr yn awyddus i ddod yn ffrindiau, a sefydlu perthynas o gwmnïaeth a ffydd i gael mynediad at arian ac eiddo'r unigolyn. Mae twyll rhamant yn enghraifft o hyn.

Twyll Rhamant

Mae twyll rhamant yn digwydd pan fyddwch yn credu eich bod wedi cwrdd â'r partner delfrydol ar-lein, ond mae'n defnyddio proffil ffug i sefydlu'r berthynas gyda chi.

Mae'r twyllwr yn ennill eich ffydd dros nifer o wythnosau neu fisoedd, ac rydych chi'n credu eich bod mewn perthynas gariadus a gofalgar. Fodd bynnag, unig nod y troseddewr yw cael gafael ar eich arian neu wybodaeth bersonol.

Mae troseddwyr yn arbenigo mewn ffugio pobl eraill. Maent yn treulio oriau'n ymchwilio i'ch cefndir ar gyfer eu sgamiau, yn enwedig wrth gyflawni twyll rhamant. 

Pum ffordd i adnabod arwyddion o dwyll rhamant

  • Rydych chi wedi cychwyn perthynas gyda rhywun ar-lein, ac mae'n datgan ei gariad tuag atoch yn gyflym. Mae llawer o dwyllwyr yn honni eu bod tramor oherwydd eu gwaith gyda'r lluoedd arfog neu yn y byd meddygol.
  • Maen nhw'n gwneud esgusodion pam nad ydynt yn gallu sgwrsio dros fideo neu gwrdd wyneb yn wyneb a byddant yn ceisio symud eich sgyrsiau oddi ar y platfform lle wnaethoch chi gwrdd.
  • Wrth ofyn am gymorth ariannol, bydd ar gyfer argyfwng sy'n dyngedfennol o safbwynt amser, a bydd y rheswm yn rhywbeth sy'n dorcalonnus. Hwyrach y bydd yn mynd yn amddiffynnol os byddwch yn gwrthod helpu.
  • Mae eu lluniau'n rhy berffaith - hwyrach iddyn nhw gael eu dwyn gan actor neu fodel. Trwy Chwiliad delwedd hwyrach y dewch o hyd i luniau a gymerwyd o ffynhonnell arall.
  • Maen nhw'n dweud wrthych am gadw eich perthynas yn breifat, ac i beidio â thrafod unrhyw beth gyda'ch ffrindiau a'ch teulu.

Os ydych chi'n destun twyll rhamant, cysylltwch â'ch banc ar unwaith, a chysylltwch ag Action Fraud ar 0300 123 2040 neu drwy actionfraud.police.uk.

Sgamiau eraill

Yn aml bydd troseddwyr yn targedu myfyrwyr ar gyfryngau cymdeithasol a negeseua symudol, i'w helpu 'glanhau' eu hincwm, a derbyn 'arian rhwydd' yn eu tro.

Maent yn cael eu dewis, oherwydd maent yn llai tebygol o gael cofnod troseddol, a bydd llawer yn chwilio am waith i ategu eu harian tra byddan nhw yn y brifysgol.

Mae criwiau troseddol yn camfanteisio ar gyfrifon banc myfyrwyr trwy eu darbwyllo i rannu manylion eu cyfrifon, neu trwy ofyn iddynt a yw'n iawn 'benthyg' eu cyfrif.  Wedyn mae'r troseddwyr yn defnyddio'r cyfrifon i dderbyn, tynnu allan a throsglwyddo symiau arian, gydag addewid i'r myfyriwr gadw canran o'r arian.   

Fel arfer mae'r arian yma wedi dod i law trwy ddulliau twyllodrus neu droseddol, a chaiff ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau troseddol eraill.  Gwyngalchi arian yw'r enw ar hyn. 

Yr eiliad y mae dioddefwr yn dewis cymryd rhan yn y sgam yma, mae'n rhan o'r drosedd, boed yn ymwybodol o hyn ai peidio. Mae trosglwyddo arian a gafwyd yn anghyfreithlon yn drosedd.

Diogelu eich hunan rhag twyll

  • STOPIO: Cymerwch funud i aros a meddwl cyn rhoi eich arian neu'ch gwybodaeth i ffwrdd.
  • HERIO: Ydy'r unigolyn hwn yn ddiffuant? Gallai fod yn ffugio? Mae'n iawn gwrthod neu anwybyddu unrhyw geisiadau ar gyfer eich manylion ariannol neu bersonol. Bydd troseddwyr yn ceisio eich rhuthro neu achosi panig.

DIOGELU: Cysylltwch â'ch banc ar unwaith os byddwch yn amau ichi ildio i sgam, a chofiwch hysbysu Action Fraud.

Grŵp Diogelu Corfforaethol Powys

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu