Diogelu Corfforaethol
- Cyflwyniad i Ddiogelu
- Prif Rolau
- Cyfrifoldebau staff a Chynghorwyr
- Sut i fynegi pryder
- Copïau o bolisïau a dogfennau perthnasol
- Crynodeb
- Llywodraethu
- Datganiadau diweddar i'r Wasg
Cyflwyniad i Ddiogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel ar gyfer Cyngor Sir Powys, yn ogystal â sicrhau fod trefniadau a gweithdrefnau cadarn yn eu lle. Maediogelu'n fusnes pawb, ac mae gan bob plentyn ac oedolyn yr hawl i gael ei ddiogelu rhag niwed, rhag ei gamfanteisio a'i gam-drin.
Prif Rolau
Arweinyddion ym maes Diogelu:

Pennaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai,
Arweinydd Diogelu Corfforaethol

Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel,
Arweinydd Diogelu
cllr.richard.church@powys.gov.uk
Cyfrifoldebau staff a Chynghorwyr
Mae'r Polisi Diogelu Corfforaethol yn darparu fframwaith ar gyfer pob aelod o staff, pob aelod etholedig a phob maes gwasanaeth o fewn y Cyngor, sy'n olrhain cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl, yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn bodloni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi'n berthnasol i holl weithwyr a gweithlu Cyngor Sir Powys, cynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau sy'n cael eu comisiynu neu eu caffael gan y Cyngor.
Er taw'r Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n arwain o ran delio gydag ymholiadau sy'n ymwneud â honiadau / pryderon fod plant ac oedolion efallai'n dioddef o niwed sylweddol, mae gan bawb gyfrifoldeb i ddiogelu llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion, beth bynnag fo rôl yr unigolyn.
Sut i fynegi pryder
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch diogelwch plentyn, person ifanc neu oedolyn, mae'n rhaid ichi gysylltu â Thîm Drws Ffrynt y Gwasanaethau Plant neu dîm CYMORTH y Gwasanaethau Oedolion.
CYMORTH a y Timau Drws Ffrynt yw'r mannau cyswllt cyntaf ar gyfer pobl sy'n archwilio gwasanaethau a gweithgareddau ar gyfer plant, teuluoedd ac oedolion yn yr ardal leol, neu ar gyfer cyngor ac arweiniad o ran sut i gael cymorth ychwanegol, neu i fynegi pryder ynghylch llesiant plentyn, person ifanc neu oedolyn. Bydd staff y timau hyn yn sicrhau y caiff unrhyw broblemau trawsffiniol eu hystyried, ac yn gwneud ymholiadau fel bo angen fel rhan o'u dyletswyddau.
Plant a phobl ifanc (dan 18 oed): I gysylltu â'r tîm Drws Ffrynt, gellir
• ebostio csfrontdoor@powys.gov.uk,
• ffonio 01597 827 666 (oriau swyddfa)
• ffonio 0345 054 4847 (tu allan i oriau) neu
• lenwi'r ffurflen ar-lein
Rhoi gwybod am bryder am blentyn - Cyngor Sir Powys
Oedolion: I gysylltu â'r tîm CYMORTH, gellir
• ebostio assist@powys.gov.uk,
• ffonio 0345 602 7050 (oriau swyddfa)
• ffonio 0345 054 4847 (tu allan i oriau) neu
• lenwi'r ffurflen ar-lein Cysylltwch â CYMORTH ar-lein - Cyngor Sir Powys
Ar gyfer problemau sy'n codi ar ôl 5pm o ddydd Llun - Gwener, ac ar y penwythnos a gwyliau banc,
dylid cysylltu â'r Tîm Dyletswydd Brys ar 0345 054 4847
Os bydd plentyn, person ifanc neu oedolyn mewn perygl, mae'n rhaid cysylltu â'r Heddlu'n ddioed, ar 999. Mae'n hollbwysig osgoi oedi o ran y broses hon.
Copïau o bolisïau a dogfennau perthnasol
Polisi Diogelu Corfforaethol (PDF) [490KB]
Crynodeb
Briff o'r Crynodeb o'r Polisi Diogelu Corfforaethol (PDF) [319KB]
Llywodraethu
Ar lefel gorfforaethol, dirprwyir y cyfrifoldeb ar gyfer monitro effeithiolrwydd trefniadau diogelu ar draws y Cyngor i'r Bwrdd Diogelu Corfforaethol.
Mae'r Bwrdd Diogelu Corfforaethol yn cynnwys ymarferwyr arweiniol pob Portffolio / Maes Gwasanaeth y Cyngor, sef Arweinyddion Diogelu Dynodedig. Mae'r Bwrdd yn cwrdd bob chwarter.
Bwrdd Diogelu Corfforaethol Diogelu Pobl ym Mhowys Cylch Gorchwyl (PDF) [113KB]
Datganiadau diweddar i'r Wasg
I ddilyn