Datganiad Hygyrchedd
Mae ein tîm gwe yn parhau i weithio i sicrhau bod ein gwefan yn hygyrch i gynifer o'n cwsmeriaid â phosibl. Rydym hefyd wedi ymrwymo i wella a datblygu ein hamrywiaeth o wasanaethau ar-lein mewn ymateb i ofynion ein preswylwyr a'n busnesau.
Mae'r Datganiad Hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://cy.powys.gov.uk, a gynhelir gan Gyngor Sir Powys.
Rydym am i gymaint o bobl ag y bo modd ddefnyddio'r wefan hon. Mae hynny'n golygu y dylech chi allu wneud y canlynol:
- Newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- Chwyddo i mewn hyd at 300% heb fod y testun yn diflannu i ochrau'r sgrîn
- Llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- Llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- Gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio'r rhaglen darllen sgrîn (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud y wefan mor hawdd i'w deall ag y bo modd.
Rydym wedi dylunio'r wefan hon gyda nodweddion sy'n ei gwneud yn haws i'w defnyddio gan bawb, gan gynnwys y rhai hynny gydag anableddau gweld, anabledd clywedol, corfforol, lleferydd, gwybyddol neu anabledd niwrolegol. Ein nod yw cyrraedd lefel AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau (WCAG) 2.1. Dyma'r safon ryngwladol ar gyfer gwefannau a chynnwys hygyrch.
Ar y tudalen hwn:
Gwefannau sy'n gysylltiedig â Chyngor Sir Powys
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Cynnwys nad yw'n dod o fewn cwmpas y rheoliadau
Sut aethon ni ati i brofi'r wefan hon
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Mae gan AbilityNet gyngor ar addasu'ch dyfais i'w wneud yn fwy hwylus os oes gennych anabledd.
Gwefannau sy'n gysylltiedig â Chyngor Sir Powys
Mae gwefannau eraill sy'n gysylltiedig â Chyngor Sir Powys, ac efallai y bydd dolenni iddyn nhw yn y wefan hon. Nid yw'r Datganiad Hygyrchedd hwn yn berthnasol i'r gwefannau hynny. Edrychwch ar bob gwefan unigol ar gyfer eu Datganiadau Hygyrchedd nhw.
- https://www.storipowys.org.uk/?locale=cy
- https://powys.moderngov.co.uk/
- https://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/en_GB/powys_en
- https://pa.powys.gov.uk/online-applications/?lang=EN
- https://www.midwalesmyway.com/
- https://www.powyspensionfund.org/
- https://powys.public-i.tv/core/portal/home
- http://www.powyspeoplefirst.org/
- https://www.homesinpowys.org.uk/
- https://recruitment.powys.gov.uk/
- https://haveyoursay.powys.gov.uk/
- https://www.powysrpb.org/
- http://calmview.powys.gov.uk/CalmView/
- https://www.powyslearningpathways.wales/home
- https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/hub-page/cyngor-sir-powys
- http://tyfucanolbarth.cymru/
- http://www.powyswellbeing.wales/
- https://powys.paweb.org/
- https://www.partneriaethygororauymlaen.org.uk/
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?
Ry'n ni'n ymwybodol nad yw rhai adrannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch, er enghraifft:
- Mae rhaid tudalennau'n dangos map Google sy'n gallu bod yn anodd i ddefnyddwyr darllenydd sgrîn a defnyddwyr bysellfyrddau ei ddefnyddio.
Gall defnyddioldeb a hygyrchedd peth gwybodaeth sy'n deillio o PowerBI, sy'n gorfod gael ei gyflwyno mewn "iframes" beri problemau ar ddyfeisiadau gwe fel ffonau symudol neu lechen.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Ry'n ni'n wastad yn ceisio sicrhau bod y wefan hon mor hwylus ag y bo modd
Os oes gennych gwestiwn am hygyrchedd sy'n cynnwys:
- cael trafferth cael hyd i wybodaeth neu ddefnyddio'r wefan
- canfod problem hygyrchedd nas restrir ar y datganiad hwn
- Os oes gennych sylwadau cadarnhaol am sut ry'n ni wedi llunio'r wefan i sicrhau y gallwch ei defnyddio'n hwylus
Cysylltwch â:
Y Tîm Hygyrchedd Digidol
Gwasanaethau Cwsmer
e-bost: website@powys.gov.uk
Ffôn: 01597 826000
Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth am ddim trwy ein cyfleuster sgwrsio ar y we lle gallwch siarad â ni ar-lein
Gwybodaeth mewn ffurfiau eraill
Os oes angen gwybodaeth arnoch chi am y wefan hon mewn diwyg gwahanol, megis PDF hygyrch, print mawr, diwyg hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille:
e-bost: website@powys.gov.uk
Ffôn: 01597 826000
Byddwn yn ystyried eich cais ac fe ddown ni yn ôl atoch cyn gynted ag y bo modd
Os na allwch chi weld y map ar y tudalen 'cysylltwch â ni', ffoniwch ni neu anfonwch e-bost i gael cyfarwyddiadau.
Cysylltu â ni ar y ffôn neu ymweld â ni wyneb yn wyneb
Mae dolenni sain clywedol ar gael yn ein swyddfeydd, neu os hoffech gysylltu â ni cyn i chi daro heibio gallwn drefnu cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Ry'n ni'n darparu gwasanaeth cyfnewid testun (Relay UK ) ar gyfer pobl sy'n F/fyddar, pobl sydd â nam ar y clyw neu nam ar y lleferydd.
Dilynwch y ddolen hon ar gyfer cyfarwyddiadau Cyfnewid Testun
Sylwch: Mae Relay UK yn costio ceiniog y funud i'w ddefnyddio ar ben costau galwad safonol a gallwch gysylltu â ni trwy ddefnyddio ap neu ffôn testun.
Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth am ddim trwy ein cyfleuster gwe-sgwrsio lle gallwch chi siarad â ni ar-lein.
Ewch i https://cy.powys.gov.uk/cysylltu i weld sut y gallwch chi gysylltu â ni.
Y Weithdrefn Orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn fodlon ynghylch sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cymorth a Chynghori Cydraddoldebau (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Cyngor Sir Powys wedi ymrwymo i sicrhau y gallwch ddefnyddio ei wefan yn hwylus, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â fersiwn AA 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We oherwydd y diffygion cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
- Nid oes gan rai o'n tablau briodoledd 'cwmpasu' (scope). Mae hwn yn methu maen prawf llwyddo 1.3.1 WCAG 2.1. Rydym ni wedi dynodi modd o wella hyn a bydd y mater wedi'i ddatrys erbyn diwedd C4 2023.
- Rydym yn ymwybodol fod gennym ddelweddau data PowerBI ar y wefan. Nid yw'r eitemau hyn yn rhai hygyrch ac nid yw'n hawdd i'w gwneud yn rhai felly. Mewn rhai achosion, nid yw'r wybodaeth ar gael yn hwylus i ddefnyddwyr mewn fformat hygyrch. Ein nod yw creu delweddaeth PowerBI sydd mor hygyrch ag sy'n bosibl, ond os yw gwybodaeth o'r ddelweddaeth hon yn ofynnol gennych mewn fformat arall, cysylltwch â ni.
Baich anghymesur
Dogfennau PDF a gyhoeddwyd ar ôl 23 Medi 2018
Ceir 1,343 PDF dogfen wedi'u cyhoeddi ar ôl 23 Medi 2018 sy'n berthnasol i'n Cynllun Datblygu Lleol nad ydynt yn bodloni rheoliadau hygyrchedd am amrywiol resymau.
Rydym wedi asesu effaith trwsio'r materion sy'n berthnasol i'r 1,343 dogfen CDLl. Yn ein barn ni, byddai gwneud hynny nawr ar gyfer dogfennau Saesneg a Chymraeg yn faich anghymesur oddi fewn i ystyr rheoliadau hygyrchedd. Byddwn ni'n gwneud yn siŵr fod dogfennau PDF ar gyfer y CDLl newydd sydd fod i ddod yn 2026 yn bodloni'r safonau hygyrchedd.
Cynnwys nad yw'n dod o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Dogfennau PDF a dogfennau eraill
Nid yw'r rhan fwyaf o'n dogfennau PDF a'n dogfennau Word yn bodloni safonau hygyrchedd. Er enghraifft, efallai nad ydynt wedi eu gosod fel eu bod yn hygyrch ar gyfer darllenydd sgrîn. Nid yw hwn yn bodloni maen prawf llwyddo 4.1.2 WCAG 2.1 (enw, gwerth rôl).
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn gofyn i ni unioni dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu cywiro hen gylchlythyrau PDF, posteri neu ddeunydd ymgyrch a all fod ar gael i'w gyrchu o hyd.
Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word y byddwn yn eu cyhoeddi'n diwallu'r safonau hygyrchedd.
Nid yw llawer o'n dogfennau polisi wedi cael eu hysgrifennu mewn Cymraeg neu Saesneg clir. Mae'r mathau hyn o ddogfennau wedi'u heithrio o'r rheoliadau gan 'nad oes eu hangen at ddibenion gweinyddu mewn perthynas â'r tasgau a wneir', felly ar hyn o bryd nid ydym yn bwriadu dwyn y dogfennau hyn i drefn i'w gwneud yn hygyrch.
Fideos byw
Nid oes gan ffrydiau fideo byw gapsiynau. Mae hwn yn methu maen prawf llwyddo 1.2.4 WCAG 2.1 (capsiynau - byw).
Nid ydym yn arfaethu ychwanegu capsiynau i ffrydiau fideo byw oherwydd eu bod fideo byw wedi'i eithrio o'r rheoliadau hygyrchedd.
Fideos a recordiwyd ymlaen llaw cyn 23 Medi 2020
Nid yw'r rhan fwyaf o'n fideos a recordiwyd ymlaen llaw a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2020 yn cynnwys capsiynau byw. Nid yw hwn yn diwallu maen prawf llwyddo 1.2.2 WCAG 2.1 Capsiynau (a recordiwyd ymlaen llaw). Efallai na fyddwn yn ychwanegu capsiynau at y fideos hyn oherwydd bod fideos a recordiwyd ymlaen llaw wedi eu heithrio o'r rheoliadau hygyrchedd.
Efallai y bydd rhaid i rai fideos a recordiwyd ymlaen llaw cyn 23 Medi 2020 gael disgrifiad sain - ond nid yw hwn wedi'i gynnwys. Nid yw hwn yn cwrdd â maen prawf llwyddo 1.2.5 WCAG 2.1 sain ddisgrifio (a recordiwyd ymlaen llaw). Ni fyddwn yn ychwanegu sain ddisgrifio at y fideos hyn oherwydd bod fideos a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2020 wedi'u heithrio o fodloni rheoliadau hygyrchedd.
Bydd unrhyw gynnwys fideo a recordiwyd ymlaen llaw a gyhoeddir ar ôl 23 Medi 2020 yn bodloni safonau hygyrchedd.
Sut aethon ni ati i brofi'r wefan hon
Cynhaliodd ein Tîm Hygyrchedd Digidol brofion ymarferol, yn ogystal defnyddion nhw feddalwedd profi awtomatig ar draws y wefan i gyd oddi wrth Silktide: https://silktide.com/solutions/accessibility/
Profon ni'r canlynol:
- Llwyfan ein prif wefan (Saesneg), ar gael yn https://en.powys.gov.uk
Profon ni dair mil o dudalennau gwe a 2,987 o ddogfennau PDF Saesneg. Wedyn aethon ni ati i unioni tudalennau gwe Cymraeg a Saesneg fel y bo'n briodol.
Wedi hynny rydym yn profi'r wefan bob yn bum diwrnod.
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym yn gwneud ein gorau glas i ddatrys y materion a nodir uchod. Rydym yn cadw golwg manwl ar ein gwefan yn barhaus i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â rheolau hygyrchedd. Gwella ein gwefan yw rhan o waith beunyddiol y Tîm Hygyrchedd Digidol.
- Mae staff priodol wedi cael hyfforddiant hygyrchedd ac maent yn gweithio o fewn ein meysydd gwasanaeth i godi ymwybyddiaeth o'r angen i fodloni'r rheoliadau hygyrchedd.
- Mae gennym reoliadau yn eu lle i sicrhau bod yr holl gynnwys newydd a gyhoeddir ar y wefan yn cydymffurfio â rheoliadau hygyrchedd.
- Rydym yn rhedeg gwiriad hygyrchedd awtomatig ledled y wefan bob yn bum diwrnod ac yn cydweithio â staff meysydd gwasanaeth i ddwyn unrhyw broblemau i drefn.
Amserlen Sicrhau Gwefan Hygyrch
- Nid oes gan rai o'n tablau briodoledd 'cwmpasu' (scope). Mae hwn yn methu maen prawf llwyddo 1.3.1 WCAG 2.1. Rydym ni wedi dynodi modd o wella hyn a bydd y mater wedi'i ddatrys erbyn diwedd C4 2023.
Lluniwyd y datganiad hwn ar 18 Medi 2020. Fe'i diweddarwyd diwethaf ar 23 Mai 2024.
Os oes gennych syniadau neu awgrymiadau o ran sut y gallwn wella'r wefan cysylltwch â ni.