Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Bydd pob llinell ffôn Incwm a Gwobrau ar gau ar gyfer hyfforddiant staff ar Dydd Mercher 9 Gorffennaf 2025

Adloniant Rheoledig

Adloniant rheoledig, yn atebol i amodau ac eithriadau penodol, yn cynnwys:< / p>

  1. perfformiad o ddrama;
  2. arddangosfa o ffilm;
  3. digwyddiad chwaraeon dan do;
  4. digwyddiad bocsio neu reslo;
  5. perfformiad o gerddoriaeth fyw;
  6. chwarae unrhyw gerddoriaeth wedi'i recordio;
  7. perfformiad o ddawns; ac
  8. adloniant o ddisgrifiad tebyg i'r hyn sy'n dod o dan 5, 6 neu 7

O ran adloniant rheoledig penodol, noder:

  • Dramâu: nid oes angen trwydded ar gyfer perfformiadau rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar yr amod nad yw'r gynulleidfa yn fwy na 500.
  • Dawns: nid oes angen trwydded ar gyfer perfformiadau rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar yr amod nad yw'r gynulleidfa yn fwy na 500. Fodd bynnag, mae perfformiad sy'n gyfystyr ag adloniant oedolion yn parhau i fod angen trwydded.< / li>
  • Ffilmiau: nid oes angen trwydded ar gyfer arddangosiadau ffilm 'nid-er-elw' a gynhelir mewn adeiladau cymunedol rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar yr amod nad yw'r gynulleidfa yn fwy na 500 a bod y trefnydd:
    1. yn cael caniatâd i ddangos y ffilm gan berson sy'n gyfrifol am y fangre;
    2. yn sicrhau bod pob arddangosiad o'r fath yn cydymffurfio â graddfeydd categoriau oedran.
  • Digwyddiadau chwaraeon dan do: nid oes angen trwydded ar gyfer perfformiadau rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar yr amod nad yw'r gynulleidfa yn fwy na 1000.
  • Bocsio neu adloniant reslo: nid oes angen trwydded ar gyfer cystadleuaeth, arddangosfa neu arddangosiad reslo Groeg-Rufeinig, neu reslo dull rhydd rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar yr amod nad yw'r gynulleidfa yn fwy na 1000.
    • Mae chwaraeon ymladd cyfunol - a ddiffinnir fel cystadleuaeth, arddangosfa neu arddangosiad sy'n cyfuno bocsio neu reslo gydag un neu fwy o'r crefftau ymladd - yn drwyddedadwy fel adloniant bocsio neu reslo yn hytrach na digwyddiad chwaraeon dan do.
  • Cerddoriaeth fyw: nid oes angen trwydded na chaniatâd ar gyfer:
    • perfformiad o gerddoriaeth heb ei chwyddo rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar unrhyw safle.
    • perfformiad o gerddoriaeth fyw wedi'i chwyddo rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod ar unrhyw fangre sydd wedi'i awdurdodi i werthu alcohol i'w yfed yn y fangre honno, ar yr amod nad yw'r gynulleidfa yn fwy na 500.
    • perfformiad o gerddoriaeth fyw wedi'i chwyddo rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, mewn gweithle nad yw wedi'i drwyddedu i werthu alcohol ar y safle hynny, ar yr amod nad yw'r gynulleidfa yn fwy na 500.
    • perfformiad o gerddoriaeth fyw wedi'i chwyddo rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, mewn neuadd eglwys, neuadd bentref, neuadd gymunedol, neu fangre gymunedol debyg arall, nad yw wedi'i drwyddedu gan drwydded mangre i werthu alcohol, ar yr amod:
      1. nad yw'r gynulleidfa yn fwy na 500.
      2. bod y trefnydd yn cael caniatâd ar gyfer y perfformiad gan y person sy'n gyfrifol am y fangre.
    • perfformiad o gerddoriaeth fyw wedi'i chwyddo rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, mewn safle amhreswyl gan (i) awdurdod lleol, (ii) ysgol, neu (iii) ysbyty, ar yr amod:
      1. nad yw'r gynulleidfa yn fwy na 500.
      2. bod y trefnydd yn cael caniatâd ar gyfer y perfformiad yn y fangre berthnasol gan: (i) yr awdurdod lleol dan sylw, (ii) yr ysgol, neu (iii) y darparwr gofal iechyd ar gyfer yr ysbyty.
  • Cerddoriaeth wedi'i recordio: nid oes angen caniatâd trwydded ar gyfer:
    • chwarae unrhyw gerddoriaeth wedi'i recordio rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod mewn mangre sydd wedi'i hawdurdodi i werthu alcohol i'w yfed yn y fangre honno, ar yr amod nad yw'r gynulleidfa yn fwy na 500.
    • u chwarae unrhyw gerddoriaeth wedi'i recordio rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, mewn neuadd eglwys, neuadd bentref, neuadd gymunedol, neu fangre gymunedol debyg arall, nad yw wedi'i drwyddedu gan drwydded mangre i werthu alcohol, ar yr amod:
      1. nad yw'r gynulleidfa yn fwy na 500
      2. bod y trefnydd yn cael caniatâd ar gyfer y perfformiad gan berson sy'n gyfrifol am y fangre.
    • chwarae unrhyw gerddoriaeth wedi'i recordio rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, mewn safle amhreswyl gan (i) awdurdod lleol, neu (ii) ysgol, neu (iii) ysbyty, ar yr amod:
      1. nad yw'r gynulleidfa yn fwy na 500
      2. bod y trefnydd yn cael caniatâd ar gyfer y perfformiad ar y fangre berthnasol gan: (i) yr awdurdod lleol dan sylw, neu (ii) perchennog yr ysgol neu (iii) darparwr gofal iechyd yr ysbyty.
  • Eithriadau traws weithgaredd: nid oes angen trwydded rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, heb unrhyw gyfyngiad ar faint y gynulleidfa ar gyfer:
    • unrhyw adloniant sy'n digwydd ar fangre'r awdurdod lleol lle darperir yr adloniant gan neu ar ran yr awdurdod lleol.
    • unrhyw adloniant sy'n digwydd ar safle ysbyty y darparwr gofal iechyd lle darperir yr adloniant gan neu ar ran y darparwr gofal iechyd.
    • unrhyw adloniant sy'n digwydd ar safle'r ysgol lle darperir yr adloniant gan neu ar ran perchennog yr ysgol.
    • unrhyw adloniant (ac eithrio ffilmiau ac adloniant bocsio neu reslo) sy'n digwydd mewn syrcas deithiol, ar yr amod:
      1. ei fod yn digwydd o fewn strwythur symudol sy'n darparu ar gyfer y gynulleidfa.
      2. nad yw'r syrcas deithiol wedi'i lleoli ar yr un safle am fwy na 28 diwrnod yn olynol.

Os nad ydych yn siwr os yw'r gweithgareddau rydych chi'n eu cynnig angen eu trwyddedu ai peidio, dylech gysylltu â'ch awdurdod trwyddedu i gael cyngor pellach.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu