Toglo gwelededd dewislen symudol

Nodiadau Cyfarwyddyd Grantiau Trethi Busnes y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau

 

Am y canllawiau hyn

 

1.    Bwriad y canllawiau hyn yw cefnogi cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ("awdurdodau lleol") i weinyddu cynlluniau grant cymorth busnes sy'n gysylltiedig â'r system Ardrethi Annomestig yng Nghymru.

 

2.    Diben y cynlluniau grantiau sy'n gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig yw cefnogi busnesau gyda'u llif arian parod uniongyrchol a'u helpu i oroesi canlyniadau economaidd y cyfyngiadau ychwanegol sy'n angenrheidiol i reoli lledaeniad COVID-19.

 

3.    Dechreuodd y cyfyngiadau hyn ar ddydd Gwener 4 Rhagfyr, ac fe'u hestynnwyd gan y Prif Weinidog yn ei gyhoeddiad ar 12 Mawrth 2021. Bydd y cynllun sy'n cael ei gyflwyno ar 15 Mawrth 2021 yn helpu busnesau sydd wedi eu heffeithio yn sgil y cyfyngiadau coronafeirws i dalu costau gweithredu sy'n dod o fewn blwyddyn ariannol 2020/21 hyd at 31 Mawrth 2021.

 

4.    Dylai'r cynlluniau grant blaenorol sy'n gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr 2020, ac a estynnwyd yn ddiweddarach, gael eu cau i ymgeiswyr newydd am 5pm ddydd Iau 11 Mawrth 2021.

 

5.    Fel gyda'r cynlluniau grant blaenorol sy'n gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig COVID-19 a gyflwynwyd yng Nghymru ers mis Rhagfyr 2020, mae'r cynlluniau sy'n cael eu cyflwyno ar 15 Mawrth 2021 (a phwnc y canllawiau hyn) yn parhau i fod wedi'u targedu o ran natur i ddarparu cymorth uniongyrchol i fusnesau lletygarwch yn bennaf.

 

6.    Bydd y grantiau hefyd yn cefnogi busnesau cadwyn gyflenwi sy'n gysylltiedig â'r sectorau lletygarwch a rhai busnesau manwerthu sy'n gallu dangos effaith sylweddol ar eu gweithgarwch masnachu o ganlyniad i'r cyfyngiadau ychwanegol a gyflwynwyd.

 

7.    Ar gyfer busnesau a gofrestrodd ac y dyfarnwyd grant sy'n gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig iddynt o dan gynlluniau grant sy'n gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig mis Rhagfyr 2020 ymlaen, disgwylir i awdurdodau lleol wneud taliad awtomataidd o dan y cynllun newydd hwn.

 

8.    Bydd angen i fusnesau sydd wedi'u lleoli mewn hereditamentau cymwys nad ydynt wedi cofrestru o'r blaen, neu nad ydynt wedi cael grant o dan gynlluniau grant sy'n gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig mis Rhagfyr ymlaen, lenwi ffurflen gofrestru fer. Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod y ffurflen gofrestru ar gael rhwng 15 Mawrth a 31 Mawrth 2021. Disgwylir i hyn fod yn berthnasol i nifer fach o fusnesau sydd wedi'u lleoli mewn hereditamentau cymwys nad ydynt eto wedi gwneud eu hunain yn hysbys.

 

9.    Yr awdurdod lleol sy'n penderfynu darparu grant yn y pen draw, a dylai fod yn seiliedig ar brif egwyddor cynlluniau grant sy'n gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig sy'n rhoi cymorth i fusnesau y mae cyfyngiadau COVID-19 wedi effeithio'n negyddol arnynt.

 

10. Fel gyda chynlluniau blaenorol, bydd y grantiau newydd hyn yn ategu cynlluniau Llywodraeth y DU, gyda chostau cyflogaeth yn cael eu talu'n bennaf drwy'r Cynllun Cadw Swyddi (JRS), sydd wedi ei estyn i fis Medi 2021.

 

11. Mae cynllun grant Cronfa Cadernid Economaidd gwerth £30m penodol ar gyfer lletygarwch wedi'i gyflwyno hefyd, ac mae'n cael ei weinyddu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2021. Bydd yn agor ar gyfer ceisiadau llawn ddydd Mawrth 9 Mawrth 2021 a bydd yn cau ddydd Gwener 12 Mawrth 2021.

 

Y cynlluniau grant sy'n gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig

 

12. Mae dau gynllun grant newydd sy'n gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig yn cael eu cyflwyno gan Weinidogion Cymru ym mis Mawrth 2021. Maent fel a ganlyn.

 

i) Grant A:

Taliad grant arian parod o £4,000 ar gyfer busnesau lletygarwch, twristiaeth a'r gadwyn gyflenwi gysylltiedig gan gynnwys rhai busnesau manwerthu sydd âhereditamentau cymwys i Ryddhad Ardrethi i Fusnesau Bach gyda gwerth ardrethol o £12,000 neu lai.

ii) Grant B:

Taliad grant arian parod o £5,000 ar gyfer busnesau lletygarwch, twristiaeth a'r gadwyn gyflenwi gysylltiedig gan gynnwys rhai busnesau manwerthu sydd wedi'u lleoli mewn hereditamentau gyda gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £500,000.

 

13. Dylai awdurdodau lleol brosesu'r ddau grant ar gyfer busnesau a dderbyniodd grant sy'n gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig drwy'r cynlluniau a lansiwyd ym mis Rhagfyr 2020 heb fod angen cyflwyno unrhyw brosesau ymgeisio pellach.

 

14. Ar gyfer busnesau cymwys nad ydynt wedi gwneud cais am grant neu wedi derbyn grant o'r blaen, dylai ffurflen gofrestru fod ar gael. Dylai awdurdodau lleol agor y broses gofrestru ar gyfer y busnesau hyn ddydd Llun 15 Mawrth 2021 a'i chau am 5pm ddydd Mercher 31 Mawrth 2021.

 

15. Gofynnir i fusnesau sy'n cofrestru am y tro cyntaf hunan-ddatgan a ydynt wedi profi gostyngiad o 40% mewn trosiant ar gyfer mis Ionawr 2021 a mis Chwefror 2021 o gymharu â mis Ionawr 2020 a mis Chwefror 2020.

 

16. Ar gyfer busnesau sy'n cofrestru nad oeddent eto wedi dechrau masnachu ym mis Ionawr 2021, bydd angen i awdurdodau lleol ddefnyddio eu disgresiwn wrth asesu'r cais.

 

17. Bydd angen i fusnesau sydd angen cofrestru fod yn atebol fel trethdalwr i'r awdurdod lleol ac wedi'u lleoli mewn hereditament cymwys ar 1 Mawrth 2021 ac fydd angen iddynt fod wedi bod yn masnachu ac yn cynhyrchu incwm drwy werthiant lan hyd at 6yp ar4ydd Rhagfyr 2020.

 

18. Mae'r cyfyngiad eiddo lluosog sy'n berthnasol i'r cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach yn berthnasol i'r grant hwn. Felly, dim ond ar gyfer uchafswm o ddau eiddo ym mhob ardal awdurdod lleol y caiff yr un trethdalwr dderbyn y grant.

 

19. Bydd Grant A hefyd yn berthnasol i bob trethdalwr sy'n gymwys i gael rhyddhad elusennol a rhyddhad Clybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol (CASC), sy'n gweithredu yn y sectorau hamdden a lletygarwch wedi'u lleoli mewn eiddo â gwerth ardrethol o hyd at £12,000. Mae disgresiwn gan awdurdodau lleol i ddarparu grantiau i gyrff nid-er-elw y maent yn eu hystyried yn gweithredu at ddibenion elusennol ond nad ydynt yn cael rhyddhad elusennol na rhyddhad CASC ar hyn o bryd. Dim ond i sefydliadau nid-er-elw sy'n cael rhyddhad ardrethi dewisol neu sydd â hawl iddo ac sy'n gweithredu yn y sectorau hamdden neu letygarwch y mae'r disgresiwn hwn yn berthnasol.

 

20. Mae Grant B hefyd ar gael i sefydliadau nid-er-elw sydd wedi'u lleoli mewn eiddo lletygarwch a hamdden cymwys.

 

Gweinyddu'r cynlluniau

 

21. Er mwyn helpu busnesau sy'n dioddef effaith cyfyngiadau estynedig i oroesi, mae'n bwysig bod cyllid yn eu cyrraedd yn gyflym ac yn effeithlon ond gyda mesurau diogelu swyddogion cyfrifyddu priodol ar waith.

 

22. Y bwriad fydd cadw ffurflenni cofrestru mor syml â phosibl ac ailddefnyddio dulliau gweithredu sydd wedi'u profi cyn belled ag y bo modd.

 

23. Bydd awdurdodau lleol yn cael cymorth ariannol i helpu i dalu costau gweinyddu'r grantiau hyn. Darperir rhagor o fanylion am hyn ar wahân.

 

24. Mae Estyniad Grantiau sy'n Gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Mawrth 2021 ar wahân i gylchoedd cynharach o gymorth grant sy'n gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig, ac yn wahanol iddynt. Mae'r holl gynlluniau grant blaenorol sy'n gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig bellach ar gau i ymgeiswyr newydd ac nid oes unrhyw eithriadau i hyn.

 

25. Nid yw cofrestru ar gyfer Estyniad Grantiau sy'n Gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Mawrth 2021 yn galluogi busnesau i wneud cais ôl-weithredol am gynlluniau grant blaenorol nac unrhyw gynlluniau grant eraill.

 

Diffiniadau - Lletygarwch

 

26. Mae hereditamentau lletygarwch cymwys yn cynnwys:

  • Bwytai
  • Caffis
  • Tafarnau
  • Bariau neu fariau gwin
  • Darparwyr llety (e.e. gwestai)

 

27. Yn ogystal, mae'n ofynnol i rai safleoedd gau o dan y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020, fel y'u diwygiwyd. Darperir rhestr o eiddo o'r fath isod.

  • Neuaddau cyngerdd
  • Theatrau
  • Mangreoedd clwb trwyddedig neu leoliadau cerddoriaeth fyw
  • Neuaddau bingo
  • Alïau bowlio, arcedau diddanu a mannau chwarae o dan do
  • Sinemâu
  • Canolfannau sglefrio
  • Ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema
  • Amgueddfeydd ac orielau
  • Atyniadau i ymwelwyr

28. Lle mae busnesau sydd wedi'u lleoli mewn mathau o eiddo a restrir uchod wedi gwneud cais ac wedi derbyn grant o dan gynlluniau grant sy'n gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig mis Rhagfyr 2020 ymlaen, disgwylir i awdurdodau lleol wneud ail daliad awtomataidd o dan y cynllun newydd hwn.

 

29. Bydd angen i unrhyw fusnesau sydd wedi'u lleoli mewn hereditamentau a allai fod yn gymwys nad ydynt wedi cofrestru, neu na ddyfarnwyd grant iddynt o dan gynlluniau grant sy'n gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig mis Rhagfyr 2020 ymlaen, gwblhau'r broses gofrestru.

 

Diffiniadau - Lletygarwch, Twristiaeth, Cadwyn gyflenwi hamdden a Manwerthu

 

30. Wrth brosesu unrhyw geisiadau newydd ar gyfer pob un o'r grantiau uchod gan fusnesau lletygarwch, twristiaeth, cadwyn gyflenwi lletygarwch a manwerthu y mae'r cyfyngiadau newydd yn effeithio'n sylweddol arnynt, dylai awdurdodau lleol ddefnyddio canllawiau Llywodraeth Cymru ar Ryddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru - 2020-21. Mae'r canllawiau'n rhoi rhestr fanwl o'r hereditamentau sy'n gymwys. Mae hefyd yn darparu rhestr o hereditamentau nad ydynt yn gymwys.

 

31. Mewn perthynas â llety hunanddarpar, mae'r un canllawiau ag ar gyfer cynlluniau grant blaenorol sy'n gysylltiedig ag ardrethi annomestig yn berthnasol, sef na fydd eiddo'n gymwys i gael y grant oni bai bod y meini prawf canlynol yn cael eu bodloni:

  • Gall y llety hunanddarpar ddarparu dwy flynedd o gyfrifon masnachu am y cyfnod yn union cyn blwyddyn ariannol gyfredol y busnes
  • Rhaid i'r busnes llety hunanddarpar fod yn brif ffynhonnell incwm i'r perchennog (isafswm trothwy yw 50%).
  • Rhaid bod y llety hunanddarpar wedi'i osod am gyfnod o 140 diwrnod neu fwy dros gyfnod parhaus o 12 mis yn ystod y ddwy flynedd cyn y cais am grant

32. Ar gyfer eiddo hunanddarpar, mae gan awdurdodau lleol ddisgresiwn llawn i ofyn am gyfrifon busnes masnachu, rhestrau archebu a ffurflenni treth hunanasesu a gyflwynwyd i CThEM os oes angen tystiolaeth ychwanegol i ddangos bod y meini prawf hyn wedi eu bodloni. Mewn achosion lle mae awdurdodau lleol wedi penderfynu gofyn am dystiolaeth ychwanegol a bod y dystiolaeth yn dangos nad yw meini prawf y cynllun yn cael eu bodloni, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol atal talu'r grant.

 

33. Rhagdybir y bydd awdurdodau lleol, lle bo angen, eisoes wedi cynnal unrhyw wiriadau ar eiddo hunanddarpar a dderbyniodd daliad fel rhan o gynlluniau grant cynharach sy'n gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig (yn arbennig y cynllun cyfnod atal byr a'r cynlluniau sydd ar gael yng Nghymru ers mis Rhagfyr 2020). Felly, ni ddisgwylir ail archwiliadau o'r un busnesau hunanddarpar sydd eisoes wedi derbyn grant fel rhan o'r cynllun newydd hwn.

 

34. Mewn perthynas â gamblo a hapchwarae, ystyrir arcedau o'r math y gellid eu dosbarthu'n ddifyrrwch yn hytrach nag eiddo hapchwarae yn sefydliadau hamdden ac maent yn gymwys i gael y grantiau naill ai drwy'r llwybr rhyddhad ardrethi i fusnesau bach neu, os yw gwerth trethadwy'r safle yn eu gwneud yn gymwys, am y grant mwy o £5,000 fel cyfleusterau hamdden.

 

35. O ran sefydliadau hapchwarae (sydd fel arfer i'w gweld mewn amgylchedd canol dinas ond a allai fod wedi'u lleoli yn unrhyw le hefyd) sydd fel arfer â mynediad cyfyngedig i bobl 18 oed a throsodd ac sydd a) heb hawl i ryddhad ardrethi i fusnesau bach a b) lle mai gamblo yn hytrach na difyrrwch yw'r prif weithgaredd, nid ydynt yn gymwys ar gyfer y grant manwerthu, hamdden a lletygarwch. Mae canllawiau'r cynllun Ardrethi Annomestig ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru - 2020-21 yn eithrio hereditamentau gamblo yn benodol.