Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Beth yw newid hinsawdd?

Mae tystiolaeth wyddonol glir i ddangos fod yr hinsawdd yn newid oherwydd allyriadau nwyon tŷ gwydr o ganlyniad i weithgaredd dynol.

Mae mwyafrif yr allyriadau yn deillio o'r galw am ynni (gwres, pŵer, trafnidiaeth). Y cyfrannwr mwyaf yw carbon deuocsid (CO2), sy'n cael ei allyru pan fydd tanwyddau ffosil yn cael eu llosgi i ddiwallu'r galwadau hynny. Mae yna allyriadau hefyd sy'n gysylltiedig â phrosesau diwydiannol ac amaethyddiaeth.

Mae hanfodion yr effaith Tŷ Gwydr yn cael eu trafod gan nifer, yn cynnwys y Gymdeithas Frenhinol sydd â fideo un munud o hyd. Mae ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr eisoes wedi creu planed gynhesach; rydym eisoes yn profi effeithiau hinsawdd sy'n newid, gan gynnwys cynnydd mewn llifogydd, lefelau môr sy'n codi a digwyddiadau tywydd eithafol.

Mae atebion yn bodoli, trwy gynyddu ein heffeithiolrwydd ynni, newid i ynni adnewyddadwy i bweru a gwresogi ein hadeiladau a thrafnidiaeth ac adfer dalfeydd carbon; gallwn greu hinsawdd fwy diogel, arbed bywydau a bywoliaeth a gwella llesiant.  

Pam mae hyn yn bwysig?

  • Mae Newid Hinsawdd yn fygythiad dirfodol i'n bodolaeth, mae'n ymwneud â bodolaeth bywyd. Rydym eisoes yn profi newid peryglus yn yr hinsawdd. Mae'n gofyn am weithredu beiddgar i fynd i'r afael ag ef.
  • Mae Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF) wedi creu ychydig o ffeithluniau ar effeithiau Newid Hinsawdd. Mae'r wybodaeth hon yn amlygu'r gwahaniaeth rhwng 1.5 gradd a 2 gradd o gynhesu, gan grynhoi gwybodaeth oddi wrth yr IPCCs SR1.5.  Mae pobl wedi cael eu symud oddi ar rai ynysoedd lefel isel eisoes oherwydd bod lefel y môr yn codi ac y bydd y newid hinsawdd a ragwelir yn arwain at gynnydd mewn llifogydd, tonnau gwres, lefel y môr yn codi a mwy. Gall ein camau gweithredu arbed bywydau a bywoliaeth yn awr.