Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Pwy sy'n ymrwymo i weithredu?

Nod Cytundeb Paris a arwyddwyd gan 194 o Wledydd yn 2016 oedd cadw newid hinsawdd hyd at lefel sydd "ymhell o dan" 2 radd o gynhesu a 1.5 gradd o ddewis.

Nod llywodraeth y DU yw anelu at sero-net erbyn 2050 ac ym mis Rhagfyr 2020, roedd y llywodraeth wedi addo gostyngiad o 68% hefyd o fewn degawd.  

Targed y Pwyllgor dros Newid Hinsawdd i Gymru oedd gostyngiad o 95% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050. Yn 2019, roedd llywodraeth Cymru wedi cael hyn fel targed ac wedi cael yr uchelgais o fod yn sero-net erbyn 2050. Ar ddiwedd 2020, roedd y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd wedi cynhyrchu ei adroddiad bob dwy flynedd yn argymell y dylid cynyddu targed Cymru i sero-net.

Mae nifer o fewn y sector preifat yn anelu tuag at sero-net erbyn 2040, trwy fentrau megis yr addewid hinsawddmission possible.   

Mae'r Cyngor Partneriaeth dros Gymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflawni sector cyhoeddus sy'n garbon niwtral erbyn 2030.

Mae dros ddeg ar hugain o noddwyr y trydydd sector wedi addo i fynd i'r afael â newid hinsawdd.

Mae Powys yn cynnal amrywiaeth eang o grwpiau cymunedol sy'n gweithredu ar Newid Hinsawdd. Mae enghreifftiau yn cynnwys Aberhonddu, Llanfair-ym-Muallt, Llandrindod, Llanidloes, Machynlleth, Grŵp Ynni Trefaldwyn, Y Drenewydd, Llanandras.

Cyngor Tref Machynlleth oedd y cyntaf yng Nghymru i ddatgan Argyfwng Hinsawdd.

Cynhaliwyd un o'r cyrsiau meistr cyntaf ar gynaliadwyedd a phrosiect Carbon Sero Prydain yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen. Hyd yn oed pan mae'r ganolfan ar gau, gallwch edrych ar weminarau'r gorffennol. 
 

Pwy sy'n gweithredu ar newid hinsawdd?