Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwybodaeth i Lywodraethwyr newydd

 

Dylech gyfarfod â'r Pennaeth a/neu gadeirydd y llywodraethwyr cyn eich cyfarfod cyntaf, er mwyn i chi ddod i'w hadnabod a gofyn unrhyw gwestiynau. Mae'n bosibl y byddwch yn cael mentor hefyd - llywodraethwr profiadol sy'n gallu eich helpu i ddysgu tra byddwch yn y rôl.

 

Dylai llywodraethwyr newydd ofyn i'r clerc am y dogfennau canlynol:

  • Canllaw ar y Gyfraith i Lywodraethwyr Ysgolion
  • Adroddiad Arolygiad Estyn a'r Cynllun Gweithredu
  • Prosbectws yr Ysgol
  • Rhestr o aelodau'r corff llywodraethu
  • Copi o strwythur staffio'r ysgol
  • Copi o adroddiad diweddar ar gyllideb yr ysgol
  • Cynllun Datblygu cyfredol yr Ysgol
  • Yr Adroddiad Blynyddol mwyaf diweddar i Rieni
  • Cofnodion cyfarfodydd diweddar y corff llywodraethu
  • Calendr cyfarfodydd y corff llywodraethu
  • Cynllun o'r ysgol
  • Unrhyw bolisi ysgol arall

 

Cysylltiadau

Dilynwch ni ar

Rhowch sylwadau am dudalen yma