Sut i ddod yn Lywodraethwr Awdurdod Lleol
Rhaid i lywodraethwyr awdurdodau lleol allu dangos ymrwymiad i'w hyfforddiant a'u datblygiad parhaus ac i ddod i adnabod eu hysgol yn dda.
Mae'n rhaid i'ch Cynghorydd/Cynghorwyr lleol fod yn ymwybodol o'ch cais ac wedi cymeradwyo'r cais i chi fod yn llywodraethwr Awdurdod Lleol.
Mae cyfnod ymsefydlu trylwyr a chynhwysfawr yn hanfodol os yw llywodraethwyr newydd i ddeall eu rôl a gwneud cyfraniad effeithiol i'w corff llywodraethu, a disgwylir i lywodraethwyr awdurdodau lleol sy'n newydd i lywodraethu ysgolion fynychu'r hyfforddiant Sefydlu a Data gorfodol o fewn eu deuddeg mis cyntaf yn y swydd. Disgwylir hefyd i lywodraethwyr Awdurdodau Lleol ymgyfarwyddo â'r blaenoriaethau cenedlaethol a blaenoriaethau'r ysgol a bod yn barod i gadw eu gwybodaeth a'u sgiliau'n gyfredol.
Profiad
Dylai llywodraethwyr awdurdodau lleol feddu ar arbenigedd neu arbenigedd bywyd neu brofiad bywyd a fydd yn cyfrannu at set sgiliau'r corff llywodraethu gan gynnwys:
- Arbenigedd busnes neu broffesiynol
- Profiad fel llywodraethwr ysgol, ymddiriedolwr neu rôl wirfoddol arall
- Profiad o weithio gyda phlant, pobl ifanc neu deuluoedd.
Sgiliau a Phriodoleddau
Bydd llywodraethwyr awdurdodau lleol yn gallu dangos y canlynol:
- Angerdd ac ymrwymiad i wella ysgolion a chodi safonau i alluogi pob plentyn a pherson ifanc i gyflawni ei botensial
- Ymrwymiad i weithio fel rhan o dîm
- Meddwl ymchwilgar gyda'r gallu i gefnogi a herio'r pennaeth a thîm arweinyddiaeth yr ysgol yn briodol
- Ymrwymiad i gyflawni rôl llywodraethwr awdurdod lleol ee mynychu cyfarfodydd, darllen gwaith papur ac ymweld â'r ysgol.
Gwerthoedd ac Ymddygiadau
Rhaid i lywodraethwyr Awdurdod Lleol gytuno i wneud y canlynol:
- Gweithio fel rhan o dîm, a mynegi eu barn yn agored, yn gwrtais ac yn barchus
- Parchu cyfrinachedd a'r angen i weithredu'n ofalus gan gynnwys defnyddio gwefannau rhwydweithio cymdeithasol yn gyfrifol
- Cofnodi unrhyw fuddiannau busnes mewn cysylltiad â busnes y cyrff llywodraethu a datgan unrhyw wrthdaro buddiannau
- Cynnal Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus
- Cynnal gwerthoedd y Cyngor o weithredu'n broffesiynol, cadarnhaol, blaengar, agored a chydweithredol
Disgwylir i lywodraethwyr awdurdodau lleol lofnodi'r Cod Ymddygiad ar gyfer eu corff llywodraethu yn flynyddol
I ofyn am ddolen i'r ffurflen gais, cysylltwch â Chymorth i Lywodraethwyr, manylion isod.
Dilynwch ni arCysylltiadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma