Toglo gwelededd dewislen symudol

Model Dichonoldeb Datblygu

Mae'r cyngor wedi gweithio ochr yn ochr â'r ymgynghorwyr Cynllunio a Datblygu Trefi, Burrows-Hutchinson Ltd, mewn partneriaeth â chynghorau eraill ar draws y rhanbarth i sefydlu offeryn asesu Model Dichonoldeb Datblygu (MDD).

Crëwyd y MDD fel model cynhwysfawr hawdd ei ddefnyddio at ddiben asesu dichonoldeb ariannol cynnig datblygu. Fe'i cynhyrchwyd i weithio gyda Microsoft Excel ar gyfer Office 365, gan redeg ar Microsoft Windows. Ceir manylion pellach manylebau'r MDD yn y Canllaw i Ddefnyddwyr, sydd ar gael drwy gais.

Offeryn arfarnu 'sy'n benodol i safle' yw'r MDD. Bydd pob copi o'r model a roddir gan y cyngor yn ymwneud â safle datblygu penodol. Gellir ailddefnyddio'r un copi o'r model fodd bynnag i asesu mwy nag un sefyllfa arfaethedig ar gyfer datblygiad y safle penodol.

Gall y cyngor sicrhau bod y MDD ar gael i ddatblygwyr neu unrhyw unigolyn/sefydliad arall at ddiben cynnal arfarniad dichonoldeb ariannol (ADA) o ddatblygiad arfaethedig. Caiff y model ei ryddhau ar sail safle penodol yn amodol ar y cyngor yn derbyn taliad ffi, fydd hefyd yn cynnwys adolygiad y Cyngor o'r model a gyflwynwyd.

Gellir defnyddio'r MDD fel offeryn i roi tystiolaeth o ddichonoldeb ariannol cynnig datblygu ar y cam cais cynllunio. Cysylltwch â'r cyngor ar ldp@powys.gov.uk os hoffech drafod ymhellach y defnydd o'r MDD at y diben hwn, gan gynnwys gwybodaeth am y ffïoedd a fydd yn berthnasol.

Os yw ymgeisydd neu ddatblygwr yn dymuno cyflwyno ei Asesiad Hyfywedd Datblygu ei hun, bydd ffi yn dal i gael ei godi gan y Cyngor i dalu am y gost o adolygu'r manylion a gyflwynwyd gan ddefnyddio'r DVM.

Gellir gweld yr Arweiniad Defnyddiwr sydd yn gysylltiedig a'r DVM drwy gais.  Hefyd, darperir dolenni isod i rai fideos 'How to' ar sut i ddefnyddio'r model. Darperir y rhain fel ffordd arall o helpu'r defnyddiwr i ddeall sut mae'r MDD yn gweithio mewn arweiniad cam wrth gam.

1. Cyflwyniad i'r Prosiect

2. Gorolwg o fathau o dai preswyl

3. Elfennau'r tai preswyl

4. Costau gan gynnwys tir

5. Gwerthusiad a llif arian